1Yna y Philistiaid a gasclasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynnullasant i Socho, yr hon yn Iuda, ac a werssyllasant rhwng Socho, ac Azecah yng-hwrr Dammim.
2Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasclasant, ac a werssyllasant yn nyffryn Elah: ac a luniaethasant ryfel yn erbyn y Philistiaid.
3A’r Philistiaid oeddynt yn sefyll ar fynydd o’r naill du, ac Israel oeddynt yn sefyll ar fynydd o’r tu arall, a’r dyffryn rhyngddynt.
4Yna y daeth gŵr rhyngddynt hwy o werssylloedd y Philistiaid ai enw Goliath o Gath: ei vchter chwe chufydd a rhychwant.
5A hêlm o brês ar ei ben, a lluric emmoc a wiscodd efe, a phwys y lluric bum mil o siclau prês.
6A bottyssau prês am ei draed ef, a tharian prês rhwng ei yscwyddau.
7A phaladr ei waiw-ffon ef fel carfan gwehyddion, a blaen ei waiw-ffon ef chwe-chant sicl o haiarn: a’r hwn oedd yn dwyn y tarian oedd yn myned oi flaen ef.
8Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt: i ba beth y deuwch i luniaethu rhyfel, onid fi Philistiad? a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr i ddyfod i wared attafi.
9Os efe a orchfyga wrth ymladd a mi, ac a’m lladd i, yna y byddwn ni yn weision i chwi, ond os myfi ai gorchfygaf ef, ac ai laddaf ef, yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni.
10Y Philistiad hefyd a ddywedodd, myfi a wradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn, moeswch attafi ŵr fel y cyd-ymladdom ni.
11Pan glybu Saul, a holl Israel y geiriau hynny y Philistiad, yna y brawychasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.
12 Pen.16.1. A’r Dafydd hwn fab i Ephratewr o Bethlehem Iuda, ai enw ef Isai, ac iddo ef ŵyth o feibion: a’r gŵr yn nyddiau Saul yn hên yn dyfod ym mhlith ddynion.
13A thri mab hynaf Isai a aethant a ddaethant ar ôl Saul i’r rhyfel: ac enw ei dri mab ef y rhai a aethant i’r rhyfel Eliab y cyntafanedic, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd.
14A Dafydd hwnnw ieuangaf: a’r tri hynaf a aethant ar ôl Saul.
15Dafydd hefyd a Pen.16.19.aeth, ond efe a ddychwelodd oddi wrth Saul i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem.
16Felly y Philistiad a nessaodd yn foreu, ac yn hwyr, ac a barhaodd ddeugain nhiwrnod.
17A dywedodd Isai wrth Ddafydd ei fab, cymmer yn awr i’th frodyr Epha o’r crâs-ŷd hwn, a’r dêc torth hyn: ac ar redeg dwg i’r gwerssyll at dy frodyr.
18Dŵg hefyd y dêc cossyn îr hyn i dywysog y mîl, ac ymwel a’th frodyr mewn heddwch, a dwg eu gwystl hwynt.
19Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel yn nyffryn Elah yn ymladd a’r Philistiaid.
20Felly Dafydd a gyfododd yn foreu, ac a adawodd y defaidd gyd a cheidwad, ac a gymmerth y pethau hynny, ac a aeth megis y gorchymynnase Isai iddo ef: ac a ddaeth i’r gwerssyll, a’r llu a aethe allan i’r gâd, ac a floeddiasent yn y rhyfel.
21Canys Israel a’r Philistiaid a fyddinasent fyddin yn erbyn byddin.
22A Dafydd a adawodd y mûd oddi wrtho tann law ceidwad y dodrefn: ac a redodd i’r fyddin, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd ei frodyr.
23Pan oedd Dafydd yn ymddiddan a hwynt, yna wele yr gŵr (yr hwn rhwng y ddeu-lu) yn dyfod i fynu o fyddinoedd y Philistiaid (Goliath y Philistiad o Gath ei enw ef,) ac efe a ddywedodd yr vn fath eiriau fel y clybu Dafydd.
24A holl wŷr Israel pan welsant y gŵr hwnnw a ffoasant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr.
25Dywedodd gwŷr Israel hefyd oni welsoch chwi y gwr hwn yn dyfod i fynu? diau i wradwyddo Israel y mae yn dyfod i fynu: a’r gŵr yr hwn ai lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnw Iosu.15.16.a chyfoeth mawr, ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef, a thŷ ei dâd ef a wnaiff efe yn rhydd yn Israel.
26Yna y llefarodd Dafydd wrth y gwŷr y rhai oeddynt yn sefyll gyd ag ef gan ddywedyd: beth a wneir i’r gŵr yr hwn a laddo y Philistiad hwn? ac a dynn ymmaith y gwradwydd oddi ar Israel? canys pwy y Philistiad dienwaededic hwn, pan wradwydde efe fyddinoedd y Duw byw?
27A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd: felly y gwneir i’r gŵr yr hwn ai lladdo ef.
28Ac Eliab ei frawd hynaf ef ai clybu ef pan oedd efe yn ymddiddan a’r gwŷr, a digter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd, ac efe a ddywedodd, pa ham y daethost i wared ymma? a chyd a phwy y gadewaist yr ychydic ddefaid hynny yn yr anialwch? myfi a adwen dy falchder di, a drygioni dy galon di, canys i weled y rhyfel y daethost di i wared.
29Yna y dywedodd Dafydd, beth a wneuthum i yn awr? onid oedd neges
30Ac efe a ddychwelodd oddi wrtho ef at vn arall, ac a ddywedodd yr vn modd, a’r bobl ai hattebasant ef air yng-air o’r blaen.
31Pan glybuwyd y geiriau y rhai a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt ger bron Saul, ac efe a barodd ei ddwyn ef
32A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, na lwfrhaed calon dŷn erddo ef, dy wâs di a aiff, ac a ymladd a’r Philistiad hwn.
33Yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, ni elli di fyned at y Philistiad hwn i ymladd ag ef, canys llangc ti, ac yntef sydd yn rhyfel-wr oi febyd.
34A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, bugail oedd dy wâs di ar ddefaid ei dâd, pan ddaeth y llew, a’r arth a chymmeryd oen o’r praidd.
35A mi a euthum ar ei ôl ef, ac ai tarewais ef, ac hachubais oi safn ef: pan gyfododd ef i’m herbyn i, yna mi a ymaflais yn ei farf ef, ac ai tarewais, ac ai lleddais ef.
36Felly dy wâs di a laddodd y llew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededic hwn fydd megis vn o honynt, canys efe a amharchodd fyddinoedd y Duw byw.
37Dywedodd Dafydd hefyd, yr Arglwydd yr hwn a’m hachubodd i o grafangc y llew, ac o balf yr arth, efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn: yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, dos, a’r Arglwydd fyddo gyd a thi.
38A Saul a wiscodd Ddafydd ai wiscoedd ei hun, ac a roddodd helm o brês ar ei benn ef: ac ai gwiscodd ef lluric.
39Yna y gwregysodd Dafydd ei gleddyf ar vchaf ei wiscoedd, ac a geisiodd gerdded am na phrofase efe, yna y dywedodd Dafydd wrth Saul, ni allafi fyned yn y rhai hyn, canys ni phrofais i: am hynny y dioscodd Dafydd hwynt oddi am dano.
40Yna y cymmerth efe ei ffon yn ei law, ac a ddewîsodd iddo bump o gerric llyfnion o’r afon, ac ai gosododd hwynt yng-hôd y bugeiliaid yr hon ganddo, sef yn yr screpan: ai ffon dafl yn ei law ef: ac efe a nessaodd at y Philistiad.
41A’r Philistiad a gerddodd, gan fyned, a nessau at Ddafydd: a’r gŵr oedd yn cludo y tarian oi flaen ef.
42Pan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, yna efe ai dremygodd ef, canys llangc oedd efe, gwrid-coch, a thêg yr olwg.
43A’r Philistiad a ddywedodd wrth Ddafydd, ai cî ydwyfi, gan dy fod yn dyfod attafi a ffynn? a’r Philistiad a regodd Ddafydd drwy ei dduwiau ef.
44Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Ddafydd, tyret attafi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes.
45Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, ti ydwyt yn dyfod attafi a chleddyf, ac a gwaiw-ffon, ac a tharian: a minne ydwyf yn dyfod attat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel yr hwn a geblaist ti.
46Y dydd hwn y dyru yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a’th darawaf di, ac a gymmeraf ymmaith dy ben di oddi arnat ti, ac a roddaf gelanedd gwerssyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwyst-filod y ddaiar: a holl y ddaiar a gânt ŵybod fod Duw i Israel.
47A’r holl gynnulleidfa hon a gant ŵybod, nad a chleddyf, nac a gwaiw-ffon y gwared yr Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni.
48A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nessau i gyfarfod Dafydd: yna y bryssiodd Dafydd, ac y rhedodd tu a’r fyddin i gyfarfod a’r Philistiad.
49A Dafydd a estynnodd ei law i’r gôd, ac a gymmerth oddi yno garrec, ac a chwrndaflodd, ac a darawodd y Philistiad yn ei dalcen: a’r garrec a soddodd yn ei dalcen ef, ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb.
50Felly Ecclesiast.47.4.|SIR 47:4. 1.Mac.4.30.y gorthrechodd Dafydd y Philistiad, a ffon-dafl, ac a charrec, ac a darawodd y Philistiad, ac ai lladdodd ef: er nad cleddyf yn llaw Dafydd.
51Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymmerth gleddyf hwnnw, ac ai tynnodd o’r wain, ac ai lladdodd ef, ac a dorrodd ei benn ag ef: pan welodd y Philistiaid farw oi cawr hwynt, yna y ffoasant hwy.
52A gwŷr Israel, ac Iuda a gyfodasant, ac a floeddiasant, ac a erlydiasant y Philistiaid hyd y dêlech i’r dyffryn, ac hyd byrth Acaron: a’r Philistiaid a syrthiasant yn archolledic ar hyd ffordd Saarim, sef hyd Gath, ac hyd Acaron.
53Yna meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid: ac a anrheithiasant eu gwerssylloedd hwynt.
54A Dafydd a gymmerodd benn y Philistiad, ac ai dûg i Ierusalem: ai arfau ef a osododd efe yn ei babell.
55A phan welodd Saul Ddafydd yn myned i gyfarfod a’r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner tywysog y filwriaeth, mab i bwy ’r llangc hwn, Abner? ac Abner a ddywedodd y mae yn fyw dy enaid ô frenin nis gŵn.
56Yna y dywedodd y brenin, ymofyn di mab i bwy ’r gwr ieuangc hwn.
57A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, yna Abner ai cymmerodd ef, ac ai dûg ef o flaen Saul: a phenn y Philistiad yn ei law.
58A Saul a ddywedodd wrtho ef, mab i bwy ti y gwr ieuangc? yna y dywedodd Dafyd, mab i’th wâs Isai y Bethlehemiad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.