1.Samuel 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. I.Hanes Elcana ai wragedd. 10 Gweddi Hannah ai hadduned i Dduw. 15 Ai hatteb hefyd i Eli. 20 Ganedigaeth Samuel. 24 Ai gyssegriad i’r Arglwydd.

1Ac yr oedd rhyw Ephrate-wr o Ramathaim Zophim o fynydd Ephraim, ai enw Elcana mab Ieroham, fab Elihu, fab Thohu, fab Zuph

2A dwy wragedd iddo ef, enw y naill Hānah, ac enw y llall Peninnah: ac i Peninnah yr ydoedd plant, ond i Hannah nid plant.

3 Deut.16.16. A’r gŵr hwnnw a aei i fynu oi ddinas bôb blwyddyn i addoli, ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd yn Siloh: ac yno dau fab Eli Hophni a Phinees offeiriaid i’r Arglwydd.

4Bu hefyd y diwrnod yr aberthodd Elcana roddi o honaw ef i Peninnah ei wraig, ac iw meibion, ai merched oll rannau.

5Ac i Hannah y rhoddes efe vn rhan wynebol, canys efe a gâre Hannah, er i’r Arglwydd gaeu ei brû hi.

6Ai gwrthwyneb-wraig ai cythruddodd hi a digter, fel y cyffroawdd hi: am i’r Arglwydd gaeu ei brû hi.

7(Ac felly y gwnaeth efe bôb blwyddyn) pan escynne hithe i dŷ yr Arglwydd hi ai cythrudde hi felly, fel yr ŵyle, ac na fwyttae.

8Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hannah pa ham yr ŵyli di? a pha ham na fwyttei? a pha beth a flina dy galon? onid ŵyfi well i ti na dêc o feibion?

9Yna Hannah a gyfododd wedi iddi fwytta, ac yfed yn Silo: ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar faingc, wrth bôst teml yr Arglwydd.

10A hi yn athrist a weddiodd hefyd ar yr Arglwydd, a chan ŵylo a ŵylodd.

11Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd: ô Arglwydd y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy law-forwyn, ac am coffei fi, ac nid anghofi dy law-forwyn, onid rhoddi i’th lawforwyn fâb: yna y rhoddaf ef i’r Arglwydd holl ddyddiau ei enioes, ac nid aiff ellyn ar ei ben ef.

12A bu fel yr oedd hi yn gweddio llawer ger bron yr Arglwydd: i Eli ddal sulw ar ei genau hi.

13Canys Hannah oedd yn llefaru wrthi ei hun, yn vnic ei gwefusau a symmudent, ai llais ni chlywid: ac Eli a dybiodd ei hi yn feddw

14Yna Eli a ddywedodd wrthi hi, pa hŷd y byddi feddw? bwrw ymmaith dy wîn oddi wrthyt.

15A Hannah a attebodd, ac a ddywedodd, nid fy arglwydd, gwraig galed arni fi, gwîn hefyd na diod gadarn nid yfais: eithr Psal.42.5.tywelltais fy meddwl ger bron yr Arglwydd.

16Na chyfrif dy law-forwyn yn ferch y fall: canys o amldra fy mefyrdod, a’m llid, y lleferais hyd yn hyn.

17Yna yr attebodd Eli, ac a ddywedodd, dôs mewn hêddwch: a Duw yr Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef.

18A hi a ddywedodd, caffed dy law-forwyn ffafor yn dy olwg: felly yr aeth y wraig iw thaith, ac a fwyttaodd, ac ni bu morr athrist mwy.

19Yna y cyfodasant yn foreu, ac a addolasant ger bron yr Arglwydd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant iw tŷ Ramah: yna Elcana a adnabu Hannah ei wraig, a’r Arglwydd ai cofiodd hi.

20A bu o fewn cylchoedd dyddiau feichiogi o Hannah, ac escor ar fab, a hi a alwodd ei enw ef Samuel: canys gan yr Arglwydd y dymunais ef

21Yna yr aeth Elcana y gŵr i fynu, ai holl dy-lwyth i aberthu i’r Arglwydd aberth blynyddawl, ai adduned.

22Ond Hannah nid aeth i fynu, canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr hyd oni ddiddyfnir y bachgen: yna y dygaf ef, fel y dangosir ef o flaen yr Arglwydd, ac y trigo yno byth.

23Yna Elcana ei gŵr hi a ddywedodd wrthi hi, gwna yr hyn a welech yn dda, aros hyd oni ddiddyfnech ef: yn vnic yr Arglwydd a gyflawno ei air, felly yr arhôdd y wraig, ac a fagodd ei mâb nes iddi ei ddiddyfnu ef.

24A phan ddiddyfnodd hi ef, hi ai dûg ef i fynu gyd a hi, a thri o fustych, ac Exod.16.36.vn Epha o beillied, a chostrêled o wîn, a hi ai dûg ef i mewn i dŷ yr Arglwydd yn Silo a’r bachgen yn ieuangc.

25Yna y lladdasant fustach, ac a ddugasant y bachgen at Eli.

26A hi a ddywedodd wrthif fy arglwydd y mae dy enaid yn fyw fy arglwydd, myfi yw yr wraig yr hon oedd yn sefyll ymma gyd a thi, gan weddio ar yr Arglwydd.

27Am y bachgen hwn y gweddiais, a’r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad yr hwn a ddymunais ganddo ef.

28Minne hefyd ai rhoddais ef i’r Arglwydd, yr holl ddyddiau y rhai y byddo efe y rhoddwyd ef i’r Arglwydd: ac efe a ymgrymmodd yno i’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help