4.Esdras 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Y dialedd a ddaw ar y byd, cyngor pa fodd yr ymddygir mewn adfyd.

1Gwae dy di Babilon, ac Asia, gwae dy di ’r Aipht, a Siria:

2Ymwregyswch eich hunain â lliain sach, ac â rhawn, galerwch dros eich plant, byddwch drist: canys eich destruw sydd ger-llaw.

3Cleddyf a ddanfonwyd arnoch, a phwy ai try ef oddi wrthych:

4Tân a ddanfonwyd yn eich plith, a phwy ai diffodd ef:

5Dialeddau a ddanfonwyd attoch, a phwy ai gyrr hwy ymmaith?

6A all neb yrru ymmaith y llew newynog yn y coed: neu a all neb ddiffodd tân pan ddechreuo gynne yn y sofl?

7A all vn droi yn ei hôl y saeth a saethodd perchen bŵa cryf:

8Y galluog Arglwydd sydd yn danfō y dialeddau, a phwy yw hwn ai gyrr hwy ymmaith:

9Y tân a gynneuwyd, ac a enynnodd yn ei lîd, a phwy yw efe ai diffodd:

10Efe a deifl y mellt, a phwy nid ofna: efe a darana, a phwy ni ddychryn:

11Duw a fygwth, a phwy ni wneir yn friwsion ger ei fron ef:

12Y ddaiar ai sylfeini a escydwa, y môr a gyfid ei donnau o’r dyfnder, a’r tonnau sy afrolus, a’r pyscod hefyd ger bron yr Arglwydd, ac o flaen gogoniant ei allu ef.

13Canys cref yw deheulau ’r hwn sydd yn annêlu ’r bŵa, a’r saethau a saetha efe ydynt lymmion, ac ni phallant pan ddechreuer eu saethu hwynt i eithaf bŷd.

14Wele, yr dialeddau a ddanfonwyd, ac ni ddychwelant nes eu dyfod hwy ar y ddaiar.

15Y tân a gynneuwyd, ac ni’s diffoddir ef, nes iddo losci sylfeini y ddaiar.

16Fel na ddychwel y saeth yr hon a saetho perchen bŵa cryf: felly ni ddychwel y dialeddau a ddanfonir ar y ddaiar.

17Gwae fi, gwae fi, pwy a’m gwerid yn y dyddiau hynny:

18Dechreuad tristwch a galar mawr, dechreuad drudaniaeth a marwolaeth fawr, dechreuad rhyfeloedd, a’r gwŷr galluog a ofnant, dechreuad drygioni a phawb a grynant.

19Beth a wnaf i yn hyn pan ddel y dialeddau:

20Wele, newyn, a phlâ, blinder a chŷni a ddanfonwyd yn ffrywill i beri i ni wellhau.

21Ond er hyn ei gŷd, ni throant oddi wrth eu hanwireddau, ac ni feddyliant bôb amser am y ffrywillau.

22Wele, bwyd a diod a fydd rhâd ar y ddaiar, fel y tebygant eu bôd wrth eu bodd: a’r prŷd hynny y daw dialedd ar y ddaiar, cleddyf, newyn, ac afrôl mawr.

23Canys llawer o’r rhai sy yn trigo ar y ddaiar a fyddant feirw o newyn, a’r lleill a ddiango rhag y newyn, y cleddyf ai difetha:

24A’r meirw a deflir allan fel tail, ac ni bydd neb iw cyssuro hwynt: canys y ddaiar a anrheithir, a’r dinasoedd a fwrir i lawr.

25Ac yna ni adewir neb i lafurio ’r ddaiar ac iw hau.

26Y coedydd a roddant ffrwyth, a phwy a dynn y ffrwyth i lawr, ac ai cynhaiafa hwynt:

27Y gwinwŷdd a addfedāt, a phwy ai sathr: canys pôb man a fydd yn ddi bobl:

28Fel y dymuno y naill ŵr weled y llall, neu glywed ei leferydd ef.

29Canys o ddinas, dêc a adewir, a dau o’r maes, y rhai a ymguddiant yn y perthi, ac yn ogofydd y creigiau,

30Fel ped fai dair ne bedair o oliwydd weddi eu gadel yn y man lle y byddo ’r oliwŷdd yn tyfu, neu ym mysc coedydd eraill,

31Ne fel pan gascler gwinllan, y rhai a chwiliant y winllan yn ddyfal a adawant tai o’r grawn-win yn eu hôl:

32Felly y gedi y rhai a chwilio eu tai hwy a’r cleddyf dri neu bedwar yn ôl.

33A’r ddaiar a adewir yn anghyfannedd, a’r meusydd a heneiddiant, a’r ffyrdd a’r holl lwybrau a dyfant yn llawn o ddrain, am nad ymdeithia neb trwyddynt.

34Y morwynion ieuaingc a âlarant heb wŷr iddynt, y gwragedd a wnânt gwynfan heb eu gwŷr, ai merched a alarant am nad oes amddeffyn iddynt,

35Yn y rhyfel y difethir eu priod hwy, ai gwŷr hwynt a fyddant feirw o newyn.

36Ond chwychwi wasanaeth-wŷr yr Arglwydd, gwrandewch y pethau hyn a merciwch hwy.

37Wele air yr Arglwydd, derbynniwch ef, na chredwch mo ’r duwiau am y rhai y dywedodd yr Arglwydd.

38Wele ’r dialeddau yn nessau, ac ni oedant ddyfod.

39Fel gwraig wrth escor yr hon a ddwg fâb ym mhen y naw-mis, pan ddêl yr amser i escor, poen a ddow ar ei chorph aŵr, neu ddwy, neu dair o’r blaen, a phan âuer yr etifedd nid arhosant amnaid llygad:

40Felly nid oeda ’r dialeddau ddyfod ar y bŷd, a’r bŷd a alara, a thristwch-ddaw arno o bôb parth.

41O fy mhobl gwrandewch arnaf, ymbaratoiwch i’r rhyfel, a byddwch ym mhob drygi­oni fel pererinnion ar y ddaiar.

42Yr hwn a wertho, bydded fel vn yn ffoi ymmaith: a’r hwn sydd yn prynu, bydded fel vn yn colli:

43A’r hwn a farsiandio, bydded fel vn heb ennill: a’r hwn a adailado fel vn heb gael trigo ynddo.

44Yr hwn a hauo, bydded fel yr hwn ni’s medo: yr hwn a dorro y winllan fel yr hwn ni chasclo y grawn-win:

45Y rhai a briodant, byddant fel rhai ni chânt blant: a’r rhai ni phriodant, fel gweddwon.

46Am hynny y rhai a lafuriant, a lafuriant yn ofer.

47Canys dieithraid a fedant eu ffrwyth, ac a ddifethant eu dâ, ac a fwriant i lawr eu tai, ac a gaethgludant eu plant: canys mewn caethiwed, a newyn y cânt blant.

48A’r rhai a farsiandîa drwy spelio, pa mwyaf y trwsiant eu dinasoedd, eu tai, eu meddiannau, ai cyrph eu hunain,

49Mwyaf y cosbaf inne hwythau am eu pechodau medd yr Arglwydd.

50Fel y cenfigenna puttain wrth wraig ônest rinweddol:

51Felly y casâ cyfiawnder anwiredd pan ymdrwsio hi, ac ai cyhudda hi yn ei hwyneb pan ddêl efe ’r hwn a attalio yr hwn sydd yn ceisio pechod ar y ddaiar.

52Ac am hynny na fyddwch debyg iddi hi nac iw gweithredoedd:

53Canys cyn pen nemor o ennyd, anwiredd a dynnir ymmaith oddi ar y ddaiar, a chyfiawnder a lywodraetha yn eich plith chwi.

54Na ddyweded y pechadur na phechodd: canys marwor tāllyd a lysc ar ben yr hwn a ddywedo o flaen Duw ai ogoniant, ni phechais.

55Wele ’r Arglwydd a ŵyr holl weithredoedd dynion, eu bwriadau, eu myddyliau at ca­lonnau.

56Canys ni ddywedodd efe ond y gair, (gwneler y ddaiar) a hi a wnaethbwyd: gwneler y nefoedd, a hwynt a wnaethbwyd.

57Gan ei air ef y gwnaethbwyd y sêr, ac efe a ŵyr eu rhifedi hwynt.

58Efe a chwilia waelodion y dyfnderoedd, ai tryssor, mesurodd y môr, a’r hyn sydd ynddo.

59Efe a gaeodd y môr yng-hanol y dyfroedd, at ai air y crogodd efe y ddaiar ar y dyfroedd.

60Efe a dana ’r nefoedd fel crom-glwyd, ac ar y dyfroedd y gwnaeth efe hi.

61Yn y diffaethwch a’r anialwch sych y gwnaeth efe ffynhonnau o ddwfr, a llynnoedd ar bennau ’r mynyddoedd, fel y galle ’r afonydd dywallt i lawr oddi ar y creigiau, i ddyfrhau y ddaiar.

62Efe a wnaeth ŵr, ac a roddes ei galon yng-hanol ei gorph, a rhoddes iddo ef anadi enioes a deall.

63Ie, ac ysbryd y galluog Dduw, ’r hwn a wnaeth bôb peth, ac a chwiliodd waelodion dirgelwch y ddaiar,

64Efe a ŵyr eich amcānion a’ch bwriadau, a pha beth yw eich meddwl pan bechoch, a phan fynnoch guddio pechodau.

65Am hynny y ceisiodd, ac y chwiliodd yr Arglwydd am eich holl weithreddoedd chwi, ac efe a’ch cyhudda.

66A phan ddyger eich pechodau chwi allan, bydd cywilydd arnoch o flaen dynion, a’ch pechodau eich hunain a’ch cyhuddant yn y dydd hwnnw.

67Pa beth a wnewch: neu pa fodd y cuddiwch chwi eich pechodau o flaen Duw ai angelion?

68Wele, ’r Arglwydd ei hun sydd farnŵr, ofnwch ef: peidiwch a phechu, a gollyngwch dros gof eich anwireddau, na fydded: chwi a wneloch mwy â hwynt: felly yr arwain Duw chwi, ac a’ch gwared chwi oddi wrth bôb blinder.

69Canys wele, gwrês lliaws mawr a gynneuwyd arnoch chwi, a hwy a ddygant ymmaith rai o honoch, ac a’ch lladdant yn fwyd iw delwau.

70A’r rhai a gydtunaut â hwynt a watwarir, a ddiystyrir, ac a sathrir dann draed.

71Canys fe fydd ym mhob lle, ac ym mhob dinas lawer yn codi yn erbyn y rhai a ofnant yr Arglwydd.

72Hwy a fyddant fel gwŷr ynfydion, nid arbedant neb, hwy a anrheithiant ac a laddant y rhai a fyddant etto yn ofni ’r Arglwydd:

73Canys cymmerant eu da oddi arnynt, ac ai bwriant allan oi tai.

74Yna y ceir gŵybod pwy yw fy netholedigion mau fi, a phrofir hwynt fel yr aur yn y tân.

75Gwrandewch chwi fy annwylyd (medd yr Arglwydd) wele, dyddiau ’r helbul sy ger llaw, ond mi a’ch gwaredaf rhagddynt.

76Nac ofnwch, ac na ddigalōwch, canys Duw yw eich capten.

77Y rhai a gadwant fyng-orchymynnion a’m deddfau mau fi (medd yr Arglwydd) na phwysed eich pechodau chwi i lawr, ac nac ym­dderchafed eich anwireddau.

78Gwae y rhai sy yn rhwym gan eu pechodau, ac wedi eu gorchguddio ai hanwireddau, fel maes wedi ei gaeu â pherthi, ai lwybr wedi ei guddio â drain, fel na allo neb fyned y ffordd honno: caewyd ef i fynu, a bwriwyd ef i’r tân yn dragywyddol iw ddifetha.

Terfyn pedwerydd llyfr Esdras.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help