1Yna y canodd Debora, a Barac mab Abinoam y diwrnod hunnw gan ddywedyd:
2Am ddial dialeddau ar Israel, am ymgymmell o’r bobl: bendithiwch yr Arglwydd.
3Clywch o frenhinoedd, gwrandewch o dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r Arglwydd, canmolaf Arglwydd Dduw Israel.
4Oh Arglwydd pan aethost allan Deut.4.11.o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaiar a grynnodd, y nefoedd hefyd a ddiferasant: a’r cwmylau a ddefnynnasant ddwfr.
5Y Psal.97.3. exod.19.16.mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd: megis Sinai hwnnw o flaen Arglwydd Dduw Israel.
6Yn nyddiau Pen.3.31.|JDG 3:31. pen.4.18.Samgar mab Anath, yn nyddiau Iael y llwybrau a beidiasant: a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion.
7Trefi a darfuant yn Israel: darfuant nes i mi Debora gyfodi, nes i mi gyfodi yn fam yn Israel,
8[Israel] a ddewisodd dduwiau newyddion, yna rhyfel yn y pyrth: a welpwyd tarian, na gwaiw-ffon ym mysc deugain mîl yn Israel?
9Fyng-halon tu ag at ddeddf-wŷr Israel, y rhai ewyllyscar ym mhlith y bobl: bendithiwch yr Arglwydd.
10Y rhai sy yn marchogeth ar assynnod gwynnnion, y rhai sy yn aros ym Midin, a’r rhai sy yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch.
11Canys trwst y saethyddion ym mysc y rhai a dynnent ddwfr yno’r adroddant gyfiawnderau’r Arglwydd, cyfiawnderau y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arglwydd a aethant i wared i’r porth.
12Deffro, deffro Debora, deffro, deffro traetha gân: cyfot Barac, a chaethgluda dy gaethglud ô fab Abinoam.
13Yna’r hwn a adewir a lywodraetha ar bendefigion y bobl: yr Arglwydd a rydd lywodraeth ar gedyrn i mi.
14O Ephraim eu gwreiddin hwynt yn erbyn Amalec, ar dy ôl di Beniamin ym mysc dy bobl: y deddf-wŷr a ddaethant i wared o Machir, a scrifennyddion o Zabulon.
15A thywysogion Issachar gyd a Debora, îe Issachar, a Barac, a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn: am ddosparthiadau Ruben mawr ofal calon.
16Paham yr arhosaist rhwng y corlannau i wrando brefiadau y defaid? am ddosparthiadau Ruben yr oedd mawr ofal calon.
17Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, a pha ham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y mor, ac a arhosodd ar ei adwyau.
18Pobl Zabulon a roddes eu henioes i farw, felly Nephthali ar vchel-fannau y maes.
19Brenhinoedd a ddaethant, a ymladdasant, yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Thaanac wrth ddyfroedd Megido: ni ddygasant dernyn o arian.
20O’r nefoedd yr ymladdasant: y sêr oi graddau a ymladdasant yn erbyn Sisara.
21Afon Cison ai scubodd hwynt, yr hên afon afon Cison: fy enaid, ti a gerddaist yn lew.
22Yna y drylliodd carnau y meirch gan aml garlamman ei gryfion ef.
23Melldigwch Meroz medd angel yr Arglwydd, gan felldigo melldigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynnorthwy i’r Arglwydd, yn gynnorthwy i’r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.
24Bendithier Iael gwraig Heber y Cenead goruwch gwragedd bendithier goruwch gwrageddmewn pebyll.
25Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithe: mewn phiol ardderchog y dûg hi ymenyn.
26Ei llaw at yr hoel, ai llaw ddehau at forthwyl y gweithwŷr a ymestynnasant: a hi a ddrylliodd Sisara, ac a dorrodd ei benn ef, archollodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.
27Wrth ei thraed yr ymgrymmodd efe, syrthiodd a gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymmodd efe, syrthiodd lle’r ymgrymmodd, yno y syrthiodd yn anrhaithiedic.
28Mam Sisara a edrychodd drwy’r ffenestr, ac a waeddodd drwy’r dellt, pa ham yr oeda ei gerbyd heb dyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbyd?
29Ei harglwyddesau doethion ai hattebasant, hithe hefyd a adroddodd ei geiriau wrthi ei hun.
30Oni chawsant hwy, rannasant yr anrhaith? llangces ddwy i bob gŵr, anrhaith o symmud-liw (sydd] eiddo Sisara, anrhaith o wniadwaith symmudliw: symmudliw o wniadwaith o’r ddautu, i rannwr pennaf yr anrhaith.
31Felly y darfyddo am dy holl elynnion di ô Arglwydd, a’r rhai a’th hoffant di fel yr haul yn myned yn ei rym: a’r wiâd a gafodd lonydd ddeugain mhlynedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.