2.Cronicl 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Salomon yn dwyn i’r deml offrymmau Dafydd, ac Arch yr Arglwydd. 11 Ac yn peri i’r holl Lefiaid ganu moliant i Dduw.

1Felly y 1.Bren.7.51. & 8.1.gorphennwyd yr holl waith yr hwn a wnaeth Salomon yn nhŷ yr Arglwydd: a Salomon a ddug yr hyn a gyssegrase Dafydd ei dad, ac a osododd yn nhryssorau tŷ Dduw yr arian, a’r aur, a’r holl lestri.

2Yna y cynhullodd Salomon henuriaid, Israel, a holl bennau y llwythau, pennau cenedl meibion Israel i Ierusalem, i ddwyn i fynu Arch cyfammod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno Sion.

3Am hynny holl wŷr Israel a ymgynnullasant at y brenin, a’r vchel-wŷl honno y seithfed mîs.

4A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r Lefiaid a ddugasant yr Arch,

5Yna y dugasant i fynu’r Arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cyssegr, y rhai yn y babell, yr offeiriaid Lefiadaidd ai dugasant hwynt i fynu.

6Yna y brenin Salomon, a holl gynnulleidfa Israel y rhai a gyfarfuāt ag ef o flaen ’r Arch a aberthasant o ddefaid, a gwartheg fwy nag a ellid eu rhifo nai cyfrif gan luosogrwydd.

7Felly’r offeiriaid a ddugasant Arch cyfāmod yr Arglwydd iw lle, i gafell y tŷ, i’r cyssegr sancteiddiolaf, hyd tann adenydd y Cerubiaid.

8A’r Cerubiaid oeddynt yn lledu eu hadenydd tros lê yr Arch: a’r Cerubiaid a gyscodēt yr Arch, a thros ei throsolion oddi arnynt.

9Pan estynnent y trosolion y gwelyd pēnau y trosolion o’r Arch o flaen y gafell, ac ni welyd hwynt oddi allan: yno hefyd y mae hi hyd y dydd hwn.

10Nid yn yr Arch ond y ddwy lêch, y rhai a roddase Moses yn Horeb, llê y gwnaethe yr Arglwydd gyfammod a meibion Israel pan ddaethent hwy allan o’r Aipht.

11A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cyssegr (canys yr holl offeiriaid y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent heb gadw dosparthiad,

12Felly y Lefiaid y rhai oeddynt gantoriō o honynt hwy oll o Asaph, o Heman, o Ieduthun, ac oi meibion hwynt, ac oi brodyr, wedi eu gwisco a lliain main, a Symbalau, ac a nablau, a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyd a hwynt chwech vgain o offeiriaid yn vdcanu mewn vdcyrn.

13Ac hwyntau yn gydtun a vdganent, ac a ganent, gan seinio vn sain i glodfori, ac i foliannu yr Arglwydd: ac wrth dderchafu sain mewn vdcyrn, ac mewn Symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu’r Arglwydd mai da yw, ac mai yn dragywydd ei drugaredd ef) yna y llawnwyd y tŷ a niwl tŷ’r Arglwydd.

14Ac ni alle yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y niwl: o herwydd gogoniant yr Arglwydd a lawnase dŷ Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help