Marc 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.Crist yn dangos y difethid Ierusalem, 9 yr erlidid y ffyddloniaid, 22 y deue gau athrawon, 24 pa arwyddion fyddant o flaen dydd farn, 32 na wyr neb yr awr, 35 a y dylem ni am hynny wilied bob amser.

1Ac Math.24.1. Luc 21.5. fel yr aethd efe allan o’r Deml, dywedodd vn o’i ddiscyblion wrtho: Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeilad

2A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, a Luc.19.43. weli di’r adeilad fawr ymma? ni edir maen ar faen a’r ni’s gwascerir.

3Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd Olewydd, gyferbyn a’r Deml, Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac Andreas a ofynnasant iddo yn ddirgel,

4Dywet i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan orphenner y pethau hyn oll?

5A’r Iesu a attebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Eph.5.6.|EPH 5:6. 2.Thess.2.3. edrychwch rhag twyllo o neb chwi:

6Canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, myfi yw ac a dwyllant lawer.

7Pan glywoch hefyd am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, nac ofnwch: canys rhaid i hynny fod, ac etto ni y diwedd.

8Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a daiar-grynfâu fyddant mewn amryw leoedd, a drudaniaeth a thrallod fyddant.

9Dechreuad blinder yw hyn: eithr disgwiliwch chwi arnoch eich hunain: canys hwynt hwy a’ch traddodant i’r cyngor, ac i’r synagogau, chwi a faeddir, ac a ddygir ger bron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er testiolaeth iddynt hwy.

10Ac y mae yn rhaid yn gyntaf pregethu’r Efengyl ym mysc pob cenhedlaeth.

11Pan Math.10.19. Luc.12.11.ddygant chwi a’ch traddodi, na ragofelwch, ac na ragfyfyriwch beth a ddywetoch eithr pa beth bynnac a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwy-chwi sy yn dywedyd, onid yr Yspryd glân.

12A’r brawd a ddyry’r brawd i farwolaeth, a’r tâd y mab, a’r plant a gyfodant yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu rhoi iw marwolaeth.

13A chwi a fyddwch gâs gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhâo hyd y diwedd fydd cadwedig.

14Pan Math.24.15. Dan.9.27. weloch chwi y ffieidd-dra anrheithiol, yr hwn a ddywedpwyd gan Ddaniel y prophwyd, wedi ei osod lle ni’s dylid (y neb a ddarllenno dealled) yna y rhai fyddant yn Iudæa Luc.21.20. ciliant i’r mynyddoedd.

15A’r neb fyddo ar ben y tŷ na ddescynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim o’i dŷ.

16A’r neb a fyddo yn y maes na throed trach ei gefn yn ei ôl, i gymmeryd ei wisc.

17Gwae y rhai fyddant beichiogion a’r mamaethod yn y dyddiau hynny.

18Gweddiwch na byddo eich ffoedigaeth yn y gaiaf.

19Canys yn y dyddiau hynny a fyddant orthrymder ni bu’r cyfryw o ddechreuad y creaduriaid a greodd Duw hyd y pryd hwn, ac ni bydd.

20Ac oni bydde i’r Arglwydd fyrhau’r dyddiau hynny, pob cnawd a gyfergollid: eithr er mwyn ei etholedigion y rhai a etholodd efe, y byrhaodd efe y dyddiau hynny.

21Ac yna os dywed neb wrthych, Math.24.23. Luc.21.8.wele Crist ymma, neu wele accw, na chredwch.

22Canys gau gristiau, a gau brophwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau i dwyllo ie pe gellid yr etholedigion.

23Eithr ymogelwch chwi, wele dywedais i chwi’r cwbl oll.

24A hefyd yn y dyddiau hynny, wedi ’r gorthrymder hwnnw Ezech.32.7.|EZK 32:7. Esa. 13.10.|ISA 13:10. Ioel. 2.10y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni.

25A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd y rhai ydynt yn y nefoedd a symmudir.

26Ac yna y gwelant Fab y dŷn yn dyfod yn y cwmylau, â gallu mawr a gogoniant.

27Ac yna yr enfyn efe ei angelion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithafoedd y ddaiar hyd eithafoedd y nef.

28Gan y ffigus-bren, dyscwch gyffelybiaeth: pan fyddo ei gangen ef yn dyner, ac yn blaguro dail, chwi a ŵyddoch fod yr haf yn agos:

29Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch fod yn agos wrth y drws.

30Yn wîr yr wyf yn dywedyd i chwi nad aiff yr oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll.

31Nef a daiar a ânt heibio, ond fyng-eiriau maufi nid ânt heibio.

32Eithr am y dydd hwnnw a’r awr, ni ŵyr neb, na’r angelion y rhai ydynt yn y nef, na’r Mab, ond y Tâd.

33 Mat 24.31. Ymogelwch, gwiliwch a gweddiwch, canys ni ŵyddoch pa bryd y bydd yr amser.

34[Canys Mab y dyn sydd] fel gŵr yn ymdaith i bell, ac yn gadel ei dŷ, ac yn rhoi awdurdod iw weision, ac i bob vn ei waith, ac yn gorchymyn i’r porthor wilio.

35Gwiliwch am hynny (gan na ŵyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hŵyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreu-ddydd.

36Rhag pan ddel efe yn ddisymmwth, eich cael o honaw yn cyscu.

37A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthychwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwiliwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help