1Yna Elisêus a lefarase wrth y wraig yr hon y 2.Bren.4.35.bywhause efe ei mab gan ddywedyd, cyfot, a dos ti a’th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellech ymdeithio: canys ’r Arglwydd a alwodd am newyn, a a ddaw ar y wlâd saith mlynedd.
2A’r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: ac hi a aeth ymmaith, hi ai thylwyth, ac a ymdeithiodd yng-wlâd y Philistiaid saith mlynedd.
3Ac ym mhen y saith mlyndd y wraig a ddychwelodd o wlâd y Philistiaid: ac a aeth i weiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thîr.
4A’r brenin a ymddiddanodd a Gehezi llāgc gŵr Duw gan ddywedyd: adrodd i mi attolwg yr holl fawrhydri y rhai a wnaeth Elisêus.
5Ac fel yr oedd efe yn mynegu i’r brenin y môdd y bywhause efe y marw, yna wele y wraig yr hon y bywhause efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir: yna Gehezi a ddywedodd, fy Arglwydd frenin, dymma yr wraig, ac dymma ei mâb yr hwn a ddarfu i Elisêus ei fywhau.
6A’r brenin a ofynnodd i’r wraig, a hithe a fynegodd iddo ef: a’r brenin a roddodd iddi vn stafelludd gan ddywedyd, pâr roddi trachefn yr hyn oll eiddo hi, a holl gnŵd y maes, o’r dydd y gadawodd hi y wlad, îe hyd y prŷd hwn.
7Yna y daeth Elisêus i Ddamascus, a Benhadad brenin Syria oedd glâf: a mynegwyd iddo ef gan ddywedyd: daeth gŵr Duw ymma.
8A’r brenin a ddywedodd wrth Hazael, cymmer anrheg yn dy law, a dôs i gyfarfod a gŵr Duw: fel yr ymgynghorech a’r Arglwydd drwyddo ef, gan ddywedyd, a fyddafi byw o’r clefyd hwn?
9Felly Hazael a aeth iw gyfarfod ef, ac a gymmerth anrheg yn ei law, a phôb peth ddâ Ddamascus, llwyth deugain o gamêlod: ac a ddaeth, ac a safodd oi flaen ef, ac a ddywedodd, Ben-hadad brenin Syria dy fab di a’m hanfonodd fi attat ti gan ddywedyd, a fyddafi byw o’r clefyd hwn?
10Ac Elisêus a ddywedodd wrtho ef, dos, a dywet wrtho ef, ti a fyddi byw: etto yr Arglwydd a ddangosodd y bydd efe marw yn ddiau.
11Ac efe a gododd ei wyneb, ac a osododd nes cywilyddio o honaw ef, a gŵr Duw a ŵylodd.
12A Hazael a ddywedodd, pa ham fy arglwydd yr ydwyt ti yn ŵylo? dywedodd yntef, am fy mod yn gŵybod y drygioni yr hwn a wnei di i feibion Israel, eu hamddeffynfaoedd hwynt a losci di a thân, ai gwŷr ieuaingc a leddi a’r cleddyf, ai plant a ddrylli, ai gwragedd beichiogion a rwygi di.
13Yna Hazael a ddywedodd, beth dy wâs di? ai cî fel y gwnele efe y mawr beth hyn? ac Elisêus a ddywedodd, yr Arglwydd a’th ddangosodd di i mi yn frenin ar Syria.
14Felly efe a aeth ymmaith oddi wrth Elisêus, ac a ddaeth at ei arglwydd, yr hwn a ddywedodd wrtho ef, beth a ddywedodd Elisêus wrthit ti? efe a ddywedodd wrthif (eb yntef) y byddit ti byw yn ddiau.
15A thrannoeth efe a gymmerth gwrlid, ac ai gwlychodd mewn dwfr, ac ai lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hazael a deyrnasodd yn ei lê ef.
16Ac yn y bummed flwyddyn i Ioram fab Ahab frenin Israel, ac Iehosaphat frenin Iuda: y dechreuodd Ioram mab Iehosaphat brenin Iuda deyrnasu.
17Mab ddeuddeng-mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu: ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem.
18Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnaethe tŷ Ahab, canys merch Ahab oedd iddo ef yn wraig: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd.
19Ond 1.Bren.11.36.ni fynne’r Arglwydd ddifetha Iuda er mwyn Dafydd ei wâs: 2.Sam.7.13.megis y dywedase efe wrtho ef, y rhodde efe iddo oleuni iw feibion yn dragywydd.
20Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tann law Iuda: ac y gosodasant frenin i deyrnasu arnynt eu hun.
21Ac Ioram a aeth i Zair, a’r holl gerbydau gyd ag ef: ac efe a gyfododd liw nôs, ac a darawodd yr Edomiaid y rhai oeddynt yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau, a’r bobl a ffoawdd iw pabellau.
22Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tann law Iuda hyd y dydd hwn: yna y gwrthryfelodd Libnah y pryd hynny.
23A’r rhan arall o hânes Ioram, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?
24Ac Ioram a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd gyd ai henafiaid yn ninas Dafydd: 2.Cron.22.1.ac Ahazia ei fab ef a deyrnasodd yn ei le ef.
25Yn y ddeuddecfed flwyddyn i Ioram fab Ahab frenin Israel, yr aeth Ahazia mab Ioram brenin Iuda yn frenin.
26Mab dwy flwydd ar hugain Ahazia pan aeth efe yn frenin, ac vn flwyddyn y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Athaliah merch Omri brenin Israel.
27Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab, ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys daw tŷ Ahab efe.
28Ac efe a aeth gyd ag Ioram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hazael brenin Syria i Ramoth Gilead: a’r Syriaid a darawsant Ioram.
29Ac Ioram y brenin a ddychwelodd i Iezrahel i ymiachaû o’r dyrnodiau a’r rhai y tarawse y Syriaid ef yn Ramah wrth ymladd o honaw ef yn erbyn Hazael brenin Syria: ac Ahazia mab Ioram a ddaeth i wared i edrych Ioram mab Ahab yn Iezrahel, canys claf ydoedd efe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.