1Ac Iob a attebodd, ac a ddywedodd:
2Er bod fy ymadrodd heddyw yn chwerw: bod fy nialedd yn drymmach na’m vchenaid,
3Oh nas adwaenwn, ac cawn ef: fel y deuwn at ei eisteddfa ef.
4Dadleuwn ger ei fron ef: a llawnwn fyng-enau a rhesymmau.
5Mynnwn ŵybod eiriau i’m hattebe: a mynnwn ddeall pa beth a ddywede efe wrthif.
6A ymrysône efe â mi ag helaethrwydd gadernid? na ond efe a osode ynof.
7Yno’r iniawn a ymrysymme ag ef: ac mi a ddiangwn byth gan fy marn-wr.
8Wele ym mlaen yr âf nid ydyw efe yn ôl hefyd, nid ydwyf yn ei ganfod ef.
9[Os] ar y llaw asswy lle y mae efe yn gweithio ni chanfyddaf ar y llaw ddehau, y mae efe yn ymguddio, fel na chaf weled.
10Ond efe a edwyn fy ffordd, y mae efe yn fy mhrofi, myfi a âf allan fel aur.
11Fy nhroed a ddilyn ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni ŵyrais.
12Nid ydwyf y chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy n’am harferol
13Y mae efe hefyd yn vn a phwy ai trŷ ef? y mae ei enaid ef yn chwennychu, ac efe a gyflawna.
14Canys efe a gyflawna’r hyn a orchymynnodd efe am danafi: ac ganddo ef lawer o’r fath bethau a hyn.
15Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais rhagddo ef.
16Canys Duw a feddalhâodd fyng-halon: a’r Holl-alluog a’m dychrynodd.
17O herwydd na thorrwyd fi ymmaith o flaen tywyllwch: ac chuddiodd efe niwl o’m gŵydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
