1Hon a gadwodd yr hwn a luniwyd yn gyntaf i fôd yn dâd i’r bŷd pan grewyd ef yn vnic.
2Ac hi ai gwaredodd ef di fai, ac Gen.2.20.a roddes iddo ef nerth i lywodraethu pob peth.
3A Gen.4.8.phan ymadawodd yr anghyfiawn â hi yn ei ddigter, efe a fethodd trwy lid i ladd ei frawd.
4Er mwyn Gen7.21.yr hwn y boddwyd y ddaiar eithr doethineb trachefn ai cadwodd hi gan lywodraethu y cyfiawn ag ychydig bren.
5Hi hefyd yng-hydundeb drygioni y cenhedloedd cymyscadwy a adnabu y cyfiawn, Gen.11.1.|GEN 11:1. Gen.12.1.ac ai cadwodd ef yn ddifai ger bron Duw, ie yn ei fawr gariad iw fab, hi ai cadwodd ef yn gryf.
6Hi a waredodd y cyfiawn oddi wrth yr annuwiol colledit, Gen.19.16.pan ffôdd efe rhag y tân a ddescynnod ar y pump dinas.
7Am yr hwn ddrygioni y mae y diffaethdir myglyd a’r planwydd y rhai ydynt yn ffrwytho mewn prŷd amherffaith yn destiolaeth, felly y mae y golofn halen yn sefyll yn goffadwriaeth am yr enaid anghredadwy.
8O blegit y rhai a ddiystyrasant ddoethineb ni chawsant yn vnic y niwed hyn, sef bôd heb wybod pethau da: eithr hwy a adawsant goffadwriaeth i’r bŷd oi ffolineb, ac ni allant lechu yn y pethau a wnaethant yn amryfus.
9Eithr y rhai ai parchent hi a waredodd doethineb o boen.
10Mewn llwybrau iniawn yr arweiniodd hi y cyfiawn Gen.28.5.yr hwn oedd yn ffoi rhag digofaint ei frawd, hi a ddangosodd iddo ef deyrnas Dduw, ac a roddes iddo ef wybodaeth am bethau sanctaidd, hi a gyfoethogodd ei lafur ef, ac a gynnyddodd ei boen ef.
11Yr oedd hi yn bresennol pan oedd y rhai oeddynt drech nag ef mor gybydd, ac hi ai cyfoethogodd ef.
12Hi ai cadwodd ef rhag ei elynnion, ac ai diofalodd ef oddi wrth ei gynllwyn-wŷr, ac mewn ymdrech cryf hi a roddes y maes iddo ef fel y galle efe ŵybod fod duwioldeb yn gryfach nâ dim.
13Ni adawodd hi y cyfiawn Gen.37.28|GEN 37:28 & 39.7.|GEN 39:7. Act.7.10.yr hwn a werthwyd, eithr hi ai achubodd ef rhag pechod, ac a aeth i wared gyd ag ef i’r carchar.
14Ie ni adawodd hi ef yn ei rwymau hyd oni ddygodd hi iddo ef deyrn-wialen brenhiniaeth, a llywodraeth ar ei orthrym-wŷr, hi a ddangosodd fôd y rhai oeddynt yn beio arno ef yn gelwyddoc, ac a roddes iddo ef ogoniant tragywyddol.
15Hon Exod.1.10|EXO 1:10 & 12.42.a waredodd y bobl sanctaidd, a’r hâd difai oddi wrth y genhedlaeth orthrymmus.
16Hi a aeth i mewn i was yr Arglwydd, ac a safodd yn erbyn brenhinoedd aruthr Exod.5.1.gan rhyfeddodau a gwrthiau.
17Hi a roddes i’r rhai cyfiawn wobr sancteiddrwydd eu llafur, hi ai harweiniodd hwynt mewn ffordd ryfedd, ac oedd yn orchudd iddynt hwy y dydd, ac yn fflam o sêr y nos.
18Hi Exo.14.21,22.|EXO 14:21,22 Psal.78.13.ai dug hwynt trwy ’r môr coch, ac ai harweiniodd hwynt trwy ddwfr mawr.
19Ac hi a foddodd eu gelynion hwynt, ac ai dug hwynt o waelod y dyfnder.
20Am hynny y rhai cyfiawn a yspeiliasant y rhai annuwiol, ac a ddadcanasant dy enw sanctaidd di (ô Arglwydd) ac a glôdforasant o vnfrŷd dy law orchfygus di.
21O blegit doethineb a agorodd enau y rhai mudion, ac a osododd dafodau plant bychain yn ymmadroddus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.