Deuteronomium 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Araith yr offeiriaid a’r swyddogion wrth y bobl pan elent i ryfel. 10 Bod yn rhaid cynnig heddwch yn gyntaf i bawb ond i bobl Canaan. 19 Gwahardd torri mewn rhyfel goed ffrwythlon.

1Pan elech i ryfel yn erbyn dy elynnion, a gweled meirch, a cherbydau, phobl fwy na thi, nac ofna rhacddynt: o herwydd yr Arglwydd dy Dduw gyd a thi, yr hwn a’th ddûg di i fynu o dir yr Aipht.

2A bydded, pan nessaoch i’r rhyfel: yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,

3A dyweded wrthynt, clyw Israel, yr ydych chwi yn nessau heddyw i’r rhyfel yn erbyn eich gelynnion: na Deut.28.7.feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhacddynt.

4Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyd a chwi i ryfela a’ch gelynnion trosoch chwi: i’ch achub.

5Yna y llywawdwŷr a lefarant wrth y bobl gan ddywedyd, pa ŵr yr hwn a adailadodd dŷ newydd, ac nis cyssegrodd ef, eled a dychweled iw dŷ rhac i farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei gyssegru ef.

6A pha ŵr yr hwn a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi, eled a dychweled iw dŷ rhac ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei mwynhau.

7A pha ŵr bynnac a* ymgredodd a gwraig, ac ni phriododd hi, eled, a dychweled iw dŷ rhac ei farw mewn rhyfel, ac i wr arall ei phriodi.

8Y llywawdwŷr hefyd a chwanegant lafaru wrth y bobl, ac ddywedant: Barn.7.3.Pa ŵr bynnac ofnus, a meddal galon, eled a dychweled iw dŷ fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntef.

9A bydded pan ddarffo i’r llywawdwyr lefaru wrth y bôbl: yna osod o honynt dywysogion y lluoedd, yn ben ar y bobl.

10Pan nessaech di at ddinas i ryfela yn ei herbyn, Num.21.22. Deut.2.26.yna galw arni am heddwch.

11A bydded os heddwch a ettyb hi i ti, ac agorydit: yna bydded i’r holl bobl y rhai a geffir ynddi fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu.

12Ac oni heddycha hi a thi, ond gwneuthur rhyfel a thi: yna gwarche di arni hi.

13Pan roddo’r Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di: yna taro ei holl wrwyaid a mîn y cleddyf.

14Yn vnic y benwyaid, a’r plant, Ios 8.2.a’r anifeiliaid, a phob aim a’r a fyddo yn y ddinas ei holl yspail a yspeili i ti: a thi a fwynhei yspail dy elynnion, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

15Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthit: y rhai nid o ddinasoedd y cenhedloedd hynn.

16Ond o ddinasoedd y bobloedd hynn y rhai y mae’r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it yn etifeddiaeth na chadw vn enaid yn fyw:

17Ond gan ddifrodi difroda hwynt yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Pheriziaid, yr Hesiaid, a’r Iebusiaid, megis y gorchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

18Fel na ddyscant i chwi wneuthur ar ôl eu holl ffiaidd-dra hwynt y rhai a wnaethant iw duwiau hwynt, a phechu o honoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw:

19Pan warchaech di ar dref lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn hi iw hennill, na ddifetha ei choed gan daro bwyall arnynt hwy canys o honynt y bwyttei, na thorr dithe hwynt i fyned o’th flaen mewn gwarch-glawdd, o herwydd dyn pren y maes.

20Er hynny y pren yr hwn a ŵyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri, ac a adailedi warch-glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon sydd yn gwneuthur rhyfel a thi, hyd oni ddarostyngech hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help