2.Brenhinoedd 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Duw yn addo, ac yn rhodd i Hezecia y fuddugoliaeth yn erbyn Senacherib, 37 Ai feibion ei hun yn lladd Senacherib.

1A Phan glybu y brenin Hezecia yna efe a rwygodd ei ddillad: ac a wiscodd sach-liain, ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd.

2 Esa.37.5. Ac a anfonodd Eliacim yr hwn benteulu, a Sobna yr scrifennudd, ac henuriaid yr offeiriaid wedi ymwysco mewn sach-liain ac Esay fab Amos y prophwyd.

3Ac hwy a ddywedasant wrtho ef, fel hyn y dywedodd Hezecia, diwynon cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yr dydd hwn: canys y meibion a ddaethant hyd yr anedigaethfa, and nid grym i escor.

4Ond odid fe a wrendu yr Arglwydd dy Dduw ar holl eiriau Rabsaceh (yr hwn a anfonodd brenin Assyria ei feistr ef i gablu y Duw byw) ac i geryddu a geiriau y rhai a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dercha dy weddi dros y gweddill yr hwn sydd iw gael.

5Felly gweision y brenin Hezecia a ddaethant at Esay.

6Ac Esay a ddywedodd wrthynt hwy, fel hyn a dywedwch wrth eich meistr: fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, nac ofna rhac y geiriau y rhai a glywaist y rhai y cablodd gweission brenin Assyria fi.

7Wele fi yn rhoddi yn ei erbyn ef wynt, fel y clywo efe drwst, ac y dychwelo im wlâd: gwnaf hefyd iddo syrthio ar gleddyf yn ei wlâd ei hun.

8Yna y dychwelodd Rabsaceh, ac y cafodd frenin Assyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywse fyned o honaw ef o Lachis.

9A phan glybu efe am Thirhaca brenin Ethiopia gan ddywedyd, wele efe a aeth allan i ryfela a thi: yna efe a ddychwelodd, ac a anfonodd gennadau at Hezecia gan ddywedyd:

10Fel hyn y lleferwch wrth Hezecia brenin Iuda gan ddywedyd, na thwylled dy Dduw di yr hwn yr wyt yn ymddyried ynddo gan ddywedyd: ni roddir Ierusalem yn law brenin Assyria.

11Wele ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Assyria i’r holl weledydd gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di?

12A waredodd Duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseph, a meibion Eden y rhai o fewn Thelassar?

13Mae brenin Hemath? a brenin Arphad? a brenin dinas Sepharfaim, Hena ac Ifa?

14A Hezecia a gymmerodd y llythyrau o law y cennadau, ac ai darllenodd hwy, yna efe a aeth i fynu i dŷ yr Arglwydd, a Hezecia ai lledodd hwynt ger bron yr Arglwydd.

15Yna Hezecia a weddiodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd Dduw Israel yr hwn wyt yn aros y Cerubiaid, ti yn vnic ydwyt Dduw ar holl deyrnasoedd y ddaiar: ti a wnaethost y nefoedd, a’r ddaiar.

16Gogwydda Arglwydd dy glust, a gwrando, agor dy lygaid Arglwydd ac edrych: gwrando hefyd eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.

17Gwir ô Arglwydd, i frenhinnoedd Assyria ddifa’r holl genhedloedd ai tîr hwynt,

18A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dŷn goed, a maen, am hynny y dinistriasant hwy hwynt.

19Yn awr gan hynny ô Arglwydd ein Duw ni, achub ni attolwg oi law ef: fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaiar mai tydi yn vnic’r Arglwydd Dduw.

20Yna Esay mab Amos a anfonodd at Hezecia gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel: gwrandewais ar yr hyn a ddeisyfiaist arnafi yn erbyn Senacherib brenin Assyria.

21Dymma’r gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef: y forwyn merch Sion a’th ddirmygodd di, a’th watwarodd, merch Ierusalem a escydwodd ben ar dy ôl di.

22Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y derchefaist di lef, ac y codaist yn vchel dy lygaid? onid yn erbyn Sanct Israel?

23Trwy law dy gennadau y ceblaist ti yr Arglwydd, ac y dywedaist: yn amldra fyng-herbydau y dringais i vchelder y mynyddoedd ystlysau Libanus: a mi a dorraf vchelder ei cedr-wŷdd ef ai ddewis ffynnidwŷdd ef, âf hefyd im llettŷ eithaf, goed eu dol-dir hwynt.

24Myfi a gloddiais, ac a yfais ddyfroedd dieithr: a gwadnau fy nhraed hefyd y diyspyddais yr holl afonydd gwarchaedic.

25Oni chlywaist ti ddarparu o honofi hyn er ystalm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygum hynny i benn fel y bydde i ddinystrio dinasoedd caeroc yn garneddau dinistriol.

26Am hynny eu trigolion yn gwttoglaw a ddychrynnwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt gwellt y maes, fel eginin llyssieun laswelltyn ar bennau neu olosciad ŷd cyn corsi.

27Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad, a’th ddyfodiad a adnabum i: a’th gynddeiriawgrwydd i’m herbyn.

28Am it ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fynu i’m clustiau i: am hynny y gosodaf fy mâch yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hŷd yr vn ffordd ac y daethost.

29A hyn yn argoeli ti y flwyddyn hon y bwyttei a dyfo o honaw ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr attwf: ac yn y drydedd flwyddyn hauwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwyttewch eu ffrwyth hwynt.

30A’r gweddill o dŷ Iuda a adewit a wreiddia eilwaith i wared, ac a ddŵg ffrwyth i fynu.

31Canys gweddill a aiff allan o Ierusalem, a rhai diangol o fynydd Sion: zêl Arglwydd y lluoedd a wnaiff hyn.

32Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Assyria, ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac ni ergydia saeth yno: hefyd ni ddau efe oi blaen hi a tharian, ac ni fwrw glawdd iw herbyn hi.

33Ar hyd yr vn ffordd, ac y daeth y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon medd yr Arglwydd.

34A mi a ddeffynnaf y ddinas hon, gan ei chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fyng-wâs.

35A’r nosson honno’r aeth Esa.37.36. 2.Cron.23.21. Tob.1.21. Eccles. 48.24.|SIR 48:241.Mac.7.41. 2.Mac.8.19.angel yr Arglwydd, ac a darawodd yng-werssyll yr Assyriaid bump, a phedwar vgain, a chant o filoedd: a’r a gyfodasant yn foreu, ac wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

36Felly Senacherib brenin Assyria a gychwynnod, ac a aeth ymmaith hefyd, ac a ddychwelodd: ac a arhosodd yn Ninife.

37Pan ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nescoth ei dduw ef, yna Adramalech a Sarazer ei feibion ef ai lladdasant ef a chleddyf, 2.Cron.32.21. Esay.37.38.a hwynt a ddiangasant i wlâd Armenia: ac Asarhadon ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help