1Galw yn awr, a oes yn atteb i ti? ac at bwy o’r sainct y troi di?
2Canys digllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen yr annoeth.
3Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felldithiais ei drigfa ef yn ddisymmwth.
4Ei feibion ef a bellhauir oddi wrth iechydwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac ni bydd gwaredudd.
5Yr hwn y bwyttu y newynog ei gynhaiaf, wedi iddo ei gymmeryd ef o blith drain: a’r sychedic a ŷf eu cyfoeth hwynt.
6Canys ni ddaw trueni allan o’r pridd, ac ni flagura gofid allan o’r ddaiar.
7Ond dŷn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen yn vchel.
8Etto myfi a ymgynghorwn a Duw: ac a Duw yr ymddiddanwn.
9Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion, anchwiliadwy, rhyfeddol heb rifedi.
10Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaiar: ac yn danfon dyfroedd ar wyneb yr heolydd.
11Gan osod rhai isel mewn vchelder: fel y derchefir y galârus iechydwriaeth.
12Yr hwn sydd yn diddymmu amcannion y cyfrwys: fel na wnelo eu dwylo hwynt ddim a ffrwyth ynddo.
13 1.Cor.3.19. Yr hwn sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwysdra: fel y byddo ynfyd cyngor y rhai dichellgar.
14Lliw dydd y cyfarfyddāt â thywyllwch, a hwy a balfalant am ffordd hanner dydd, megis lliw nos.
15Yr hwn hefyd a achub yr anghenog rhac y cleddyf, rhac eu genau hwy, a rhac llaw y cadarn.
16Felly y mae efe yn obaith i’r tlawd, ond anwiredd a gaeodd ei safn.
17Wele gwyn ei fyd y dŷn a geryddo Duw, am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.
18Canys efe a glwyfa, ac a feddiginiaetha: efe a friw, ai ddwylaw ef a iachânt.
19Mewn chwech o gyfyngdêrau efe a’th wared ti: ac yn y seithfed ni chyffwrdd drwg a thi.
20Mewn newyn efe a’th wared ti oddi wrth farwolaeth: ac mewn rhyfel oddi wrth fin y cleddyf.
21Rhac ffrywill tafod i’th guddir: ac ni ofni rhac dinistr pan ddelo.
22Mewn dinistr, a newyn y chwerddi: ac ni ofni rhac bwyst-filod y ddaiar.
23Canys a cherrig y maes y dy ammod ti: a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol i ti.
24A thi a gei ŵybod heddwch dy luest: a phan ymwelech a’th drigfa ni phechi.
25A chei ŵybod hefyd mai lluosog dy hâd: a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaiar.
26Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd: fel y codir yscafn yn ei hamser.
27Wele ni a chwiliasom hyn, felly efe: gwrando hynny, a gwybydd di er dy fwyn dy hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
