Rhufeiniaid 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.1 Diogelwch y ffyddloniaid, a ffrwyth yr Yspryd glân yddynt hwy, 3 gwendit y ddeddf, a phwy a’i cwplaodd hi, ac i ba beth, 5 O ba ryw wedd y dyle y ffyddloniaid fôd, 6 ffrwyth yr yspryd ynddynt hwy, 17 am obaith, 18 am ddioddefgarwch tann y groes, sef ran adfyd er mwyn Crist, 28 am y cydgariad rhwng Duw a’r blant, 29 am ei ragwybodaeth a’r ragluniaeth ef.

1Gan hynny nid oes weithian ddamnedigaeth i’r rhai sy yng-Hrist Iesu, y sawl nid ydynt yn rhodio yn ôl y cnawd, eithr ar ôl yr Yspryd.

2Canys deddf Yspryd y bywyt yng-Hrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.

3Canys (yr hyn a ydoedd yn amhossibl i’r ddeddf pan ydoedd hi yn egwan o blegit y cnawd) Duw gan ddanfon ei Fâb ei hun yng-hyffelybiaeth cnawd pechadurus, a am bechod, a gondemnodd bechod yn y cnawd,

4Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio nid yn ôl y cnawd: eithr yn ol yr Yspryd.

5Canys y rhai ydynt gnawdol, am bethau’r cnawd yr ymsynhwyrant: eithr y rhai sy yn ôl yr Yspryd, am bethau ’r Yspryd.

6Canys y mae synnwyr yr cnawd yn farwolaeth, a synnwyr yr Yspryd yn fywyd a thangneddyf.

7O blegit synnwyr y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: am nad yw ddarostyngedic i ddeddf Duw: ac ni’s dichon

8Am hynny y sawl ydynt yn y cnawd ni allant ryngu bodd Duw.

9Weithian chwy-chwi nid ydych yn y cnawd, eithr yn yr Yspryd, gan fod Yspryd Duw yn trigo ynoch: ac od oes nêb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.

10Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corph wedi marw, o blegit pechod: eithr yr Yspryd yn fywyd er mwyn cyfiawnder.

11Ac os Yspryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Grist o feirw, a fywocâ hefyd eich cyrph marwol chwi, trwy ei Yspryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.

12Am hynny frodyr yr ydym yn ddyled-wŷr, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd:

13Canys os byw fyddwch yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os marwhewch weithredoedd y cnawd trwy’r Yspryd, byw fyddwch.

14Canys cynnifer a dywyser gan Yspryd Duw, y rhai hyn sy blant i Dduw.

15Canys ni dderbyniasoch yspryt caethiwet i ofn trachefn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad trwy’r hwn yr ydym yn llefain (Abba) Dâd.

16Y mae yr Yspryd hwn yn cyd-testiolaethu â’n hyspryd mi, ein bod ni yn blant i Dduw.

17Os ydym ni yn blant, ni hefyd yn etifeddion, os yn etifeddion i Dduw, yna yn gyd-etifeddion â Christ: ac os cyd-ddioddefwn ag ef, fe a’n cyd-ogoneddir hefyd gyd ag ef.

18 O blegit yr ydwyf yn bwrw nad yw gofidiau yr amser yr awron yn cydstadlu y gogoniant a ddangosir i ni.

19Canys awydd-fryd y creatur sydd yn disgwil am ddadcuddiad meibion Duw.

20Canys y mae y creatur yn ddarostyngedic i wagedd nid o’i fodd, eithr o blegit yr hwn a’i darostyngodd,

21Tann obaith y rhyddheir y creatur hefyd o gaethiwed llygredigaeth i rydd-did gogoniant meibion Duw.

22Canys gwyddom fod pôb creatur yn cydocheneidio â ni, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn.

23Ac nid yn vnic y ond ninnau hefyd y sawl a gawsom flaen-ffrwyth yr Yspryd, yr ydym ninnau yn ocheneidio ynom ein hunain gan ddisgwil y mabwysiad, Luc.21.28.prynnedigaeth ein corph.

24Canys wrth obaith i’n iachauwyd: eithr yr hon a welir nid yw obaith: o blegit pa obeithio a wna vn am y peth a wêl?

25Ond os ydym yn gobeithio yr hyn ni welwn, yr ydym drwy ammynedd yn disgwil am dano.

26Felly hefyd y mae’r Yspryd yn cynnorthwyo ein gweddio ni: canys ni wyddom pa beth a weddiwn fel y dylem, eithr y mae yr Yspryd ei hun yn eiriol trosom ag ocheneidiau annhraethadwy.

27A’r hwn sydd yn chwilio y calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Yspryd, canys y mae efe yn ôl Duw yn eiriol tros y sainct.

28A gwyddom fod pob peth yn gweithio i’r hyn goref i’r sawl a garant Dduw, sef i’r rhai a alwyd wrth ei arfaeth ef.

29Canys y rhai a ragŵybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn vn ffurf â delw ei Fâb ef, fel y bydde efe yn gyntafanedig ym mhlith brodyr lawer.

30A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny a alwodd efe, a’r rhai a alwodd, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe, a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.

31Beth ynte a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? os Duw gyd â ni, pwy a all fod i’n herbyn?

32Yr hwn nid arbedodd ei briod Fâb, ond ei roddi ef drosom ni oll i farwolaeth, pa wedd gyd ag ef na rydd efe i ni bob peth hefyd?

33Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw, Duw yw’r hwn Esai 50.8.a gyfiawnhâ.

34Pwy a ddamna? Crist yw’r hwn a fu farw, îe yn hytrach, yr a gyfodwyd trachefn, yr hwn hefyd sydd ar ddeheu-law Duw, yr hwn hefyd sydd yn eiriol trosom ni.

35Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? a i gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni neu enbydrwydd, neu gleddyf?

36Megis y mae yn scrifennedic: er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni trwy’r dydd: yr ydys yn ein cymmeryd ni fel defaidlladdfa

37Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na chwncwerwyr trwy’r hwn a’n carodd ni.

38Canys y mae yn ddiogel gennif nad oes nac angeu, nac enioes, nac Angelion, na thwysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,

39Nac vchter, na dyfnder, nac vn creatur arall a all ein yscar ni oddi wrth gariad Duw yr hwn sydd yng-Hrist Iesu ein Harglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help