1Ac o sidan glâs, a phorphor, ac scarlat y gwnaethant wiscoedd gwenidogaeth i weini yn y cyssegr: gwnaethant y gwiscoedd sanctaidd y rhai i Aaron fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
2Felly y gwnaethant yr Ephod o aur, sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd.
3A gyrrasant yr aur yn ddalennau, ac ai torrasant yn edafedd i weithio ym mysc y sidan glâs, ac ym mysc y porphor, ac ym mysc y scarlat, ac ym mysc y sidan gwynn: yn waith cywraint.
4Yscwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwrr y cydiwyd hi.
5A chywrein-waith ei gwregys yr hwn oedd arni o honi ei hun yn vn waith a hi o aur, sidan glâs, a phorphor ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd: megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
6A hwynt a weithiasant feini Onix wedi eu naddu a naddiadau sêl, yn ol henwau meibion Israel.
7A gosododd hwynt ar yscwyddau yr Ephod Exod.28.12.yn feini coffadwriaeth i feibion Israel: megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
8Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronnec o waith cywraint, ar waith yr Ephod: o aur, sidan glâs, porphor hefyd ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd.
9Scwar ydoedd, yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwy-fronnec: o rychwant ei hŷd, a rhychwant ei llêd, yn ddau ddyblyg.
10A llawnasant hi a phedair rhês o feini: rhês o Sardius], Tophas, a Smaragdus y rhês gyntaf.
11A’r ail rhes Rubi, Saphyr, ac Adamant.
12A’r drydedd rhês Lincur, Achat ac Amethist.
13A’r bedwaredd rhês ydoedd Turcas Onix a Iaspis: wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd.
14A’r meini oeddynt yn ol henwau meibion Israel yn ddeu-ddec yn ol eu henwau hwynt: pôb vn wrth ei henw o naddiadau sêl i’r dauddec llwyth.
15A hwynt a wnaethant ar y ddwyfronnec gadwynau cydterfynol yn bleth-waith o aur pûr.
16A gwnaethant ddau foglyn aur a dwy fodrwy o aur, ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwrr y ddwyfronnec.
17A rhoddasant y ddwy gadwyn o aur trwy y ddwy fodrwy, ar gyrrau y ddwyfronnec.
18A deu-penn y ddwy gadwyn a roddasant mewn dau foglyn: ac ai gosodasant ar yscwyddau yr Ephod o’r tu blaen.
19Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac ai gosodasant ar ddau gwrr y ddwyfronnec: o’r tu mewn ar yr ymyl yr hwn sydd ar ystlys yr Ephod.
20A hwynt a wnaethant ddwy fodrwy aur ac ai gosodasant ar ddau ystlys yr Ephod oddi tanodd oi thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr Ephod.
21Codasant hefyd y ddwyfronnec erbyn ei modrwyau at fodrwyau yr Ephod a llinin o sidan glâs i fod ar wregys yr Ephod, fel na ddatodid y ddwyfronnec oddi wrth yr Ephod: megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
22Ac efe a wnaeth fantell yr Ephod ei gyd o sidan glâs yn wauad-waith.
23A thwll penn y fantell yn ei chanol, fel twll pen lluric wedi gwrymmio ei choler o amgylch rhac ei rhwygo.
24A gwnaethant ar odrau y fantell Pomgranadau, o sidan glâs, porphor ac scarlat a sidan gwyn cyfrodedd.
25Gwnaethant hefyd Exod.28.33.glychau o aur pur, ac a roddasant y clychau rhwng y pomgranadau, ar odrau y fantell o amgylch ym mysc y pomgranadau.
26Clôch a phom-granad, a chlôch a phom-granad, ar odrau y fantell o amgylch i weini megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
27A hwynt a wnaethant beisiau o sidan gwynn yn wauad-waith i Aaron ac iw feibion.
28A meitr o sidan gwynn, a chappiau hardd o sidan gwynn: a Exod.28.42.llawdrau caeroc o sidan gwynn cyfrodedd.
29A gwregys o sidan gwynn cyfrodedd, ac o sidan glâs, porphor, a scarlat, o waith edef a nodwydd: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
30Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pûr, ac a scrifennasant arni scrifen fel Exod.28.36.naddiad sêl: Sancteiddrwydd i’r Arglwydd.
31A rhoddasant wrthi linin o sidan glâs, iw osod i fynu ar y meitr: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
32Felly y gorphennwyd holl waith y tabernacl pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ol yr hynn oll a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaethant.
33Dugasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell ai holl ddodrefn: ei derbynniadau, ei styllod, ei barrau, ai cholofnau ai morteisiau.
34A’r tô o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r tô o grwyn daiar-foch: a’r llenn wahan yr hon oedd yn gorchguddio.
35Arch y destiolaeth, ai throsolion, a’r drugareddfa.
36Y bwrdd hefyd ai holl lestri, a’r bara gosod.
37Y canhwyll-bren pur ai lusernau lusernau iw taclu, ai holl lestri, ac olew i’r goleuni.
38A’r allor aur, ac olew yr eneiniad, a’r arogl-darth llysseuoc: a chaead-lenn drws y babell.
39Yr allor brês, a’r alch prês yr hwn iddi, ei throsolion ai holl lestri: a’r noe ai throed.
40Llenni troelloc y cynteddfa, ei golofnau ai forteisiau, a chaead lenn porth y cynteddfa, ei raffau ai hoelion: a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod.
41Gwiscoedd y wenidogaeth i weini yn y cyssegr: sef sanctaidd wiscoedd Aaron yr offeiriad, a gwiscoedd ei feibion ef i offeiriadu.
42Yn ol yr hynn oll a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.
43A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele hwynt ai gwnaethant megis y gorchymynnase yr Arglwydd, felly y gwnaethent: yna Moses ai bendithiodd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.