1.Ioan 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.1 Gwahaniaeth ysprydion, 2 pa fodd yr adweinir Yspryd Duw rhag ysbryd cyfeiliorni, 7 am gariad Duw a’n cymydogion.

1Oh rai annwyl na chredwch bob Yspryd, eithr profwch yr ysprydion ai o Dduw y maent: canys gau brophwydi lawer a aethant allan i’r byd.

2Wrth hyn yr adwaenwch Yspryd Duw: pob Yspryd yn cyffessu dyfod o Iesu Grist yng-hnawd, sydd o Dduw.

3A phob Yspryd ni chyffessa ddyfod Iesu Grist yng-hnawd. nid yw o Dduw: eithr hwn yw anghrist, am yr hwn y clywsoch y deue, ac y mae efe yr awr hon yn y byd.

4Oh blant bychain yr ydych chwi o Dduw, ac chwi a’u gorchfygasoch hwy: canys mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi, nâ’r hwn sydd yn y dyd.

5Hwynt hwy o’r byd y maent, am hynny y llefarant am y byd, a’r byd a wrendu arnynt?

6Nyni o Dduw yr ydym, yr hwn a Oh annwylyd, carwn eu gilydd: canys cariad o Dduw y mae, a phob vn a gâr, o Dduw y ganed ef, ac efe a edwyn Dduw.

8Yr hwn ni châr, nid edwyn Dduw: canys cariad yw Duw.

9 Ion. 3.16. Yn hyn y mae cariad Duw yn ymddangos arnom ni, gan i Dduw ddanfon ei vnic genhedledig Fab i’r byd, fel y byddom fyw trwyddo ef.

10Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw: eithr am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab yn iawn dros ein pechodau.

11Oh annwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau a ddylem garu eu gilydd.

12 Ion. 1.18.|JHN 1:18. 1.Tim.6.26.(sic.) Ni welodd neb Dduw erioed: os carwn ni eu gilydd y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad yn berffaith ynom.

13Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ac yntef ynom ninneu: gan iddo roddi i ni o’i Yspryd

14A ninnau a welsom, ac a destiolaethwn i’r Tâd ddanfon y Mab yn Iachawdr i’r byd.

15Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, ynddo ef y mae Duw yn trigo, ac yntef yn-Nuw.

16A nyni a adnabuom, ac a gredasom y cariad yr hun sydd gan Dduw ynom: Duw cariad yw, a’r hwn sydd yn aros yng-hariad sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntef.

17Yn hyn y cwplheir y cariad ynom, fel y byddo i ni hyder ddydd farn: canys fel y mae efe, felly yr ydym ninnau yn y byd hwn.

18Nid oes ofn yng-hariad, eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: o blegit y mae i ofn boenedigaeth: a’r hwn a ofna, nid yw berffaith mewn cariad.

19Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef ein caru ni yn gyntaf.

20Os dywed neb yr wyf yn caru Duw, ac yntef yn casau ei frawd, celwyddog yw: canys pa fodd y gall efe yr hwn nid yw yn caru ei frawd a welodd, garu Duw yr hwn ni welodd?

21A’r Ion. 13.34.gorchymyn hwn sydd i ni ganddo ef, bod i’r hwn a garo Dduw, garu ei frawd hefyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help