Numeri 36 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVI.Bod yn rhaid i ferched Zalphaad, ac i bob aeres arall briodi rhai oi llwythau eu hun.

1Pennau cenedl tylwyth meibiō Gilead, mab Machir, mab Manasses o dylwyth meibion Ioseph a ddaethant hefyd, ac a lefarasant ger bron Moses, a cher bron y pennaduriaid pennau cenedl meibion Israel.

2Ac a ddywedasant: Num.27.7. Iosua 17.3.yr Arglwydd a orchymynnod i’m harglwydd, roddi y tîr yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goel-bren: a’m harglwydd a orchymynnwyd gā yr Arglwydd roddi etifeddiaeth Zalphaad ein brawd iw ferched.

3Os hwynt a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau meibion Israel, yna y tynnir ymmaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tad ni, ac ai chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt, a phrinheuir ar randir ein etifeddiaeth ni.

4A phan fyddo y Iubili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hettifeddiaeth hwynt, ac etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt, oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tâd ni.

5A gorchymynnodd Moses i feibion Israel yn ôl gair yr Arglwydd, gan ddywedyd: y mae llwyth meibion Ioseph yn dywedyd yn inion.

6Dymma y gair yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd am ferched Zalpbaad, gan ddywedyd: byddant yn wragedd i’r y byddo da yn eu golwg eu hun, ondi rai o dylwyth llwyth eu tâd eu hun y byddant yn wragedd.

7Fel na threiglo etifeddiaeth meibion Israel, o lwyth i lwyth, ond glynu o feibion Israel bob vn yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun.

8A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel a fydd wraig i vn o dylwyth llwyth ei thâd ei hun: fel yr etifeddo meibion Israel bob vn etifeddiaeth ei dadau ei hun.

9Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall, canys llwythau meibion Israel a lynant bob vn yn ei etifeddiaeth ei hun.

10Megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth merched Zalphaad.

11Canys Mahelah, Thirza, Hagla, Milcha, a Noa merched Zalpaad fuant yn wragedd i feibion eu hewythr.

12[I wŷr]o dylwyth Manasses fab Ioseph y buant yn wragedd: a bu eu hetifeddiaeth wrth lwyth tylwyth eu tâd.

13Dymma y gorchymynnion, a’r barnedigaethau, y rhai a orchymynnodd yr Arglwydd i feibion Israel trwy law Moses, yn rhossydd Moab, am yr Iorddonen ag Iericho.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help