Psalmau 72 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lxxij.Psalm Salomon.

1O Dduw dod ti i’r brenin dy farnedigaethau: ac î fab y brenin dy gyfiawnder.

2[Yna] y barn efe dy bobl mewn cyfiawnder: a’th drueniaid mewn iniondeb.

3Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl a’r brynnau, gyfiawnder.

4Efe a farn drueniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghênus: ac a ddryllia y gorthrymmudd.

5Tra fyddo haul a lleuad i’th ofnant, oes oesoedd.

6Efe a ddescyn fel glaw ar gnû gwlân, fel cafodydd yn dyfrhau y ddaiar.

7Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn, ac amlder o heddwch fydd tra lleuad.

8Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaiar.

9Oi flaen ef yr ymgrymma trigolion yr anialwch: ai elynnion a lŷfant y llŵch.

10Brenhinoedd Tharsis, a’r ynysoedd a dâlant anrheg, brenhinoedd Saba, ac Arabia a ddygant rodd.

11Ie’r holl frenhinoedd a ymgrymmant iddo ef: yr holl genhedloedd ai gwasanaethant ef.

12Canys efe a wared yr anghênog pan waeddo, a’r truan hefyd, a’r ni cynnorthwy-wr iddo.

13Efe a arbed y tlawd a’r rheidus: ac a achub enaid y rhai anghenus.

14Efe a wareda ei henaid oddi wrth dwyll, a thrawsder: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

15Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Arabia: gweddiāt hefyd atto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.

16Bydd dyrned o ŷd ar y ddaiar ym mhen y mynyddoedd, ei ffrwyth a escwyd fel Libanus: a a darddant o’r ddinas fel gwellt y ddaiar.

17Ei enw fydd yn dragywydd, ei enw a beru tra fyddo haul, yr holl genhedloedd a fendithir ynddo ef, ac ai clodforant ef.

18Bendigêdic’r Arglwydd Dduw Duw Israel, yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.

19Bendigedic hefyd enw ei ogoniant ef yn dragywydd: a’r holl ddaiar a lanwer oi ogoniant, Amen, Amen.

20 YMMA y gorphennir gweddiau Dafydd fab Isai.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help