1Yna Zophar y Naamathiad a attebodd, ac a ddywedodd:
2Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi atteb: ac am y brys arnaf.
3Yr ydwyf yn clywed cerydd gwradwyddus gennif: ond y mae yspryd fy neall yn peri i mi atteb.
4A wyddost ti hyn erioed? er pan osododd ddŷn ar y ddaiar?
5Mai gorfoledd yr annuwolion dros ychydig a llawenydd y rhagrithwŷr dros funud awr.
6Pe cyrhaedde ei odidawgrwydd ef i’r nefoedd: a phe chyffyrdde ei benn ef a’r wybren,
7Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai ai gwelant ef a ddywedent, pa le y mae efe?
8Efe a eheda megis breuddwyd, fel nacheir ef: ac efe a ffŷ fel gweledigaeth y nos.
9Y llygad ai gwelodd ef ni chwanega ai lê ni chenfydd ef mwy.
10Ei feibion ef a fodlonant dlodion: ai ddwy-law ef a roddant adref ei olud ef.
11Ei escyrn ef sy’n llawn ei ieuengctid: a hwnnw a orwedd gyd ag ef yn y pridd.
12Os bydd drygioni yn felus yn ei enau ef: efe a gêla hwnnw dan ei dafod.
13Efe a arbed hwnnw, ac ni âd efe hwnnw: eithr efe a attal hwnnw o fewn taflod ei enau.
14Ei fwyd a drŷ yn ei emyscaroedd ef: bustl aspiaid oi fewn ef.
15Efe a lyngcodd gyfoeth, ond efe ai chwda: Duw ai tynn allan oi fol ef.
16Efe a sugna wenwyn aspiaid: tafod gwiber ai lladd ef.
17Ni chaiff efe edrych ar ffrydau, afonydd, aberoedd o fêl, ac ymenin.
18Y mae efe yn rhoddi llafur adref heb ei fwynhau: fel golud a gyfnewidie efe, ac heb gael llawenydd o honaw.
19Canys drylliodd, a gadawodd dlodion: sclyfaethodd dŷ, ac nid adailadodd efe hwnnw.
20O blegit nid adnabu efe heddychol oi fewn: ni ddiangc efe ai ddymuniad
21Ni gweddill oi fwyd ef: am hynny ni ddisgwilir am ei ddâ ef.
22Pan gyflawnir ei ddignoldeb ef, cyfyng arno: llaw pob blinderoc a ddaw yn ei erbyn ef.
23[Pan] fyddo efe ar lenwi ei fol, Duw a ddenfyn yn ei erbyn ef angerdd ei ddigofaint: ac ai glawia arno ef ym mysc ei fwyd ef.
24Efe a ffŷ oddi wrth arfau o haiarn: bŵa o ddûr ai trywana ef.
25Efe a dynn a a ddaw allan oi gorph ef, a gloiw-lafn allan oi fustl ef: y daw dychryn arno ef.
26Pob tywyllwch guddiedic yn ei ddirgeloedd ef, tân heb ei chwythu ai hyssa ef: yr hyn a weddillir yn ei luesty ef a ddrygir.
27Y nefoedd a ddatcuddiant ei anwiredd ef: a r ddaiar a gyfyd yn ei erbyn ef.
28Ffrwyth ei dŷ ef a symmud: hwy a redant i ffordd yn nydd ei ddigofaint ef.
29Dymma ran dŷn annuwiol gan Dduw: a’r etifeddiaeth efe gan Dduw am ei ymadrodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
