Ionas 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Ionas yn ffoi tua Tharsis, rhag myned i bregethu i Ninife. 4 Temhestl yn cyfodi fel y gorfu ei fwrw ef i’r môr.

1Gair yr Arglwydd a ddaeth at Ionas mab Amittai, gan ddywedyd:

2Cyfot, dôs i Ninife y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a dderchafodd ger fy mron.

3Ac Ionas a gyfododd Ionas.4.1.i ffôi i Tharsis oddi ger bron yr Arglwydd, ac efe a aeth i wared i Ioppa, ac a gafodd long yn myned i Tharsis ac a roddes ei phorth-log hi, ac a aeth i wared iddi hi, i fyned gyd â hwynt i wared i Tharsis oddi ger bron yr Arglwydd.

4Yna’r Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr ryferthwy mawr, fel y tebygwyd y dryllie y llong:

5Y mor-wŷr a ofnasant, ac a lefasant bôb vn ar ei dduw, a bwriasant yr offer y rhai yn y llong i’r môr er yscafnhau arnynt: ond Ionas a aethe i wared i gilfachau y llongc, ac a orweddase, ac a gyscase.

6A meistr y llong a ddaeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho: beth it gyscadur? cyfot, galw ar dy Dduw: ond odid y Duw a ystyr wrthym fel na’n coller.

7A dywedasant bôb vn wrth ei gyfaill, deuwch, a bwriwn goel-brēnau, a mwynnwn wybod o achos pwy y drwg hwn: a bwriasant goel-brēnau, a’r coel-brēn a syrthiodd ar Ionas.

8A dywedasant wrtho, attolwg dangos i ni er mwyn pwy i ni y drwg hwn? beth dy waith? ac o ba le y daethost? pa le dy wlâd? ac o ba bobl ti?

9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebræad ydwyfi, ac ofni ’r wyfi Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr, a’r sych-dîr.

10A’r gwŷr a ofnasant ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, pa ham y gwnaethost hyn? (canys y dynion a ŵyddent iddo ffoi oddi ger bron yr Arglwydd, o herwydd efe a fynegase iddynt)

11A dywedasant wrtho, beth a wnawn it i ostegu o’r môr oddi wrthym? canys gweithio ’r oedd y môr, a therfyscu.

12Ac efe a ddywedodd wrthynt, cymmerwch fi, a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi, canys gwn y rhyferthwy mawr hwn arnoch er fy mwyn i.

13Er hynn y gwŷr a rwyfasant i ddychwelyd i dîr, ond ni’s gallent; am i’r môr weithio, a therfyscu yn eu herbyn hwynt.

14Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, attolwg, Arglwydd na ddifether ni am enioes y gŵr hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti ô Arglwydd a wnaethost fel y gwelaist yn dda.

15Yna y cymmerasant Ionas, a bwriasant ef i’r môr a pheidiodd y môr ai gyffro.

16A’r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant, a addunedasant addunedau i’r Arglwydd.

17A’r Arglwydd a ddarparase byscodyn mawr i lyngcu Ionas, ac Ionas a fu ym mol y pyscodyn dri diwrnod, a thair nôs.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help