Doethineb 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.1 Maint trugaredd Duw. 44 A phuredd ei weuthredoedd ef. 19 Yr ennyd y mae Duw yn ei rhoddi i bechaduriaid i edifarhau.

1Y Mae dy yspryd anllwgredic di ym mhob peth.

2Am hynny yr ydwyt ti yn ceryddu ychydig ar y rhai a syrthiant, ac yn eu rhybuddio trwy alw iw cof hwynt y pethau y pechasant hwy ynddynt, fel yr ymadawent hwy â drygioni. ac y credent ynot ti.

3Eithr Deut.8.3. & 12.31. & 18.12.câs oedd gennit ti hên bresswyl­wŷr y tir sanctaidd,

4Am iddynt hwy wneuthur câs weithredoedd, swynion, ac aberthau halogedic,

5Anrhugarog leiddiaid plant oeddynt: a bwytawŷr perfedd cnawd dynion, a thywallt­wŷr gwaed oeddynt mewn gwleddau ffiaidd, ac offeiriaid ambwyllus oedd ganddynt.

6A’r tadau oeddynt lofruddiaid pennaf eneidiau y rhai digymmorth, y rhai a fynnit ti eu difetha drwy ddwylo ein tadau.

7Fel y galle y wlâd yr hon sydd guaf gennit ti gael plant Duw iw chyfaneddu yn a­ddas.

8Eithr Exod.23.2. Deut.2.22.ti a arbedaist y rhai hyn megis dynion, ac a anfonaist gaccwn o flaen dy lu iw gorescyn hwynt bob ychydig.

9Nid o herwydd na’s gallesit ti ddarostwng yr anuwiol i’r rhai cyfiawn trwy ryfel, neu eu difetha hwynt ar vnwaith trwy fwyst-filod creulon neu air caled:

10Eithr gan farnu o fesur ychydig ac ychydig ti a roddaist le i edifeirwch, pā nad oedd anhyspys i ti fod eu cenhedlaeth hwynt yn ddrygionus, ai drygioni yn gynhwynol, ac na newidie eu meddwl hwynt byth.

11Canys hiliogaeth felldigedic oeddent hwy: ond ni rhoddaist ti ddiogelwch am y pethau a bechent hwy er ofn neb.

12O blegit pwy a ddywed, Rhuf.9.20.Beth a wnae­thost ti: neu pwy a wrthwyneba dy farn di: pwy a gwyna rhagot ti am y cenhedloedd a ddifethwyd y rhai a wnaethost ti: neu pwy a ddaw i sefyll i’th erbyn i ddial tros ddyniō anghyfiawn:

13Nid oes Duw ond tydi 1.Pet.5.7.yn gofalu am bob peth, i ddangos nad wyt yn barnu yn ang­hyfiawn.

14Nid oes na brenin na theyrn a ddichō ruthu llygaid arnat ti, am y rhai a gystuddiaist ti.

15Am dy fod ti yn gyfiawn, yr ydwyt ti yn trefnu pob peth yn gyfiawn Iob. 10.2.3.gan gyfrif yn beth amherthynol i’th allu di roddi barn yn erbyn yr hwn ni ddyle ei gospi.

16Oblegit dechreuad cyfiawnder yw dy nerth di: a’th fôd ti yn Arglwydd ar bob peth, sydd yn peri it arbed pob peth.

17Pan ni chredir dy fod ti yn dangos nerth yn ôl perffeithrwydd dy allu, yr ydwyt ti yn ceryddu hyder y rhai cyfarwydd.

18Yn gyfiawn yr ydwyt ti yn barnu ô Arglwydd nerth, a thrwy lawer o arbed yr ydwyt ti yn ein llywodraethu ni: o blegit y mae gennit ti allu pan fynnech.

19A thi a ddyscaist dy bobl wrth y cyfryw weithredoedd fôd yn rhaid i’r cyfiawn fôd yn gu ganddo ddŷn, a thi a wnaethost dy blant yn dda eu gobaith: o herwydd i ti roddi edifeirwch am bechodau.

20Os mor ystyriol y chstuddiaist ti elynion dy weisiō y rhai a ddylent farwolaeth gan roddi amser a modd i newidio oddi wrth ddrygioni,

21A pha ofal y bernaist ti dy blant dy hun, i rieni pa rai y rhoddaist di lwon, ac ammodau am addewidion da:

22Am hynny lle yr ydwyt ti yn ein cospi ni yr ydwyt ti yn ffrewyllu ein gelynion ni yn ddêng-mil mwy, fel pan farnom ni, y gallom ni feddwl am dy ddaioni di, a phan ein barner ddis­gwil am drugaredd.

23Am yr hwn beth y roddaist ti ddialedd ar y rhai a fuāt fyw ’n anghyfiawn mewn buchedd angall, trwy eu ffiaidd weithredoedd eu hun.

24Ac Pen.11.13.16.|WIS 11:13,16 Rhuf.1.23.hwy a gyfeiliornâsant yn ffordd cyfeiliorni ym mhellach, gan gymeryd y rhai oeddynt amharchus o anifeiliaid eu gelynion yn lle duwiau wedi eu twyllo fel plant angall.

25Am hynny yr anfonaist ti dy farnedigaeth yn watwargedd iddynt hwy megis i blant direswm.

26Y rhai ni chymerant rybydd trwy y gwatwarus gerydd a gânt brofi addas farnedigaeth Duw.

27O blegit y rhai yr oeddynt hwy yn grw­gnach wrth ddioddef trostynt, sef y rhai a dybia­sent hwy eu bod yn dduwiau, pan welsant hwy eu cospi â’r rhai hynny, hwy a gydnabasant mae gwir Dduw oedd yr hwn a wadasent hwy eu bod yn ei adnabod, am hynny y daeth dygyn golledigaeth arnynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help