Psalmau 32 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xxxij.Beati quorum.Psalm Dafydd er athrawiaeth.

1 Gwyn ei fyd y maddeuwyd ei drossedd: y cuddiwyd bechod.

2Gwyn ei fyd y dŷn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd: ac ni dichell yn ei yspryd.

3Tra y tewais, heneiddiodd fy escyrn gan fy rhuad bob dydd.

4Canys trwmhâodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a droiwyd yn sychter haf.Selah.

5Cydnabyddaf fy mhechod a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, cyffessaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd, a thi a faddeuaist boen fy mhechod.Selah.

6Am hynny y gweddia pob duwiol arnat ti yn yr amser i’th geffir: eithr yn llifeiriant dyfroedd mawrion ni chânt nessau atto ef.

7Ti loches i mi: cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniâdau ymwared.Selah.

8Cyfarwyddaf di, a dyscaf di yn y ffordd yr elech: a’m llygad arnat gynghoraf.

9Na fyddwch fel march fûl heb ddeall attal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddinesau attat.

10Gofidiau lawer i’r annuwiol, a’r neb a ymddyriedo yn yr Arglwydd trugaredd ai cylchŷna ef.

11Y rhai cyfiawn byddwch lawen, a hyfryd yn yr Arglwydd: a’r rhai iniawn o galon oll, clodforwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help