Diharebion 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.

1Y neb a garo addysc a gâr ŵybodaeth: ond y neb a gasâo gerydd anifeilaidd yw.

2Gŵr dâ sydd gymmeradwy gan yr Arglwydd: ond y gŵr sceler a ddamna efe.

3Ni chadarnheir dŷn drwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn ni yscôga.

4Gwraig rymmus sydd goron i’w gŵr: ond y wradwyddus sydd lwgr yn ei escyrn ef.

5Meddyliau y cyfiawn sydd gyfiawn: a dichellion y drygionus sydd dwyllodrus.

6Geiriau y drygionus sy yn cynllwyn am waed: ond genau’r iniawn ai gwared hwynt.

7Duw a ddifetha y drygionus, fel na byddant hwy: ond teulu y cyfiawn a saif.

8Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr traws ei galon a ddiystyrir.

9Gwell yw’r hwn ai cydnebyddo ei hun yn wael, ac sydd wâs iddo ei hun: na’r ffrostiwr yr hwn sydd arno eisieu bara.

10Y cyfiawn a fydd ofalus am ei anifail: ond tosturiaeth y drygionus sydd greulon.

11Y neb a lafurio ei dîr a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyn ofer-wŷr anghall yw.

12Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd drygioni: ond gwreiddin y cyfiawn a rydd

13Drwy ddrigioni ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddiangc allan o gyfyngder.

14Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni: a dŷn a dderbyn daledigaeth yn ôl ei weithredoedd.

15Ffordd yr ynfyd sydd iniawn yn ei olwg ei hun: ond y neb a wrādawo ar gyngor sydd gall.

16Mewn vn-dydd y dengys ynfyd ei ddigter: ond y call a guddia gywilydd.

17Y neb a ddywedo’r gwir a ddengys gyfiawnder: ond gau dyst dwyll.

18 Pen.14.5. Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod doethion sydd feddyginiaeth.

19Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funyd awr.

20Dichell sydd yng-halon y rhai a ddychymmygant ddrwg: ond i gynghor-wyr heddwch y bydd llawenydd.

21Ni fwrir y cyfiawn i ddim blinder: ond y drygionus a lenwir â drwg.

22Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau twyllodrus: ond y rhai a wnant yn ffyddlon a ryngant fodd iddo ef.

23Gŵr pwyllog a gudd ŵybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

24 Pen.10.4. Llaw’r diysceulus a deyrnasa: a llaw’r twyllodrus a dâl deyrn-ged.

25Gofid yng-halon gŵr a bar iddi grymmu: ond gair dâ ai llawenhâ.

26Y cyfiawn a ragora ar ei gymmydog: ond ffordd y rhai drygionus ai twylla hwynt.

27Ni rostia y twyllodrus mo’r peth a heliodd: ond y dyn diysceulus a fwynhâ gyfoeth gwerthfawr.

28Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd: ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help