Ezeciel 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Diwedd disymmwth i dy Israel.

1Bu hefyd gair yr Arglwydd wrthif, gan ddywedyd:

2Tithe fab dyn fel hyn y traethodd yr Arglwydd Dduw ddiwedd i dŷ Israel, a diwedd a ddaeth ar bedair congl y tîr.

3[Daw] yr awr hon ddiwedd arnat, canys anfonaf fy nîg i’th erbyn: a barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd dy hun, a rhoddaf dy holl ffieidd-dra i’th erbyn.

4Fy llygad hefyd ni’th arbed di, hefyd ni thosturiaf, eithr rhoddaf dy ffordd i’th erbyn: a’th ffieidd-dra fydd o’th fewn, fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd.

5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele ddrwg yn dyfod ar ôl drwg.

6Diwedd a ddaeth, daeth diwedd, y mae yn gwilio arnat, wele efe a ddaeth.

7Daeth y foreu-farn attat presswylydd y tîr, daeth yr amser, agos y dydd terfysc, ac nid adsain mynyddoedd.

8Weithian ar fyrder y tywalldaf fy llid arnat, ac y gorphennaf fy nîg wrthit: barnaf ni hefyd yn ôl dy ffyrdd dy hun, a rhoddaf dy holl ffieidd-dra i’th erbyn.

9A’m llygad nid arbed, ac ni thosturiaf, rhoddaf i’th erbyn yn ôl dy ffyrdd, a’th ffieidddra a fyddant o’th fewn, fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro.

10Wele’r dydd, wele yn dyfod, y foreu-farn a aeth allan, blodeuodd y wialen, blagurodd y balchder.

11Cyfododd y traha’n wialen drygioni, ni o honynt, nac oi cyfoeth, nac oi terfysc-wŷr hwynt, na galar drostynt.

12Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd, na lawenyched y pryn-wr, ac na thristaed y gwerth-wr, canys daw digllonedd ar eu holl weryn.

13Canys y gwerthudd ni ddychwel at yr hynn a werthodd, er eu bod etto’n fyw, o blegit y weledigaeth am ei holl weryn, na ddychwelant ac nad ymgryfhânt bob vn yn anwiredd ei fuchedd.

14Udcanasant vdcorn, a darparasant oll, etto nid oedd a ele i ryfel: am fy nigllonedd yn erbyn eu holl weryn.

15Y cleddyf oddi allan, haint hefyd a newyn o fewn: yr hwn yn y maes a fydd farw gan gleddyf, a’r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn, a haint ai difa ef.

16Etto eu rhai diangol hwynt a ddiangant. ac ar y mynyddoedd y byddant hwy oll yn griddfan fel colomennod y dyffryn, pob vn am ei anwiredd.

17 Esa.13.7. Ier.6.24. Yr holl ddwylo a laesant, a’r holl liniau a ânt yn ddwfr.

18Yna Esa.15.3. Ier.48.37. Diarn.11.4.|PRO 11:4. Zoph.1.18.|ZEP 1:18. Eccl.5.10.yr ymwregysant sachliain, ac arswyd ai toa hwynt, yna cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt.

19Eu harian a daflant i’r heolydd, ai haur fydd mewn dirmig: eu haur, nai harian ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd digter yr Arglwydd: eu henaid ni ddiwallant, ai coluddion ni lanwant, pan fyddo tramgwydd eu hanwiredd hwynt.

20Gogoniant hefyd ei harddwch ef yn rhagorieth y gosodase ef: onid gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd-dra ai brynti: am hynny y rhoddais ef ym-mhell oddi wrthynt.

21Canys rhoddaf ef yn llaw dieithriaid yn yspail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tîr, a hwynt ai halogant ef:

22Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, ac halogir fy nirgelfa: îe anrheith-wŷr a ddeuant iddi, ac ai halogant.

23Gwna gadwyn, canys llannwyd y tir o farn waedlyd, a’r ddinas sydd lawn o drais,

24Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd fel y gorescynnant eu tai hwynt: felly y difethaf falchder y cedyrn, ai Psal.68.35.cyssegroedd a halogir.

25Y mae torr yn dyfod, yna y ceisiant heddwch, ac ni’s

26Daw trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl, yna y ceisiant weledigaeth gan y prophwyd: onid cyfraith a gyll gan yr offeiriaid, a chyngor gan yr henuriaid.

27Y brenin a alara, a’r tywysog a wiscir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a gynhyrfir: gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd eu hun, ac âi barnedigaethu eu hun y barnaf hwynt, fel y gwybyddant mai myfi yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help