Doethineb 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Marwolaeth yr Aiphtiaid, a llawenydd yr Hebræaid. 18 Y modd y porthwyd yr Hebræaid â sofl-ieir. 17 Bôd pob peth megis yn gydtun yn gwasanaethu i wneuthur daioni i’r duwiol.

1Eithr digter didrugaredd a barhâodd hyd y diwedd i’r annuwolion.

2O blegit efe a ŵydde o’r blaen yr hyn a ddigwydde iddynt hwy: mai wedi iddynt adel iddynt fyned, ai gyrru hwynt yn daer: y bydde edifar ganddynt, ac yr erlidlent hwynt.

3Canys pan oeddynt hwy yn galaru, ac yn ŵylofain wrth feddau y meirw, hwy a ddychymmygasant feddwl ynfyd arall, a’r rhai a yrrasent hwy allan dan ymbil â hwynt y rhai hynny a erlidiasant hwy megis rhai yn ffoi.

4O blegit addas anghenrhaid ai harweiniodd hwynt i’r diwedd hwn, ac a wnaeth anghofio y pethau a ddigwydda­sent, fel y cyflawnent hwy mewn gofid y cystudd yr hwn oedd yn ôl.

5Fel y cae dy bobl trwy brawf adnabod ffordd ryfedd, at y caent hwythau farwolaeth ddieithr.

6O blegit pob creadur yn ei ryw ei hun a luniwyd trachefn o newydd i wasanaethu y gorchymynnion hyn yn nailltuol, sef, cadw dy blant di yn ddiniwed.

7Y cwmwl a gyscododd tros eu gwersyll hwynt, a lle y buase dwfr o’r blaen y gwelid llawr o dîr sych, îe yn y môr coch yr oedd ffordd ddirwystr, a maes yn dwyn gwellt glâs yn y ffrwd chwyrn:

8Trwy yr hon y daeth yr holl genedl y rhai a amddeffynnodd dy law di, gan weled gwrthiau rhyfedd.

9Fel meirch y porthesid hwynt, ac fel ŵyn y llamment hwy, gan dy foliannu di ô Arglwydd eu gwaredudd hwynt.

10O blegit hwy a gofiasant y pethau a ddigwyddase iddynt yn eu hymdaith, y modd yn lle eppiliaeth anifeiliaid y dygase y ddaiar allan ŵybed, ac y dygase yr afonydd allan lawer o lyffaint yn lle pyscod.

11Yn Exod.16.13. Num.11.31.ddiweddaf hwy a welsant eppiledd newydd o adar, pan ddygwyd hwynt trwy flŷs i ddymuno bwyd daintaethiol.

12O blegit Pen.16.2.sofl-ieir a ddaethant o’r môr yn ddiddanwch iddynt hwy: ac ar y pechaduriaid y daeth dialedd.

13Nid heb wneuthur gwrthieu o’r blaen trwy egni taranau: o herwydd yr oeddynt hwy yn heuddu dioddef am eu hanwiredd: o blegit yr oeddynt hwy yn dwyn dygyngâs i’r dieithraid, y rhai hynny ni dderbynient, y rhai presennol nid adwaenet hwy, a’r rhai hyn a gaethiwasant y dieithraid a wnaethent iddynt hwy ddaioni.

14Ac nid hynny yn vnic, y mae rhyw ragor rhyngthynt hwy: o blegit yn anfodlon-gar yr oeddynt hwy yn derbyn dieithraid.

15Eithr y rhai hyn wedi eu derbyn hwynt yn llawen a gystuddiasant â phoenau aruthrol, y rhai oeddynt gyfrannogion o’r vn gyfraith.

16A’r rhai hyn a darawyd â dallineb fel y rhai hynny Genes.19.11.wrth ddrws y cyfiawn pan geisiodd pob vn y ffordd iw ddrws ei hun, wedi eu hamgylchu hwynt â thywyllwch anferthol.

17O blegit yr elementau a newidiwyd o honynt eu hun yn gyfleus fel y newidia sain cynghanedd mewn psaltring yr henw er bod y swn yn aros bob amser, megis y gellir ystyried wrth edrych yn graff ar y pethau a wnaed.

18Pethau daiarol a droed yn bethau o’r dwfr, a phethau nofiadwy a aethant ar y ddaiar,

19Y tân oedd nerthol yn y dwfr wedi gollwng tros gôf ei rinwedd ei hun, a’r dwfr a anghofiase ei naturiaeth i ddiffoddi.

20Yn y gwrthwyneb ni wnaeth y fflam nac i gnawd yr anifeiliaid llygradwy y rhai a rodient arno, nac i’r hyn oedd o ymborth nefol (fel Exod.16.14. Num.11.7.iâ tawddadwy o rywogaeth, i doddi) ddarfod.

21Dy bobl a fawrygaist, ac a anrhydeddaist ti ym mhob dim ô Arglwydd: ac ni bu ffiaidd gennit fod gyd â hwynt bob amser, ac ym mhob lle.

Terfyn doethineb Salomon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help