1Trugarhâ wrthif ô Dduw, trugarhâ wrthif, canys ynot y gobeithiodd fy enaid: îe yng-hyscod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd heibio.
2Galwaf ar Dduw goruchaf, ar y Duw a gwplâ â mi.
3Efe a enfyn o’r nefoedd, ac a’m gwared, warthrudd yr hwn a’m llyngce.Selah: Denfyn Duw ei drugaredd, ai wirionedd.
4Fy enaid sydd ym mysc llewod, gorwedd yr wyf ym mysc dynnion poethion: ai dannedd fel gwaiw-ffyn, neu saethau, ai tafod fel cleddyf llym.
5Ymddercha Dduw vwch y nefoedd: dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
6Darparâsant rwyd i’m traed, crymmwyd fy enaid, cloddiâsant bydew o’m blaen, syrthiâsant yn ei ganol.Selah.
7Parod yw fyng-halon O Dduw, parod yw fyng-halon: canaf, a chan-molaf.
8Deffro fyng-ogoniant, deffro Nabl a thêlyn, deffroaf yn foreu.
9Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd: can-molaf di ym mysc y cenhedloedd.
10Canys mawr dy drugaredd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd yr wybrau.
11Ymddercha Dduw vwch y nefoedd: dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
