1AC felly y digwyddodd i’m mab, pan aeth efe iw stafell, efe a syrthiodd i lawr, ac a fu farw.
2Yna nyni oll a ddiffoddasom y canhwyllau, a’m holl gymmydogion a godasant i fynu i’m cyssuro: yna y gorphywysais i hyd yr hwyr yr ail dydd.
3A phan ddarfu iddynt hwy oll fyng-hussuro, fel y byddwn lonydd, yna y cyfodais hŷd nos, ac y ffoais, ac a ddaethum i’r maes hwn fel y gweli,
4Ac y mae yn fy mryd nad elwyf yn fy ôl i’r ddinas, ond aros ymma, heb na bwytta nac yfed, ond galaru yn wastadol, ac ymprydio hyd oni byddwyf farw.
5Yna y gollyngais ymmaith fy myfyrdod a’r meddyliau oedd ynof, ac attebais wrthi hi yn ddigllon gan ddywedyd,
6Tydi ffolog vwch law neb arall, oni weli di ein trymder a’n galar ni, a pha beth a ddigwydd i ni:
7Fel y mae Sion ein mam ni yn llawn tristwch a galar, ac fel y dygwyd hi hyd lawr, ac y mae hi yn galaru yn anianol:
8Gan ein bôd ni oll yn awr mewn trymder, ac yn cŵyno, canys trist ydym oll: wyt ti cyn drymmed ar ôl vn mab:
9Gofyn i’r ddaiar, a hi a ddywed i ti, mai y hi a ddyle alaru, am gwymp cymmaint ac y sydd yn tyfu arni.
10Canys o’r dechreuad, pob dŷn a anwyd o honi hi, ac eraill a ddaw: ac wele, y maent oll agos yn rhodio i ddestruw, a’r gynnullheidfa o honynt a ddadwreiddir.
11Pwy wrth hynny a ddyle alaru fwyaf: ond y hi a gollodd gymmaint o rifedi? ac nid tydi ’r hon nid wyt yn drist ond am vn mab:
12Ond pe dywedit wrthif, nid yw fyng-alar debyg i alar y ddaiar: canys collais ffrwyth fyng-hroth, yr hwn a ddygais i’r bŷd drwy drymder, ac a ymddugum drwy dristwch.
13Ond y ddaiar sydd megis y mae arferol i fôd, a’r gynnulleidfa bresennol sydd yn myned iddi trachefn, fel y mae yn digwyddo.
14Am hynny y dywedaf wrthit ti, fel y dygaist i’r bŷd drwy drafel a phoen, felly y mae ’r ddaiar hefyd o’r dechreuad yn rhoddi ei ffrwyth i ddyn, yr hwn ai llafurio hi.
15Ac am hynny, attal dy drymder a’th alar wrthit dy hun, ac edrych beth a ddigwydd i ti, a dioddef yn ŵrol.
16Canys os berni nôd a diwedd Duw i fôd yn dda, ac os derbynni ei gyngor ef yn amser, ti a gei glôd am hynny.
17Dôs gan hynny ymmaith i’r ddinas at dy ŵr.
18A hithe a ddywedodd wrthif, ni wnafi mo hynny: nid â fi’r ddinas, ond ymma y byddaf farw.
19Felly ni a chwedleuais fwy â hi, ac a ddywedais,
20Paid â hynny, cymmer gyngor, pa sawl cwymp a gafodd Sion: bydd gyssurus am ddolur Ierusalem.
21Canys ti a weli fod ein cyssegr ni yn anialwch, ein hallor wedi ei thorri, a’n Teml wedi ei hanrheithio,
22Ein psaltringau a fwriwyd i lawr, ein cân a ddistawyd, ein llawenydd a aeth ymmaith, ein canhwyllau a ddiffoddwyd, Arch ein cyfammod a ddygwyd oddi arnom, ein holl sanctaidd bethau a halogwyd, a’r henw ’r hwn yr ydym ni yn galw arno agos a amharchwyd: ein plant a wrâdwyddwyd, ein hoffeiriaid a loscwyd, ein Lefiaid a gaethgludwyd, ein morwynnion a anrhaithiwyd, ein gwragedd a dreisiwyd, ein gwŷr cyfiawn a anrheithiwyd, ein plant a ddifethwyd, ein gwŷr ieuaingc a gaethiwyd, a’n gwŷr cryfion dihafarch a wanhauwyd.
23A Sion ein sêl (yr hyn sydd fwyaf dim) a gollodd ei pharch: canys rhoddwyd hi yn nwylo y rhai a’n casâant.
24Ac am hynny, bwrw heibio dy drymder mawr, a’th fynych alar, fel y gallo ’r Galluog fod yn drugarog i ti, ac fel y rhoddo y Goruchaf i ti esmwythdra a gorphywysdra oddi wrth dy lafur a’th boenau.
25Ac fel yr oeddwn yn ymddiddan â hi, ei hwyneb a ddiscleiriodd yn ddisymmwth ai phryd a dywynodd: ac ofnais, a myfyriais beth a alle hynny fôd.
26Ac yn y mann hi a lefarodd yn gref, ac yn ofnadwy, hyd oni chrynodd y ddaiar gan nâd y wraig.
27A mi a edrychais, ac wele, nid ymddangosodd y wraig i mi mwy: ond yr oedd dinas wedi adeiladu, a lle a ddangoswyd o sylfeini mawrion: yna yr ofnais, a gwaeddais â lleferydd vchel gan ddywedyd,
28Pa le y mae Vriel ’r angel, yr hwn a ddaeth attaf yn y dechrau? canys gwnaeth i mi syrthio mewn llawer o fyddyliau vchel a myfyrdod, a’m diwedd a ddychwelwyd i lygredigaeth, a’m gweddi i gerydd.
29A minne yn dywedyd y geiriau hyn, efe a ddaeth attaf ac a edrychodd arnaf:
30Ac wele, gorweddais fel vn marw, a’m deall a newidiwyd: ac efe a’m cymmerth erbyn fy llaw ddehau, ac a’m cyssurodd, ac a’m gosododd ar fy nhraed, ac a ddywedodd wrthif,
31Beth a ddarfu i ti: pa ham y mae dy feddwl a deall dy galon yn orthrymmedic? a pha ham yr wyt yn drist?
32A minnef a ddywedais, am i ti fyngwrthodi, a mi a wneuthym yn 4.Esdra.5.20.ôl dy eiriau di, euthym i’r maes, ac yno y gwelais bethau, a gwn bethau ni’s medraf eu hadrodd.
33Ac efe a ddywedodd wrthif, saf ar dy draed fel gŵr, a bydd ŵrol, a rhoddaf i ti gyngor.
34Yna y dywedais, llefara di wrthifi fy arglwydd, na wrthot fi rhag i mi farw yn ofer.
35Canys gwelais bethau ni’s adwaenwn, a chlywais bethau ni’s gŵyddwn.
36Neu y mae fy neall yn fy nhwyllo, neu fy yspryd yn breuddwydio.
37Yn awr attolwg i ti, dangos i’th wâs y rhyfeddod hyn.
38Yna efe a’m hatebodd gan ddywedyd, gwrando arnaf, a mi a’th ddyscaf, a dangosaf i ti pa ham yr wyt yn ofni: canys y Goruchaf a ddangosodd i ti lawer o ddirgelwch.
39Y Goruchaf a welodd fod dy ffordd yn iniawn, canys yr ydwyt yn cymmeryd trymder yn wastadol tros dy bobl, ac yr ydwyt yn gwneuthur galar mawr am Sion.
40Ac am hynny, deall y weledigaeth a welaist ychydig o’r blaen, fel hyn:
41Gwelaist wraig yn galaru, a dechreuaist ei chyssuro.
42Er hynny ni’s gweli mwy lun y wraig, ond ymddangosodd i ti ddinas wedi adeiladu:
43A lle y dywedodd i ti syrthio ei mab, hyn yw ’r peth sydd yw ddeall,
44Y wraig hon a welaist ti, yw Sion: a lle y dywedodd i ti, (yr hon a weli yn awr fel dinas barod)
45A lle y dywedodd wrthit ei bod ddengmhlynedd ar hugain yn hesb: dyna ’r dengmhlynedd ar hugain yn y rhai ni offrymmed offrwm ynddi.
46Ond yn ôl deng-mhlynedd ar hugain Salomon a adailadodd ddinas, ac a offrymmodd offrymmau: ac yna ’r hesb a ddûg fâb.
47A lle y dywedodd hi i ti, mi ai megais ef drwy boen: hynny oedd presswylio yn Ierusalem.
48Ond lle y dywedodd hi i ti, fe a fu farw fy mab yn ddisymmwth wrth ddyfod iw stafell: dyna yr cwymp a ddaeth i Ierusalem.
49Ac wele, pan welaist hi fel vn yn galaru am ei mab, a phan ddechreuaist roddi cyssur ynddi hi o’r pethau hyn a ddigwyddodd, hyn sydd raid ei ddangos i ti,
50Canys yn awr y Goruchaf sydd yn gweled dy fod yn drist dy enaid, a’th fod yn dioddef tristwch trosti hi o’th galon, ac felly efe a ddangosodd i ti ddiscleirdeb ei goleuni, a thegwch ei hwyneb-pryd.
51Ac am hynny y perais i ti aros yn y maes, lle nid oedd vn tŷ wedi ei adailadu.
52Canys gwyddwn y dangose y Goruchaf hyn i ti,
53Am hynny y gorchymynnais i ti fyned i’r maes, lle nid oes na sail nac adailadaeth.
54Canys yn y mann lle y dechreuo y Goruchaf ddangos ei ddinas, ni ddichon adailadaeth neb arall sefyll yno.
55Ac am hynny nac ofna, a nâd ti i’th galon arswydo, ond dôs i mewn, ac edrych ar degwch a maint yr adailadaeth fwyaf ac a ellech.
56Ac wedi hynny y cei di glywed cymmaint ac a allo dy glustiau ei glywed.
57Canys bendigedic ydwyt ti vwch law llaweroedd, ac i’th alwyd gan y Goruchaf fel ychydig.
58Ond yforu yr nos y cei di aros ymma.
59Ac felly y Goruchaf a ddengys i ti weledigaethau o’r pethau mawrion a wnaiff efe i’r rhai a fyddo yn trigo ar y ddaiar yn y dyddiau diwethaf.
60Felly y cyscais y noson honno a’r ail nôs, fel y gorchymynnodd efe i mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.