1A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
2Pa ham gennych ddiharebu o honoch y ddihareb hon am dîr Israel gan ddywedyd: Ier.31.29.y tadau a fwyttasant rawn-wîn surion, ac ar ddannedd y plant y mae dingcod.
3[Nid] byw fi medd yr Arglwydd Dduw, os bydd ichwi mwy ddiharebu y ddihareb hon yn Israel.
4Wele’r holl eneidiau eiddo fi hwy, fel enaid y tâd felly enaid y mâb eiddo fi hwy: yr enaid a becho hwnnw a fydd marw.
5Canys os bydd gŵr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn, a chyfiawnder:
6Heb fwytta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eulynnod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymmydog, na nessau at Lefit.20.18.wraig fisglwyfol:
7Hefyd ni orthrymma neb, gŵystl y dyledwr a rydd yn ei ôl, ni threisia drais, Esa.58.7. Mat.25.35.|MAT 25:35. Exod.22.25. Lefit.25.37. Deut.23.19. Psal.15.5.ei fara a rydd i’r newynog, ac a ddillada y noeth:
8Ni rydd * ar vsuriaeth, ac ni chymmer y chwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wna rhwng gŵr, a gŵr:
9Yn fy neddfau y rhodia, a’m barnedigaethau a geidw gan gwneuthur gwirionedd, y cyfiawn hwnnw gan fyw fydd byw medd yr Arglwydd Dduw.
10Os cenhedla efe fab yn lleidr, yn tywallt gwaed: ac a wna frawd yn erbyn vn o hyn:
11Ac ni wna efe hyn oll, onid ar y mynyddoedd y bwyttu, a gwraig ei gymmydog a haloga:
12Yr anghenus a’r tlawd a orthrymma, trais a dreisia, gwystl ni rydd trachefn: neu at eulynnod y cyfyd ei lygaid, gan wneuthur ffieidd-dra:
13Ar vsuriaeth y rhydd, ac y chwaneg a gymmer, gan hynny a fydd efe byw? ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffiaidd-dra hyn, gan farw y bydd farw, ei waed a fydd arno ei hun.
14Ac wele cenhedlodd fâb, yntef a wêl bechodau ei dâd, ac a ofna, ac ni wna felly:
15Ar y mynyddoedd ni fwyttu, ai lygaid ni chyfyd at eulynnod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymmydog:
16Ni orthrymma neb ychwaith, ni attal efe wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i’r newynoc, a’r noeth a ddillada efe:
17[Ni] thrŷ ei law oddi wrth yr anghenoc, vsuriaeth, na llôg ni chymmer, fy marn a wna, yn fy neddfau y rhodia, hynnw ni bydd farw am anwiredd ei dâd, gan fyw y bydd efe byw.
18Ei dâd am gamattal attaliaeth, a thresio trais, frawd, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ym mysc ei bobl: am hynny wele ef yn marw yn ei anwiredd.
19A chwi a ddywedwch, pa ham na ddŵg y mab anwiredd y tâd? am wneuthur o’r mâb farn, a chyfiawnder, fy holl ddeddfau a gadwodd, ac ai gwnaeth hwynt: gan fyw y bydd fyw.
20Yr Deut.24.16. 2.Bren.14.6. 2.Cron.25.4.enaid a becho, hwnnw a fydd marw, y mab ni ddŵg anwiredd y tâd, a’r tâd ni ddwg anwiredd y mâb? cyfiawnder y cyfiawn fydd arno: a brygioni y drygionus fydd arno yntef.
21Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau, y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw: ni bydd efe marw.
22Ni choffeir iddo yr holl gamweddau y rhai a wnaeth, yn ei gyfiawnder yr hwn a wnaeth y bydd efe byw.
23Gan ewyllysio, a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr Arglwydd Dduw? neu ynte fyw o honaw trwy ddychwelyd oi ffyrdd?
24A phan ddychwelo y cyfiawn oi gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ôl yr holl ffieidd-dra a’r a wnelo’r an̄uwiol: a fydd efe byw? ni choffeir yr holl gyfiawnderau y rhai a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn y pechod yr hwn a bechodd y bydd efe farw oi plegit.
25A chwi a ddywedwch, nid cymmwys yw ffordd yr Arglwydd, gwrandewch yr awr hon tŷ Israel, onid yw gymmwys fy ffordd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymmwys?
26Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a marw ynddynt, yn ei anwiredd ei hun yr hwn a wnaeth y bydd efe marw.
27A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni’r hwn a wnaeth, a gwneuthur barn, a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid.
28Pan welo a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw, y bydd byw, ni bydd marw.
29Etto tŷ Israel a ddywedant, nid cymmwys yw ffordd yr Arglwydd, tŷ Israel onid cymmwys fy ffyrdd mau fi? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymmwys?
30Am hynny barnaf chwi tŷ Israel bob vn yn ôl ei ffyrdd ei hun medd yr Arglwydd Dduw: dychwelwch a throiwch o’ch holl gamweddau, fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.
31Bwriwch oddi wrthych eich holl gamweddau y rhai y camweddasoch ynddynt, a gwnewch iwch galō newydd, ac yspryd newydd: a pha ham tŷ Israel y byddwch feirw?
32Canys ni bydd gwynfyd gennif ym marwolaeth y marw medd yr Arglwydd Dduw: dychwelwch gan hynny, a byddwch fyw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.