1A Dywedodd Dafydd, hwn yw tŷ’r Arglwydd Dduw: ac dymma allor poeth offrwm Israel.
2Dywedodd Dafydd hefyd am gasclu y dieithriaid y rhai yn nhir Israel: ac efe a osododd seiri meini i naddu cerric nadd i adailadu tŷ Dduw.
3A pharatoawdd Dafydd haiarn yn aml tuag at hoelion dryssau y pyrth, ac i’r cyssylltiadau: a phrês cyn amled nad bwys.
4Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid, a’r Tyriaid a ddugasent cedrwŷdd yn aml i Ddafydd.
5Yna y dywedodd Dafydd: Salomon fy mab ieuangc, a thŷner, a thŷ ei adailadu i’r Arglwydd, mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn anrhydedd drwy’r holl dir: paratoaf yn awr, tu ag atto ef: felly y paratôdd Dafydd yn helaeth o flaen ei farwolaeth.
6Ac efe a alwodd ar Salomon ei fab, ac a orchymynnodd iddo adailadu tŷ i Arglwydd Dduw Israel.
7Dywedodd 2.Sam.7.13.Dafydd hefyd wrth Salomon ei fab: yr oedd yn fy mryd i adailadu tŷ i enw’r Arglwydd fy Nuw:
8Eithr gair yr Arglwydd a ddaeth attafi gan ddywedyd: 1.Cron.28.3.gwaed yn aml a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti, nid adailedi di dŷ i’m henw i: canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaiar yn fyng-ŵydd i.
9Wele mab a anwyd i ti, efe a fydd ŵr llonydd, ac mi a roddaf lonyddwch iddo ef, gan ei holl elynnion o amgylch: canys Salomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangneddyf a roddaf yn Israel yn ei ddyddiau ef.
10Efe a adailada dŷ i’m henw mau fy, 2.Sam.7.13. 1.Bren.5.5.ac efe a fydd i mi yn fab, a minne yn dâd iddo yntef: cadarnhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth.
11Weithian fy mab yr Arglwydd fydd gyd a thi, ti hefyd a ffynni, ac a adailedi dŷ i’r Arglwydd dy Dduw, megis ac y llefarodd efe am danat ti.
12Yn vnic rhodded yr Arglwydd i ti synnwyr, a deall, pan roddo it orchymynnion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr Arglwydd dy Dduw.
13Yna y ffynni, os cedwi ar wneuthur y deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai a orchymynnodd yr Arglwydd i Moses am Israel: ymgryfhâ, ac ymegnia, nac ofna, ac na arswyda.
14Ac wele yn ôl fy nhlodi y paratoais i dŷ’r Arglwydd gan-mîl o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian, ar brês hefyd, ac ar haiarn nid bwys, canys y mae yn aml: y coed hefyd, a’r meini a baratoais i, chwanega dithe hefyd arnynt hwy.
15Hefyd yn aml gyd a thi weithwyr gwaith cymyn-wŷr, a seiri maen, a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith.
16Ar aur, ar arian, ar brês, ac ar haiarn nid rifedi: cyfot, a gweithia, a’r Arglwydd a fydd gyd a thi.
17Yna y gorchymynnod Dafydd i holl dywysogion Israel gynnorthwyo Salomon ei fab
18O nid’r Arglwydd eich Duw gyd a chwi? ac efe a ddyru lonyddwch i chwi oddi amgylch: canys rhoddes efe yn fy llaw i drigolion y ddaiar, a’r ddaiar a ddarostyngwyd o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei bobl ef.
19Yn awr rhoddwch eich calon, a’ch meddwl i geisio yr Arglwydd eich Duw: cyfodwch hefyd, ac adailedwch gyssegr yr Arglwydd Dduw, i ddwyn i mewn Arch cyfammod yr Arglwydd, a sanctaidd lestri Duw i’r tŷ yr hwn a adailedir i enw’r Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.