Gweledigaeth Ioan 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Ioan yn gweled fod y rhai sy yn caru’r byd yn dristion am gwymp y buttain o Babylon, 4 Rhybydd i bobl Dduw i gilio allan o’i harglwyddiaeth hi, 20 Eithr y rhai sy o Dduw, sydd ag achos iddynt i lawenychu am ei dinistr hi.

1Ac yn ôl hyn, mi a welais angel arall yn dyfodi lawr o’r nêf, ac awdurdod mawr ganddo, a goleuodd y ddaiar gan ei ogoniant ef.

2A llefain a wnaeth efe yn gryf a llais vchel, gan ddywedyd, Vch.14.8.|REV 14:8. esai 21.9.|ISA 21:9. ierem.51.8.syrthiodd, syrthiodd Babylon fawr honno, ac y mae hi yn drigle i’r cythreuliaid, a chadwriaeth pôb yspryd aflân, a chadwriaeth pôb adêryn aflân ac atcas.

3Canys yr hôll genhedloedd a yfasant o wîn digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaiar a wnaethant odîneb â hi, a marsinandwŷr y ddaiar a aethant yn gofoethogion gan amlder ei moethe hi.

4Ac mi a glywais lais arall o’r nêf yn dywedyd, ewch allan o honi hi fy mhôbl, rhag i chwi fôd yn gyfrânnog o’i phechodau, ac rhag i chwi dderbyn cyfran o’i phlâuau hi.

5Canys ei phechodau hi a gyrhaeddaesant hyd y nêf, a Duw a gofiodd ei hanwiredd hi.

6Telwch iddi fel y talodd hi i chwi, a rhoddwch iddi y dau-cymmaint yn ôl ei gweithredoedd hi, yn y cwppan y llanwodd hi i chwi, llenwch iddi hi yn ddwbl,

7Cymmeint ac y gogoneddod hi ei hun, ac y bu hi mewn moethe, yn yr vn-modd rhoddwch iddi ofid a thristwch, canys y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Esai.47.8.yr ŵyf yn eistedd yn frenhînes, ac nid ŵyf yn weddw, ac ni welaf ddim galar:

8Am hynny yn yr vn dydd y daw ei phlâuau hi, sef marwolaeth, a thristwch, a newyn, a hi a loscir â thân, canys cadarn yw’r Arglwydd Dduw, yr hwn a’i barna hi.

9A brenhinoedd y ddaiar a ŵylant am dâni hi, ac a alarant, y rhai a wnaethant odîneb, ac a fuant fyw yn foethus gyd â hi, pan welant fwg ei losciad hi.

10Ac hwy a safant ym mhell oddi wrthi gau ofn ei gofid hi, gan ddywedyd, Gwae, gwae y ddinas fawr honno Babylon, y gaer gadarn, canys mewn vn awr y daeth dy farn di.

11A marsiandwyr y ddaiar a ŵylant, ac a dristânt am deni hi, canys nid oes nêb yn prynu eu marchnadaeth hwynt mwyach.

12Marsiandiaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorphor, a sidan, ac scarlat, a phôb rhyw goed Thynon, a phob llestr o ddaint yr elephant, a phôb llestr o goed gwerthfawr, ac o brês, ac o haiarn, ac o faen marmor,

13Ac o sinamon, ac aroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheillied, a gwenith, ac yscrybliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a gwasanaethwŷr, ac eneidiau dynion.

14A’r aeron a ddesŷfiodd dy enaid ti, a ymadawsant â thi, a’r hôll bethau breision, a gwychion a aethant i ffordd oddi wrthit, ac ni chei hwynt mwyach.

15Marsiand-wŷr y pethau hyn, y rhai a ymgyfoethogasant, a safant ym mhell oddi wrthi, rhag ofn ei gofid hi, gan ŵylo ac ochain.

16A chan ddywedyd, Gwae, gwae y ddinas fawr yr hon a ddilladwyd mewn lliain main, a phorphor, ac scarlat, ac wedi ei goreuro ag aur, a meini gwerth-fawr, a pherlau.

17Canys mewn vn awr cymmeint o gyfoeth a anrheithiwyd, a phôb llywydd, a holl werin llongau, a llongwŷr, a phwy bynnag ydynt yn gweithio ar y môr, a safasant o bell,

18Ac a lefasant, pan welsant fwg ei llosciad hi, gan ddywedyd, pa vn oedd debyg i’r ddinas fawr hon?

19Ac hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant gan ŵylo, ac ochain, a dywedyd, Gwae, gwae y ddinas fawr, yn yr hon y cyfoethogwyd y rhai oeddynt â llongau ganddynt ar y môr, trw ei chôst hi, canys mewn vn awr, hi a anrheithiwyd.

20Y nêf, llawenhâ o’i phlegit, a’r Apostolion sanctaidd, a’r prophwydi, canys dialodd Duw trosoch chwi arni hi.

21Ac yna vn angel cadarn a gododd faen megis maen melin, ac a’i bwriodd i’r môr, gan ddywedyd, a’r fâth ruthr a hyn y bwrrir y ddinas fawr Babylon, ac ni cheir y hi mwy.

22Ac ni chlywir ynot ti mwy lais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac vdcanwŷr, ac ni cheir vn crefftŵr o ba greff bynnag fyddo ynot ti mwy, ac ni chlywir llais maen melin ynot ti mwy.

23Ac ni welir goleuad cannwyll ynot ti mwy, ac ni chlywir llais priodas-fâb, a phriodasferch ynot ti mwy, canys dy farsiand-wŷr di oeddent bendefigion y ddaiar, ac â’th gyfareddion y twyllwyd yr hôll genhedloedd.

24Ac ynddi hi y câed gwaed y prophwydi, a’r sainct, a phawb a’r laddwyd ar y ddaiar,

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help