1.Cronicl 29 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIX.Dafydd ai dywysogion yn offrymmu tu ag at waith y deml. 10 Dafydd yn moliannu Duw, ac yn cynghori y bobl. 22 Coroniad Salomon a diweddiad Dafydd.

1Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd iddo fy vn mab Salomon yn ieuangc ac yn dyner: a’r gwaith fawr, canys nid tŷ i ddyn, onid i’r Arglwydd Dduw.

2Ac a’m holl gryfdwr y paratoais i dŷ fy Nuw aur i’r aur ac arian i’r arian a phrês i’r prês, a haiarn i’r haiarn, a choed a’r coed: meini Onix. a gosod, meini Carbunculus, ac o amryw liw a phob maen gwerthfawr, a meini Marmor yn aml.

3Ac etto am fy ewyllys tua thŷ fy Nuw, y mae gennif o’m heiddo fy hun aur, ac arian yr hwn a roddaf tu ag at dŷ fy Nuw: heb law yr hyn oll a baratoais tua thŷ y cyssegr.

4Tair mil o dalentau aur, o aur Ophir: a faith mil o dalentau arian puredic, i orenro parwydydd y tai.

5Yr aur i’r aur, a’r arian i’r arian, a thu ag at yr holl waith drwy law y rhai celfydd: pwy hefyd a ymrydd yn ewyllyscar i ymgyssegru heddyw i’r Arglwydd?

6Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd, a y cantoedd, a thywysegion gwaith y brenin a offrymmasant yn ewyllyscar.

7A hwy a roddasant tu ag at wasanaeth tŷ Dduw bum mil o dalentau aur, a deng-mil o sylltau, a deng-mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau prês, a chant mil o dalentau haiarn.

8A chyd a’r hwn y caed meini hwy ai rhoddasant i dryssor tŷ’r Arglwydd drwy law Iehiel y Gersuniad.

9A’r bobl a lawenhasant pan offrymmasant oi gwirfodd: canys mewn calon berffaith ewyllyscar yr offrymmasant i’r Arglwydd: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd a llawenydd mawr.

10Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng-ŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, bendigedic ti Arglwydd Dduw Israel ein tad ni o dragywyddoldeb, hyd dragywyddoldeb.

11I ti arglwydd mawredd, a gallu, gogoniant hefyd, goruwchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd, ac yn y ddaiar eiddo ti, y deyrnas eiddo ti Arglwydd, yr hwn hefyd a ymdderchefaist yn benn ar bawb.

12Cyfoeth hefyd ac anrhydedd oddi wrthit ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bawb, ac yn dy law di y mae nerth, a chadernid, îe yn dy law di hefyd mawrhau, a nerthu pob dim.

13Ac yn awr ein Duw ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus.

14Eithr pwy ydwyfi?] a phwy fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymmu yn ewyllyscar fel hyn? ond oddi wrthit ti pob peth, ac o’th law di y rhoesom i ti?

15O herwydd dieithriaid ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: fel cyscod ein dyddiau ni ar y ddaiar, a heb aros.

16Oh Arglwydd ein Duw ni, yr holi amlder hyn y rhai a baratoasom ni i adailadu i ti dŷ, i’th enw sanctaidd: o’th law di hyn, ac eiddo ti hyn oll.

17Gwn hefyd ô fy Nuw 1.Cron.28.9.mai ti sydd yn profi y galon, ac a ewyllysi gyfiawnder: myfi yn iniondeb fyng-halon o wirfodd a offrymmais hyn oll, at yn awr y gwelais dy bobl y rhai a gafwyd ymma, mewn llawenydd yn offrymmu yn ewyllyscar i ti.

18Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel ein tadau ni, cadw hyn yn dragywydd ym mrŷd meddyliau calon dy bobl: a pharatoa galon dy bobl attat ti.

19A dyro i Salomon fy mab galon berffaith i gadw dy orchymynniō, dy destiolaethau a’th ddeddfau, ac iw gwneuthur oll, ac i adailadu y tŷ’r hwn a ddarperais i.

20Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, bendithiwch attolwg eich Arglwydd Dduw: yna’r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, ac a ymgrymmasant, ac a ymostyngasant i’r Arglwydd, ac i’r brenin.

21Aberthasant hefyd ebyrth i’r Arglwydd, a thrannoeth y dydd hwnnw, yr aberthasant yn boeth offrymmau i’r Arglwydd fil o fustych, mil o hyrddod, mil o ŵyn ai diod offrwm: ac ebyrth yn aml dros holl Israel.

22Yna y bwyttasant hwy, ac yr yfasant ger bron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr, a gosodasant Salomon fab Dafydd yn frenin yr ail waith: ac eneiniasant ef i’r Arglwydd yn flaenor, a Zadoc yn offeiriad.

23Felly’r esteddodd Salomon ar orseddfa’r Arglwydd yn frenin yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd: a holl Israel a wrandawsant arno ef.

24Yr holl dywysogion hefyd, a’r cedyrn, a chyd a hynny holl feibion y brenin Dafydd a dyngasant tann Salomon y brenin.

25A’r Arglwydd a fawrygodd Salomon yn rhagorol yng-ŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinawl, mâth yr hwn ni bu i vn brenin oi flaen ef yn Israel.

26Felly 1.Bren.2.11.Dafydd mab Isai a deyrnasodd ar holl Israel.

27A’r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel ddeugain mhlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddec ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem.

28Ac efe a fu farw mewn oedran têg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Salomon ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

29Ac weithredoedd cyntaf a diweddaf y brenin Dafydd, wele y maent yn scrifennedic yng-eiriau Samuel y gweledudd, ac yng-eiriau Nathan y prophwyd, ac yng-eiriau Gad y gweledudd,

30Gyd ai holl frenhiniaeth ef, ai gadernid, a’r amserau y rhai a aethant trosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y ddaiar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help