Lefiticus 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.Gwyliau y Sabboth, 5 Y Pasc, 6 Y barâ croiw, 10 Y ffrwythau cyntaf, 16 Y Sul-gwynn, 24 Yr vd-cyrn, 34 a’r Pebyll.

1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd

2Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt, gŵyliau’r Arglwydd y rhai a gyhoeddwch yn gymmanfeudd sanctaidd, fyng-ŵyliau hynn.

3Chwe diwrnod y gwneir gwaith, a’r seithfed dydd y byd Sabboth gorphywys-dra, Exod.20.9.[sef] cymmanfa sanctaidd, dim gwaith nis gwnewch Sabboth efe i’r Arglwydd, yn eich holl drig-fannau.

4Dymma ŵyliau’r Arglwydd, y cymmanfeudd sanctaidd y rhai a gyhoeddwch yn eu tymmor.

5O fewn y mîs cyntaf ar y pedwerydd ar ddec o’r mîs yn y cyfnos Pasc yr Arglwydd.

6A’r pymthecfed dydd o’r mîs hwnnw y bydd gŵyl y bara croiw i’r Arglwydd, Exod.12.15. Num.28.17.saith niwrnod y bwyttewch fara croiw.

7Ar y dydd cyntaf y bydd iwch gymmanfa sanctaidd, dun caeth-waith ni chewch wneuthur.

8Ond offrymmwch ebyrth tanllyd it Arglwydd saith niwrnod, ar y seithfed dydd cymmanfa sanctaidd, na wnewch ddim caeth-waith.

9A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd: llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt,

10Pan ddeloch i’r tîr yr hwn a roddaf i chwi, a medi o honoch ei gynhaiaf, yna dygwch yscub blaen-ffrwyth eich cynhaiaf at yr offeiriad.

11Cwhwfaned yntef, yr yscub ger bron yr Arglwydd i’ch gwneuthur yn gymmeradwy, trannoeth wedi yr Sabboth y cwhwfana’r offeiriad hi.

12Ac offrymmwch ar y dydd y cwhwfaner yr yscub oen blwydd perffaith-gwbl yn boeth offrwm i’r Arglwydd.

13Ai fwyd offrwm ddwy ddecfed rann o beillied wedi ei gymmyscu mewn olew yn aberth tanllyd fi Arglwydd, yn arogl esmwyth: ai ddiod offrwm o bedwerydd rann Hin o wîn.

14Bara hefyd nac ŷd wedi ei grassu na thwysennau îr, ni chewch fwyta hyd gorph y dydd hwnnw nes dwyn o honoch offrwm eich Duw, deddf dragywyddol drwy eich cenedlaethau yn eich holl drig-fannau

15A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi ’r Sabboth, o’r dydd y dygoch yscub y cwhwfan saith Sabboth cyflawn fyddant.

16Hyd trannoeth wedi y seithfed Sabboth y cyfrifwch ddeng-nhiwrnod a deugain, ac offrymmwch fwyd offrwm new ydd i’r Arglwydd

17A dygwch o’ch trig-fannau ddwy dorth gwhwfan, dwy ddecfed rann o beillied fyddant, yn lefeinllyd y pobir hwynt) yn flaenffr wyth i’r Arglwydd.

18Ac offrymmwch gyd a’r bara saith oen blwyddiaid perffaith-gwbl, ac vn bustach ieuangc, a dau hwrdd, poeth offrwm i’r Arglwydd fyddant hwynt, ai bwyd offrwm ai diod offrwm aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

19Yna offrymmwch vn bwch geifr yn bech aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.

20A chwhwfaned yr offeiriad hwynt ynghyd a bara y blaen-ffrwyth, yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd yng-hyd ar ddau oen: cyssegrcdic i’r Arglwydd eiddo yr offeiriad fyddant.

21A chyhoeddwch, o fewn corph y dydd hwnnw y hydd cymanfa sanctaidd i chwi, dim caeth-waith nis gwnewch: deddf dragwyddol yn eich holl drig-fannau drwy eich cenhedlaethau

22A phan fedoch gynhaiaf eich tîr, na lwyr feda gwrr dy faes, ac na loffa dy gynhaiaf, Lefit.19.9. deut.24.19.gâd hwynt i’r tlawd a’r dieithr: myfi yr Arglwydd eich Duw chwi.

23A llefarodd yr Arglwydd wrth Mose, gan ddywedyd:

24Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd: ar y seithfed mîs, ar y cyntaf o’r mîs y bydd i chwi Sabboth, yn goffadwriaeth caniad vdcyrn, chymmanfa sanctaidd.

25Dim caeth-waith nis gwnewch, ond offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.

26A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

27Ond y decfed o’r seithfed mîs hwn, dydd cymmod yw efe, Lefit.16.30. Num.29.7.cymmanfa sanctaidd fydd i chwi, yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.

28Ac na wnewch ddim caeth-waith o fewn corph y dydd hwnnw, o herwydd dydd cymmod yw efe, i wneuthur iawn trosoch ger bron yr Arglwydd eich Duw.

29Canys pôb enaid yr hwn ni chystuddier o fewn corph y dydd hwn a dorrir ymmaith o ddi wrth ei bobl.

30A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corph y dydd hwn, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysc ei bobl.

31Na wnewch ddim gwaith: deddf dragywyddol drwy eich cenhediaethau yn eich holl drig-fannau

32Sabboth gorphywysdra[yw] efe i chwi, cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed o’r mîs yn yr hwyr, o hwyr i hwyr y cedwch eich Sabboth.

33A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.

34Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Num.29.12. ioan.7.2.ar y pymthecfed dydd o’r seithfed mîs hwn, y hydd gŵyl y pebyll saith niwynod i’r Arglwydd.

35Ar y dydd cyntaf cymmanfa sanctaidd: dim caeth-waith nis gwnewch.

36Saith niwrnod yr offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd, ar yr wythfed dydd y bydd cymmanfa sanctaidd i chwi: yna offrymmwch ebyrth canllyd i’r Arglwydd, vchel-ŵyl yw hi, na wnewch ddim caeth-waith.

37Dymma wyliau’r Arglwydd y rhai a gyhoeddwch yn gymmanfeudd sanctaidd i offrymmau i’r Arglwyd ebyrth tanllyd, offrwm poeth, bwyd offrwm, aberth, a diod offrwm, dogn dydd yn ei ddydd.

38Heb law Sabbothau’r Arglwydd ac heb law ich rhoddion chwi, ac heb law eich holl addunedau, ac heb law eich holl offrymmau gwirfodd y rhai a rhoddoch i’r Arglwydd.

39Etto ar y pymthecfed dydd o’r seithfed mîs, pan gynhulloch ffrwyth eich tîr cedwch ŵyl yr Arglwydd saith niwrnod, gorphywysdra ar y dydd cyntaf, a gorphywysdra ar yr wythfed dydd.

40A’r dŷdd cyntaf cymmerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd a brîg pren caead-frig, a helig afon, ac ym lawenhewch ger bron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.

41A chedwch hon yn ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn, deddf dragywyddol yn eich cenhedlaethau mai ar y seithfed mîs y cedwch hi yn ŵyl.

42Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod, pôb priodor yn Israel a drigant mewn bythod.

43Fel y gwypo eich cenhedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo pan ddygais hwynt allan o dir yr Aipht: myfi yr Arglwydd eich Duw.

44A thraethodd Moses ŵyliau’r Arglwydd wrth feibion Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help