1Y mae drwg a welais tann haul, a hwnnw yn fawr ym mysc dynnion.
2Gŵr i’r hwn y rhoddo Duw gyfoeth a thryssorau, ac anrhydedd, heb arno eisieu dim a ddymune: a Duw heb roi gallu iddo iw mwymhau: ond gŵr estron ai mwynhâ, dymma wagedd a gofid blin.
3Os gŵr a ennill gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, er bod dyddiau ei flynyddoedd yn aml, os ei enaid ni ddiwellir a’r golud hwnnw, ac oni’s bydd iddo gladdedigaeth, mi a ddywedaf mai gwell yw yr erthyl.
4Canys mewn oferedd y daeth ac yn y tywyllwch yr rhodia, ei enw a guddir â thywyllwch.
5Ni welodd chwaith mo’r haul, ac ni’s adnabu, mwy o llonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.
6Pe bydde efe fyw ddwy-fil ô flynyddoedd, heb fwynhau byd da: onid i’r vn lle yr aiff pawb?
7Holl lafur dŷn sydd yn myned i’r safn, ac etto ni ddiwellir ei feddwl ef.
8Canys pa ragoriaeth sydd rhwng y doeth a’r annoeth? pa rhwng y cyfoethog a’r tlawd, tra fyddant yn rodio ym mysc y byw?
9Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid: hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder yspryd.
10Beth bynnac sydd, y mae henw arno: ac mae yn hyspys mai dŷn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson a’r neb sydd drechach nag ef.
11Lle y byddo llawer o bethau, hwy a amlhânt wagedd, beth sydd mwyach i ddyn?
12Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn ôll ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a bassia efe fel cyscod? pwy a ddengys i ddŷn y peth a ddigwydd iddo ar ôl hyn tann yr haul?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
