1.Machabæaid 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.1 Iudas a wnaethpwyd yn llywodraethwr ar yr Iddewō. 11 Efe yn lladd Apollonius a Seron tywysogion Syria, 44 Hyder Iudas ar Dduw. 55 Iudas yn bwriadu ymladd yn erbyn Lysias yr hwn a wnaeth Antiochus yn gapten ar ei lu. 50 Gweddi tros Nazareaid.

1Yna Iudas yr hwn a elwid Macchabæus ei fab ef a gododd i fynu yn ei lê ef,

2Ai holl frodyr ai cymmorthasant ef, a phawb a’r a lynase wrth ei dâd ef, ac hwy a ym­laddasant tros Israel yn llawen.

3Felly efe a helaethodd barch ei bobl, ac a wiscodd ddwyfronnec fel cawr ac a ymwregysodd âi luric, ac a osododd ryfeloedd, ac a amddeffynnodd y gwerssyll a’r cleddyf.

4Ac efe a fu debyg i lew yn ei weithredoedd, ac fel cenw llew yn rhuo ar ei helfa.

5Ac efe a erlidiodd y rhai drwg gan eu chwilio allan, ac a loscodd y rhai oeddynt yn cythryblu ei bobl ef.

6A’r rhai drwg a syrthiasant mewn cyfingder rhag ei ofn ef, a phawb a’r oeddynt yn gwneuthur drygioni a syrthiasant mewn cythry­fwl, felly y llwyddodd iechydwriaeth trwy ei lywodraeth ef.

7Ac efe a wnaeth i lawer o frenhinoedd ofidio, ac a llawenychodd Iacob ai weithredoedd, ac y mae ei goffadwriaeth ef yn fendith hyd yn dragywydd.

8Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd Iudaea, ac a ddestruwiodd y rhai annuwiol allan o honi hi, ac a drodd heibio ddigofaint oddi wrth Israel.

9Ai enw ef a gerddodd hyd eithafoedd y ddaiar, ac efe a gasclodd y rhai oeddynt ar ddarfod am danynt.

10Yna Apollonius a gasclodd genhedloedd a llu mawr o Samaria i ryfela yn erbyn Israel.

11Pan ŵybu Judas, efe a aeth iw gyfarfod ef, ac ai tarawodd ef: ac ai lladdodd ef, a llawer a sirthiasant yn archolledig, a’r llaill a ffoâsant, ac efe a gymmerodd eu hyspail hwy.

12Ac Iudas a gymmerodd gleddyf Apol­lonius, ac a ymladdodd ag ef holl ddyddiau.

13Pan glywodd Seron tywysog y llu o Syria gasclu o Iudas gynnulleidfa, ac eglwys o ffyddloniaid a rhyfel-wŷr gyd ag ef,

14Efe a ddywedodd, myfi a wnaf enw i mi fy hun, ac myfi a gaf barch yn y deyrnas, ac mi a ryfelaf yn erbyn Iudas a’r rhai sy gyd ag ef a’r rhai sy yn diystyru gorchymyn y brenin.

15Ac efe a ymrodd i ddyfod i fynu, a chyd ag ef y daeth gwerssyll cryf o rai annuwiol i fynu iw gymmorth ef, ac i wneuthur dial ar feibion Israel.

16Pan nessaodd efe yn gyfagos i riw Bethoron, Iudas a aeth allan iw gyfarfod ef â thorf fechan.

17A phan welsant hwy lu yn dyfod iw cyfarfod, hwy a ddywedasant wrth Iudas: pa fodd y gallwn ni, a ninnau yn ychydig ymladd yn erbyn lliaws cymmeint, gryfed: yr ydym ni wedi deffygio heb fwyd heddyw.

18Ac Iudas a ddywedodd, hawdd ydyw caeu llawer yn nwylo ychydig, ac nid oes rago­riaeth ger bron nef, rhwng achub âlla­wer neu ag ychydig.

19Canys nid yn lliawsogrwydd y llu y mae buddugoliaeth y rhyfel, ond cadernid sydd o’r nef.

20Maent hwy yn dyfod attom ni mewn mawr draha a cham-wedd in dwyn ni ymmaith, a’n gwragedd an plant i’n hyspeilio.

21Ond nyni ydym yn ymladd am ein henioes a’n cyfreithiau.

22Ac efe ai dryllia hwy ger ein bron ni, gan hyny nac ofnwch chwi rhagddynt hwy.

23A phan beidiodd efe a dywedyd, efe a neidiodd yn ddiarwybod arnynt hwy: felly y ddifethwyd Seron ai werssyll oi flaen ef.

24Ac hwynt ai herlidiâsant hwy ar hyd goriwared Bethoron hyd y maes, ac yno y lladded yng-hylch ŵyth-cant o wŷr o honynt hwy, a’r lleill a ffoâsant i wlâd y Philistiaid.

25Yna ofn ac arswyd Iudas at frodyr a ddechreuodd syrthio ar y cenhedloedd oi hamgylch hwy,

26Ai enw ef a gyrheddodd hyd at y brenin, a phob cenedl a fedre fynegu rhyfeloedd Iuda.

27A phan glybu Antiochus y brenin y geiriau hyn, efe a ddigiodd yn llidiog, ac a ddanfonodd allan, ac a gasclodd holl luoedd ei deyrnas yn werssyll cryfiawn.

28Ac efe a agorodd ei dryssor-dŷ, ac a roddes gyflogau iw luoedd tros flwyddyn, ac a orchymynnodd iddynt hwy fod yn barod tros flwyddyn i bob gwasanaeth.

29Ond pan welodd efe yr arian a’r tryssorau yn pallu a’r rhai oedd yn casclu teyrn-ged y wlad yn anaml, o blegit yr anghydtundeb, a’r dialedd a wnaethe efe yn y wlâd gan dynnu ymmaith y chfreithiau y rhai a fuase er y dyddiau cyntaf:

30Yna efe a ofnodd rhag na bydde ganddo ef ddigon i atteb vn waith neu ddwywaith y draul a’r rhoddion y rhai a roddase efe o’r blaen â llaw helaeth, fel y buase efe helaethach nâ ’r brenhinoedd o’r blaen mewn haelioni.

31Am hynny yr oedd efe mewn cyfyngder yn ei galon, ond efe a gymmerodd feddwl i fyned i Persia i gymmeryd teyrn-gêd y gwle­dydd, ac i gasclu llawer o arian.

32Am hynny efe a adawodd Lysias gŵr anrhydeddus, ac o genedl y brenin ar fatterion y brenin, o’r afon Euphrates hyd derfynau yr Aipht,

33Ac i ddwyn Antiochus ei fab ef i fynu hyd oni ddychwele efe.

34Ac efe a roddes iddo ef hanne y lluoedd, a’r Elephantiaid, ac a roes orchymynnion iddo ef am bob peth a’r a ewyllysie efe ei wneuthur, ac yng-hylch y rhai oeddynt yn trigo yn Iuda, ac yn Ierusalem,

35I ddanfon llu yn eu herbyn hwy i ddestruwid, ac i ddiwreiddio nerth yr Israeliaid, a gweddill Ierusalem, ac i dynnu ymmaith eu coffadwriaeth hwy o’r lle hwnnw.

36Ac i osod dynion dieithr i vrigo yn eir holl derfynau hwy, ac i gyfrannu eu gwlad hwy wrth goel-brennau.

37A’r brenin a gymmerodd hanner y llu­oedd y rhai a weddillasid, ac a gychwnnodd o Antioch dinas ei deyrnas ef y seithfed flwyddyn a deugain a chant, ac efe a aeth tros yr afon Euphrates, ac a drammwyodd trwy ’r gwledydd vchaf.

38A Lysias a ddewisodd Ptolomeus fab Dorymenus, Nicanor, a Gorgias gwŷr galluoc a chyfeillion y brenin.

39Ac efe a ddanfonodd ddeugain-mîl o wŷr gyd â hwy, a seith-mil o wŷr meirch i fyned i wlâd Iuda, iw destruwio hi yn ôl gorchymyn y brenin.

40Ac hwy a gychwnnasant âi holl lu, ac a ddaethant, ac a werssyllasant yn gyfagos i Emmaus ar y tîr gwastad.

41Pan glybu marchnad-wŷr y wlad sôn am danynt, hwy a gymmerasant arian, a llawer iawn o aur, a gwenidogion, ac a ddaethant i’r gwerssyll i brynu meibion Israel yn gaethion, â lluoedd o Syria a gwlâd y dieithraid a ddaethant attynt hwy.

42Pan welodd Iudas ai frodyr chwanegu o’r drwg a gwerssyllu o’r lluoedd o fewn eu terfynau hwy, pan ystyriasant hwy eiriau ’r brenin, y rhai a orchymynnase efe i wneuthur destruw a phen am y bobl,

43Yna ’r naill a ddywedodd wrth y llall, gosodwn ein pobl trachefn allan o orthrymder, ac ymladdwn tros ein pobl a’r cyssegr.

44A’r gynnulleidfa a ymgasclodd i fod yn barod i ryfela, ac i weddio, ac i ofyn trugaredd a thosturi.

45Canys gwâg oedd Ierusalem heb drigiolion fel anialwch, nid oedd neb oi phlant hi yn myned i mewn, nac yn dyfod allan, a ’r cyssegr oedd wedi ei sathru, a meibion alltudion yn cadw ’r castell, lle-ty i’r cenhedloedd, a’r hyfrydwch a dynnasid ymmaith oddi wrth Iacob, a’r bibell a’r delyn a beidiasent.

46[A’r Israeliaid] a ymgasclasant yng­hyd, ac a ddaethant i Maspha gyferbyn ag Ierusalem, canys yr oedd lle ym-Maspha o’r blaen i Israel i weddio.

47Ac hwy a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a wiscasant liain sach, ac ludw ar eu pennau, ac a rwygâsant eu dillad.

48Ac a ledâsant lyfrau ’r gyfraith am y rhai yr oedd y cenhedloedd yn chwilio i orgra­phu lluniau eu delwau ynddynt hwy.

49Ac a ddugasant ddillad yr offeiriaid, a’r pethau cyntaf-anedig, a’r degymmau, ac a gyffroasant y Nazareiaid y rhai a gyflawnasent dyddiau.

50Ac a lefasant â llef tu a’r nef gan ddywedyd, pa beth a wnawn ni i’r rhai hyn: ac i ba le y dygwn ni hwy ymmaith:

51Dy gyssegr di a sathred, ac a ddifwyned, a’th offeiriaid di sy mewn galar a gostyngiad.

52Ac wele ’r cenhedloedd a ymgasclasant yn ein herbyn ni i’n destruwio ni, ti a ŵyddost pa bethau y maent hwy yn eu bwriadu yn ein herbyn.

53Pa fodd y gallwn ni sefyll yn eu hwyneb hwy oddi eithr i ti ein cynnorthwyo ni?

54Yna hwy a ganâsant ag vdcyrn, ac a wa­eddasant â llef vchel.

55Yna Iudas a osododd gapteniaid ar y bobl, capteniaid ar fil, ar gant, ar ddec-a-deu­gain, ac ar ddêc.

56Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn adeiladu teiau, ac a briodasent wragedd, ac a blannasent win-llannoedd, a’r rhai ofnus am ddychwelyd o bob vn iw dŷ Deut.20.5. Barn.7.3.yn ôl y gyfraith.

57A’r llu a esinudodd, ac a werssyllodd o’r tu heheu i Emmaus.

58Ac Iudas a ddywedodd, ymwregyswch, a byddwch wŷr gŵrol, a byddwch barod i ym­ladd y foru â’r cenhedloedd hyn y rhai a ymgasclasant yn ein herbyn ni, i’n destruwio ni a’n cyssegr.

59Canys gwell i ni feirw yn y rhyfel, na gweled drygfyd ein cenedl a’n cyssegr.

60Ond fel y byddo ewyllys yn y nef, felly gwneled.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help