1Os gwnei ddaioni, gŵybydd i bwy y gronelech, ac fe a fydd diolch am dy ddaioni di.
2 Gal.6.10.|GAL 6:10. 1.tim.5.8. Gwna ddaioni i’r duwiol, a thi a gei dál, onid ganddo ef, etto gan y Goruchaf.
3Ni bydd daioni i’r hwn a ymgynnefino â drygioni, ac i’r hwn nid ymmedu ag elusen: dod i’r duwiol ac na dderbyn bechadur.
4Gwna ddaioni i’r gostyngedic, ac na ddod ti i’r annuwiol, attal dy fara, ac na ddod iddo ef, rhag trwy hynny iddo ef dy orthrymmu di: o blegit am yr holl ddaioni a wnelech di iddo ef, efe a gaiff ddau cymmaint o ddrygioni i tithe.
5O herwyd câs gan y Goruchaf bechaduriaid, ac efe a ddial y rhai duwiol, ac ai ceidw hwythau i gadarn ddydd eu diâledd hwynt: dod i’r daionus, ac na dderbyn bechadur.
6Nid adweinir cyfaill mewn gwyn-fyd, ac ni lecha gelyn mewn dryg-fyd.
7Mewn gwyn-fyd gŵr ei elynnion ef yn drîst, ac yn ei ddryg-fyd yr ymnailltua y cyfaill.
8Nac ymddiriet ti i’th elyn byth,
9O blegit fel y rhyda prês, felly ei ddrygioni yntef.
10Er ymostwng o honaw ef, ac ymgrymmu, disgwil ar dy enaid, ac ymgadw rhagddo ef, a bydd iddo ef fel vn yn sychu gwydr, a thi a gei ŵybod na sychodd efe y rhŵd yn llwyr.
11Na osod ef yn agos attat, rhag iddo ef dy ddinistrio di, a sefyll yn dy le di: na osot ef ar dy law ddehau rhag iddo geisio cael dy gadair di, ac o’r diwedd cael o honot ŵybod fyng-eiriau i, a’th bigo a’m hymadroddion maufi.
12Pwy a dosturie wrth y swyn-wr a frathe neidr, nac wrth neb a ddeuent at fwyst-filod: felly wrth yr hwn a ddaw at bechadur, ac a ymdru yn ei bechodau ef.
13Vn awr yr erys efe mewn sefyll fod iawn, ond os gogwyddi di ni pheru efe.
14Melus Iere.41.56.fydd gelyn yn ei wefusau, ac yn ei galon efe a ymgynghora am dy droi di i’r ffôs.
15Efe a ŵyla ai lygaid, ac os caiff efe gyfamser, ni chaiff efe ei loned o waed: os drygfyd a ddigwydd i ti, ti ai cei ef yno yn gynt nâ thi, ac fel dŷn yn helpio efe a’th ddisodla di.
16Efe a escwyd ei ben, ac a gura ai ddwylo, ac siarad lawer, ac a newidia ei wynebpryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
