Iosuah 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXII.Meibion Ruben, Gad, a hanner llwyth Manasses wrth ddychwelyd tu ag adref yn adailadu allor, 23 nid i offrymmu arni, 24 eithr i fod yn goffadwriaeth oi hundab hwynt a’r than arall o Israel.

1Yna Iosuah a alwodd am y Rubeniaid, a’r Gadiaid: ac am hanner llwyth Manasses,

2Ac a ddywedodd wrthynt, chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchymynnodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi: ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchymynnais i chwi.

3Ni wrthodasoch eich brodyr er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn: ond cadwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw.

4Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd ar eich brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny troiwch, ac ewch rhagoch i’ch pabellau i wlâd eich meddiant, yr hon a Num.32.33. Iosua 13.8.roddodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi o’r tu hwynt i’r Iorddonen.

5Yn vnic cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn, a’r gyfraith yr hon a orchymynnodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi, caru’r Arglwydd eich Duw, a rhodio yn ei holl lwybrau ef, a chadw ei orchymynnion ef, ac ymlynu wrtho ef: ai wasanaethu ef a’ch holl galon, ac a’ch holl enaid.

6Ac Iosuah ai bendithiodd hwynt, ac ai gollyngodd ymmaith: a hwynt a aethant iw pebyll.

7Ac i hanner llwyth Manasses y rhoddase’r Arglwydd yn Basan, ac iw hanner ef y rhoddodd Iosuah gyd ai brodyr tu ymma i’r Iorddonen tua’r gorllewyn: hefyd pan ollyngodd Iosuah hwynt iw pebyll, yna efe ai bendithiodd hwynt.

8Ac efe a lefarodd wrthynt gan ddywedyd, dychwelwch a chyfoeth mawr i’ch pabellau, sef ag anifeiliaid lawer iawn, ag arian, ac ag aur, a phrês hefyd, ac a haiarn, ac a gwiscoedd lawer iawn: rhennwch a’ch brodyr anrhaith eich gelynnion.

9Felly meibion Ruben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasses a ddychwelasant, ac a aethant ymmaith oddi wrth feibion Israel o Siloh, yr hon yng-wlâd Canaan: i fyned i wlâd Gilead, i wlâd eu meddiant hwy, yr hon yr ymafelasent ynddi wrth orchymyn yr Arglwydd drwy law Moses.

10Pan ddaethant i gyffinniau’r Iorddonen y rhai yng-wlâd Cauaan: yna meibion Rubē, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasses a adailadasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.

11Pan glybu meibion Israel ddywedyd i wele meibion Ruben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasses a adailadasant allor ar gyfer gwlâd Canaan wrth derfynau’r Iorddonen, gan ystlys meibion Israel:

12[Ie] pan glybu meibion Israel yna holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnullasant i Siloh, i ddyfod i fynu yn eu herbyn hwynt i ryfel.

13Yna meibion Israel a anfonasant at feibion Ruben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasses i wlâd Gilead, Phinees mab Eleazar yr offeiriad,

14A dec o dywysogion gyd ag ef, vn tywysog, o’r tŷ pennaf i bob vn o lwythau Israel: y rhai oeddynt yn bennaf yn nhŷ eu tadau ym mysc miloedd Israel.

15Felly hwynt a ddaethant at feibion Ruben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasses i wlâd Gilead: ac a ymddiddanasant a hwynt gan ddywedyd,

16Fel hyn y dywed holl gynnulleidfa’r Arglwydd, pa anghywirdeb hwn yr hwn a wnaethoch a Duw Israel gan ddychwelyd heddyw oddi ar ôl yr Arglwydd: pan adailadasoch i chwi allor i wrthryfêla heddyw yn erbyn yr Arglwydd.

17Ai bychan gennym ni Num.25.4.am anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhausom oddi wrtho etto hyd y dydd hwn: am hynny y bu pla ym mysc cynnulleidfa yr Arglwydd.

18Chwithau hefyd a ddychwelasoch oddi ar ôl yr Arglwydd: ac am i chwi wrthryfela heddyw yn erbyn yr Arglwydd y llidia efe y foru yn erbyn holl gynnulleidfa Israel.

19Ac od yw gwlâd eich meddiant chwi yn aflan dewch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi, a chymmerwch feddiant yn ein mysc ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, drwy adailadu o honoch i chwi eich hun allor heb law allor yr Arglwyddein Duw.

20Oni wnaeth Pen.7.5.Achan mab Zerach, gamwedd, o herwydd y diofryd-beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynnulleidfa Israel? ac efe vn gŵr, nid efe a fu farw am ei anwiredd ef.

21Yna meibion Ruben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasses a attebasant, ac a lefarasant wrth bennaethiaid miloedd Israel.

22Arglwydd Dduw y duwiau, Arglwydd Dduw y duwiau efe fydd yn gwybod, ac Israel yntef a gaiff wybod: os yn erbyn yr Arglwydd drwy anufydd-dod, na thrwy anghywirdeb: na waredet efe ni y dydd hwn.

23Od adailadasom i ni allor i ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd: neu os offrymmasom arni boeth offrwm, a bwyd offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd, efe’r Arglwydd ai hymofyn.

24Ac onid rhac ofn y peth y gwnaethom hynn gan ddywedyd: ryw amser eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninneu gan ddywedyd, beth i chwi ag Arglwydd Dduw Israel?

25Canys yr Arglwydd o roddodd derfyn rhyngom ni a chwi meibion Ruben, a meibion Gad, sef yr Iorddonen, nid i chwi rann yn yr Arglwydd: felly y gwnae eich meibion chwi i’n meibion ni beidio ag ofni’r Arglwydd.

26Am hynny y dywedasom, gan adailadu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boeth offrwm, nac i aberth.

27Eithr bydded Genes.31.48.|GEN 31:48 Ios.24.27.yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, a’n poeth offrymmau a’n hebyrth, ac a’n hoffrymmau hedd: fel na ddywedo eich meibion chwi ryw amser wrth ein meibion ni, nid i chwi ran yn yr Arglwydd.

28Am hynny y dywedasom, pan ddywedant hwy wrthym ni, neu wrth ein heppil ryw amser: yna y dywedwn ninneu, gwelwch lun allor yr Arglwydd yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boeth offrwm, nac i aberth, ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.

29Na atto Duw i ni anufyddhau’r Arglwydd, a dychwelyd heddyw oddi ar ôl yr Arglwydd gan adailadu allor i boeth offrwm, i fwyd offrwm, neu i aberth, heb law allor yr Arglwydd ein Duw yr hon ger bron ei bresswylfod ef.

30Pan glybu Phinees mab Eleazar yr offeiriad, a thywysogion y gynnulleidfa, a phennaethiaid miloedd Israel y rhai gyd ag ef y geiriau y rhai a lefarase meibion Ruben, a meibion Gad, a meibion Manasses: yna da oedd yn eu golwg hwynt.

31A Phinees mab Eleazar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Ruben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasses, heddyw y gwybuom fod yr Arglwydd yn ein plith ni, o herwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr Arglwydd: yna y gwaredasoch feibion Israel o law’r Arglwydd.

32Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleazar yr offeiriad, a’r tywysogion oddi wrth feibion Ruben, ac oddi wrth feibion Gad o wlâd Gilead, i wlâd Canaan at feibion Israel: a dugasant trachefn air iddynt.

33A da oedd y peth yng-olwg meibion Israel, a meibion Israel a fendithiasant Dduw: ac ni ddywedasant am fyned i fynu yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlâd yr hon yr oedd meibion Ruben, a meibion Gad yn presswylio ynddi.

34Yna meibion Ruben, a meibion Gad a alwasant yr allor canys tyst hi rhyngom ni, mai’r Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help