Barn-wŷr 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.1 Iuda wrth orchymyn yr Arglwydd yn blaenori yn y rhyfel yn erbyn y Canaaneaid, ac efe ac Ioseph yn gorchfygu yn rymmus Adonibezec, ac eraill. Llwfrdra y llwythau eraill.

1Ac wedi marw Iosuah, meibion Israel a Exod 28.30.|EXO 28:30. Num.27.21. 1.Sam.28.6.ymgynghorasant a’r Arglwydd gan ddywedyd: pwy a aiff i fynu drosom ni yn erbyn y Canaaneaid, i ymladd a hwynt yn gyntaf?

2A dywedodd yr Arglwydd, Iuda a aiff i fynu: wele rhoddais y wlâd yn ei law ef.

3Ac Iuda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, tyret i fynu gyd a mi i’m rhan-dir, fel yr ymladdom yn erbyn y Cannaaneaid, minne hefyd a âf gyd a thi i’th ran-dîr dithe: felly Simeon a aeth gyd ag ef.

4Yna Iuda a aeth i fynu, a’r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid, a’r Phereziaid, yn eu llaw hwynt: a lladdasant o honynt yn Bezec ddeng-mil o wŷr.

5A hwynt a gawsant Adonibezec yn Bezec, ac a ymlladdasant yn ei erbyn, ac a laddasant y Canaaneaid, a’r Phereziaid.

6Ond Adonibezec a ffôdd, a hwynt a erlidiasant ar ei ôl ef: daliasant ef hefyd, a thorrasant fodiau ei ddwylaw ef, ai draed.

7Ac Adonibezec a ddywedodd, dêc a thrugain o frenhinoedd wedi torri bodiau eu dwylo, ai traed a fuant yn casclu dan fy mwrdd i, fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi: felly hwynt ai dugasant ef i Ierusalem, ac efe a fu farw yno.

8A meibion Iuda a ymladdasant yn erbyn Ierusalem, ac ai hennillasant hi, ac ai tarawsant a mîn y cleddyf: a lloscasant y ddinas a thân.

9Wedi hynny meibion Iuda a aethant i wared i ymladd yn erbyn y Canaaneaid: y rhai oeddynt yn trigo yn y mynydd, ac yn y dehau, ac yn y gwastadedd.

10Ac Iuda a aeth yn erbyn y Canaaneaid y rhai oeddynt yn trigo yn Hebron, (ac enw Hebron o’r blaen Iosua.15.17.Caer Arba: ) a hwynt a laddasant Num.13.22.Sesai, ac Ahiman, a Thalmai.

11Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Dabir: ac enw Dabir o’r blaen Ciriathsepher.

12A dywedodd Caleb, yr hwn a darawo Giriath-sepher, ac ai hennillo: mi a roddaf Achsah fy merch yn wraig iddo.

13Yna Othniel mab Cenaz, Iosua.15.17.brawd Caleb ieuangach nac ef ai hennillodd: yntef a roddes Achsah ei ferch yn wraig iddo.

14A phan ddaeth hi i mewn yna hi ai annogodd ef i geisio gan ei thâd faes, ac a ddescynnodd oddi ar yr assyn: a dywedodd Caleb wrthi, beth i ti?

15Yna hi a ddywedodd wrtho, dyro i mi rôdd, canys gwlâd y dehau a roddaist i mi, dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd: a Chaleb a roddodd iddi y ffynhonnau vchaf, a’r ffynhonnau isaf.

16A meibion Ceni chwegrwn Moses a aethant i fynu o ddinas y palm-wŷdd gyd a meibion Iuda i anialwch Iuda’r hwn yn nehau Arad: ac aethant, a thrigasant gyd a’r bobl.

17Ac Iuda a aeth gyd a Simeon ei frawd, ac a darawsant y Canaaneaid y rhai oeddynt yn presswylio Sephath: ac ai difrodasant hi, ac efe a alwodd enw’r ddinas Num.21.3.Hormah.

18Felly Iuda a ennillodd Azzah, ai therfynau, ac Ascalon at therfynau, ac Ecron ai therfynau.

19A’r Arglwydd oedd gyd ag Iuda, ac efe a orescynnodd y mynydd: ond ni orescyn trigoliō y dyffryn, canys cerbydau heirn ganddynt.

20Ac i Caleb y rhoesant Hebron, fel y Num.14.24. iosua.14.13.|JOS 14:13 & 5.15.llefarase Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.

21Ond meibion Beniamin ni orescynnasant y Iebusiaid y rhai oeddynt yn presswylio Ierusalem: am hynny y trigodd y Iebusiaid yn Ierusalem hyd y dydd hwn.

22A hwythau hefyd o dŷ Ioseph a aethant i fynu i Bethel: a’r Arglwydd gyd a hwynt.

23A thŷ-lwyth Ioseph a barasant chwilio Bethel: ac enw y ddinas o’r blaen Gene.28.19.Luz.

24A’r gwilwŷr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas: ac a ddywedasant wrtho, dangos i ni attolwg y fford yr elir i’r ddinas, ac ni a wnawn drugaredd a thi.

25Pan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas, yna hwy a darawsant y ddinas a mîn y cleddyf: ac a ollyngasant yn rhydd y gŵr, ai holl deulu.

26A’r gŵr a aeth i wlâd yr Hethiaid: ac a adailadodd ddinas, ac a alwodd ei henw Luz, dymma ei henw hi hyd y dydd hwn.

27Ond Iosu.17.11.ni orescynnodd Manasses Bethsean, nai threfydd, na Thaanah nai threfydd, na thrigolion Dor, nai threfydd, na thrigolion Ibleam, nai threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid bresswylio yn y wlâd honno.

28Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid yn drethawg: eithr gan orescyn nis gorescynnodd hwynt.

29 Iosu.16.10. Ephraim hefyd ni orescynnodd y Canaaneaid y rhai oeddynt yn gwladychu Gezer: eithr y Canaaneaid a bresswyliasant yn eu mysc hwynt yn Gezer.

30Zabulon ni orescynnodd drigolion Citron, na phresswylwŷr Nahalol: eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysc hwynt, ac a fuant drethawg.

31Aser ni orescynnodd drigolion Acco, na thrigolion Sidon: nac Ahalab, nac Aczib, na Helbah, nac Aphic, na Rehob.

32Ond Aser a drigodd ym mysc y Canaaneaid trigolion y wlâd: canys ni orescynnodd efe hwynt.

33Nephthali ni orescynnodd bresswylwŷr Beth-semes na thrigolion Beth-anath, eithr efe a wladychodd ym mysc y Canaaneaid trigolion y wlâd: er hynny presswyl-wŷr Beth-semes, a Beth-anath a oeddynt tann drêth iddynt.

34A’r Amoriaid a ymlidiasant feibion Dan i’r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i wared i’r dyffryn.

35A dechreuodd yr Amoriaid bresswylio ym mynydd Heres, yn Aialon, ac yn Saalbim: a llaw tŷ Ioseph a orthrechodd, a’r fuant tann drêth

36A therfyn yr Amoriaid o riw Acrabim: o’r graig, ac vchod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help