1 Arglwydd clyw fyng-weddi, a deled fy llêf attat.
2Na chudd dy wyneb oddi wrthif, yn nydd fyng-hyfyngder gostwng dy glust attaf: yn y dydd y galwyf, bryssia, gwrando fi.
3Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mŵg: a’m hescyrn a boethasant fel pentewyn.
4Fyng-halon a darawyd: ac a wywodd fel llyssïeun: fel yr anghofiais fwytta fy mara.
5Gan lais fy nhuchan y glŷnodd fy escyrn wrth fyng-nhawd.
6Tebyg wyf i belican anialwch ydwyf fel dylluan diffaethwch.
7Gwiliais, ac ydwyf: fel aderyn y tô vnic ar benn y tŷ.
8Fyng-elynnion a’m gwarthruddasant beunydd: y rhai a ynfydant wrthif a dyngasant yn fy erbyn.
9Canys bwytteais ludw fel bâra: a chymmyscais fy niod ag wylofain,
10[A hynny] gan dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi, a theflaist fi i lawr.
11Fy nyddiau fel cyscod wedi cilio, a minne fel glaswelltyn a wywais.
12Tithe Arglwydd a barhei yn dragywyddol: a’th gofradwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
13Ti a gyfodi, a drugarhei wrth Sion: canys madws trugarhau wrthi, o herwydd dyfod yr amser nodedic.
14O blegit y mae dy weision yn hoffi ei meini hi: ac yn tosturio wrth ei llŵch hi.
15A’r cenhedloedd a ofnant enw’r Arglwydd: a holl frenhinoedd y ddaiar dy ogonoiant,
16Pan adeilado yr Arglwydd Sion, a phan weler efe yn ei ogoniant.
17Edrychodd ar weddi y gwael: ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
18Hyn a scrifennir i’r genhedlaeth nessaf, a’r bobl a ênir a foliannant yr Arglwydd.
19Canys edrychodd o vchelder ei gyssegr: yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd,
20I wrando vchenaid y carcharorion: ac i ryddhau plant angeu.
21Fel y mynegent enw’r Arglwydd yn Sion, ai foliant ef yn Ierusalem,
22Pan gesclid y bobl yng-hyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu’r Arglwydd.
23Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nyddiau.
24Dywedais, fy Nuw na chyfot fi ymmaith yng-hanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di yn oes oesoedd,
25Yn y dechreuad y seiliaist y ddaiar, a’r nefoedd waith dy ddwylo,
26Hwynt a ddarfyddant a thi a barhei: îe hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn: fel gwisc y newidi hwynt, ac y newidiant.
27Tithe’r vn a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.
28Plant dy weision a bresswyliasant, ai hâd a gadarnheiur ger dy fron di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
