Ieremi 41 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLI.Ismael yn llâdd Gedaliah, ac eraill o dwyll trwy ymddyried. 11 Iohanan yn ymlid Ismael.

1 2.Bren.25.25. Ac yn y seithfed mîs, daeth Ismael mab Nathaniah fab Elisama o frenhinawl hâd) a ddaeth gyd â phendefigion y brenin a deng-ŵr gyd ag ef at Gedaliah, fab Ahicham i Mispah: a hwy a fwyttasant yno fara yng-hyd ym Mispah.

2Ac Ismael mab Nathaniah a gyfododd, a’r deng-wr y rhai oeddynt gyd ag ef, ac a darawsant Gedaliah fab Ahicam, fab Saphan a’r cleddyf, ac ai lladdasant ef yr hwn a osodase brenin Babilon yn llywydd ar y wlâd.

3Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon y rhai oeddynt gyd â Gedaliah ym Mispah: a’r Caldeaid y rhai a gafwyd yno yn rhyfel-wŷr.

4A’r ail dydd wedi iddo ef ladd Gedaliah (pan nad oedd neb yn gwybod

5Yna y daeth gwŷr o Sichem, o Silo, ac o Samaria, pedwar vgein-ŵr wedi eillio eu barfau, a dryllio eu gwiscoedd, ac ymrwygo, â bwyd offrwm, ac â thus yn eu dwylo iw hoffrymmu yn nhŷ yr Arglwydd.

6Ac Ismael mab Nathaniah a aeth allan iw cyfarfod hwynt o Mispah gan gerdded rhacddo, ac ŵylo, a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, deuwch chwi at Gedaliah fab Ahicam.

7A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nathaniah ai lladdodd hwynt i ganol y pydew, efe a’r gwŷr y rhai gyd ag ef.

8A deng-wr a gafwyd yn eu mysc hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, na ladd ni o blegit y mae gennym ni dryssor yn y maes, o wenith, a haidd, olew, a mêl: felly efe a beidiodd, ac ni laddodd efe hwynt ym mysc eu brodyr.

9A’r pydew i’r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr y rhai a laddase efe er mwyn Gedaliah yr hwn a wnaethe y brenin Asa rhac Baasa frenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nathaniah ei lenwi a’r rhai a laddasid.

10Yna Ismael a gaethgiwodd yr holl weddill o’r bobl y rhai ym Mispah, merched y brenin a’r holl bobl, y rhai a adawsid ym Mispah ar y rhai y gosodase Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr Gedaliah fab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nathaniah ai caethgludodd hwynt, ac a aeth trosodd at feibion Ammon.

11Pan glybu Iohanan mab Careah, a holl dywysogion y llu y rhai gyd ag ef yr holl ddrwg a’r a wnaethe Ismael mab Nathaniah,

12Yna hwynt a gymmerasant holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nathaniah, ac ai cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon.

13A phan welodd yr holl bobl y rhai gyd ag Ismael, Iohanan fab Careah a holl dywysogion y llu y rhai gyd ag ef, yna hwynt a lawenychasant.

14Felly yr holl bobl y rhai a gaeth-gludase Ismael ymmaith o Mispah, a droesant yn eu hôl, dychwelasant hefyd, ac aethant at Iohanan fab Careah.

15Ond Ismael mab Nathaniah a ddihangodd yng-hyd ag wyth nyn oddi gan Iohanan, ac efe a aeth at feibion Ammon.

16Yna Iohanan mab Careah a holl dywysogion y llu y rhai gyd ag ef a gymmerasant yr holl weddill o’r bobl y rhai a ddygase efe yn eu hôl oddi ar Ismael fab Nathaniah o Mispah: wedi iddo ef ladd Gedaliah fab Ahicam: cedyrn ryfel-wŷr, a gwragedd a phlant, ac stafellyddion y rhai a ddugase efe o Gibeon.

17Ac hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn Geruth Chimham yn agos at Bethlehem: i fyned i’r Aipht rhac y Caldeaid.

18O herwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nathaniah ladd Gedaliah fab Ahicam yr hwn a roddase brenin Babilon yn swyddog yn y wlâd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help