1Y Gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd trwy law Ieremi y prophwyd am Babilon am wlâd y Caldeaid.
2Mynegwch ym mysc y cenhedloedd, a chyhoeddwch chwi, a chodwch arwydd, cyhoeddwch, na chelwch, dywedwch, gorescynnwyd Babilon, gwradwyddwyd Bel, drylliwyd Merodach, ei heulynnod a gywilyddiwyd ai delwau a ddrylliwyd.
3Canys o’r gogledd y daw cenhedlaeth yn ei herbyn hi yr hon a esid ei gwlâd hi yn anghyfannedd, fel na byddo presswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymmaith.
4Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw medd yr Arglwydd, Iere.31.9.meibion Israel a ddeuant, hwynt a meibion Iuda yng-hyd, dann gerdded ac ŵylo yr ânt, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw.
5Hwynt a ofynnant y ffordd i Sion, tu ag yno eu hwynebau hwynt: deuwch a glynwch chwi wrth yr Arglwydd gyfammod tragywyddol, nid anghofiir.
6Fy mhobl a fuant praidd colledic, eu bugeiliaid ai gyrrasant hwynt ar gyfeiliorn, i’r mynyddoedd y trosasant hwynt, o’r mynydd yr aethant i’r brynn, yr anghofiasant eu gorweddfa.
7Pawb a’r ai cawsant hwynt ai difasant, ai gelynnion a ddywedasant, ni wnaethom ni ar fai, canys hwynt a bechâsant yn erbyn yr Arglwydd, drigle cyfiawnder, sef Arglwydd gobaith eu tadau.
8Ciliwch chwi o ganol Babilon, ac ewch allan o wlâd y Caldeaid: a byddwch chwi fel hyrddod o flaen y praidd.
9O herwydd wele myfi a ddeffroaf, ac a ddygaf i fynu yn erbyn Babilon gynnulleidfa y cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: hwynt a ymdaclant yn ei herbyn, oddi yno y gorrescynnir hi, eu saethau fel cadarn cyfarwydd ni ddychwelant yn ofer.
10A Chaldea fydd yn yspail, pawb a’r ai yspeiliant hi a ddigonir medd yr Arglwydd.
11Er i chwi fod yn llawen, ac yn hyfryd wrth sathru fy etifeddiaeth, er i chwi frashâu fel llô glas-wellt, a beichio fel teirw,
12Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a’r hon a’ch ymddug a wradwyddir: wele yr eithaf o’r cenhedloedd yn anialwch cras-le, ac yn rhosdir.
13O herwydd digofaint yr Arglwydd ni’s presswylir hi, eithr hi a fydd ei gyd yn anghyfannedd: pawb a’r a elo heibio i Babilon a synna, ac a ryfedda am ei holl ddialeddau hi.
14Ymdeclwch yn erbyn Babilō o amgylch, holl berchen bwâu saethwch atti, nac arbedwch y saethau, o blegit hi a bechodd yn erbyn yr Arglwydd.
15Bloeddiwch chwi arni hi o amgylch, hi a ymrydd, ei sylfeini hi a syrthiant, ei muroedd a ddinistrir, o herwydd dial yr Arglwydd hynn: dielwch chwi arni, fel y gwnaeth hi gwnewch iddi.
16Torrwch chwi ymmaith yr hau-wr oddi wrth Babilon, a’r hwn a ddalio grymman ar amser cynhaiaf: rhag cleddyf y gorthrym-wr y troant bob vn at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob vn iw wlâd.
17Praidd ar gyfrgoll Israel, llewod ai gwascarasant brenin Assyria yn gyntaf ai hyssodd hwynt, a’r Nabuchodonosor ymma brenin Babilon yn olaf ai diescyrnodd hwynt.
18Am hynny fel hynn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel: wele myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac ai wlâd ef, fel yr ymwelais â brenin Assyria.
19Ac mi a ddychwelaf Israel iw drigfa, ac efe a bawr Carmel, a Basan, ac ar fynydd Ephraim a Gilead y digonir ei enaid ef.
20Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw medd yr Arglwydd y ceisir anwiredd Israel, ac ni’s ef, a phechodau Iuda ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r hwn a weddillwyf.
21Dos di i fynu yn erbyn gwlad y gwrthryfel-wŷr, yn ei herbyn hi, Ezec.3.23.ac ymwel di ai thrigolion: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt medd yr Arglwydd, a gwna di yn ôl yr hynn oll a orchymynnais i ti.
22Trwst rhyfel yn y wlad: a dinistr mawr.
23Pa fodd y drylliwyd, ac y torrwyd gordd yr holl dîr? pa fodd yr aeth Babilon yn ddiffaethwch ym mysc y cenhedloedd?
24Myfi a osodais fagl i ti, a thithe Babilon a ddaliwyd, ac heb ŵybod o honot, ti a gafwyd, ac a ddaliwyd, o herwydd yn erbyn yr Arglwydd yr ymrysonaist.
25Yr Arglwydd a agorodd ei dryssor, ac a ddug allan arfau ei ddigofamt: canys gwaith Arglwydd Dduw y lluoedd hynn yngwlâd y Caldeaid.
26Deuwch chwi yn ei herbyn o’r cwrr eithaf, agorwch ei yscuborau hi, dyrnwch hi fel dâs a dinistriwch hi, na fydded gweddill iddi.
27Lleddwch ei holl gedyrn hi, descynnant hwy i’r lladdfa, gwae hwynt, canys eu dydd hwynt a ddaeth amser eu hymwelediad.
28Llef y rhai a ffoant, ac a ddiangant o wlâd Babilon i ddangos yn Sion ddial yr Arglwydd ein Duw ni, dial ei Deml ef.
29Gelwch chwi laweroedd yn erbyn Babilon, y perchen bwâu oll gwerssyllwch chwi wrthi hi o amgylch, na chaffed neb ddiangc o honi, Gwel.18.6.telwch iddi hi yn ôl ei gweithredoedd, ac yn ôl yr hynn oll a’r a wnaeth hi gwnewch iddi: o herwydd hi a falchiodd yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn Sanct Israel.
30Am hynny ei gwyr ieuaingc a syrthiant yn ei heolydd hi: ai holl ryfel-wŷr a ddifethir y dydd hwnnw medd yr Arglwydd.
31Wele fi attat ti ô falch medd Arglwydd Dduw y lluoedd, o herwydd dy ddydd a ddaw yr amser yr ymwelwyf â thi,
32A’r balch a dramgwydda, ac a syrth, ac ni ai cyfodo: ac mi a gynneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.
33Fel hynn y dywed Arglwydd y lluoedd, meibion Israel, a meibion Iuda a orthrymmwyd yng-hyd, a phawb a’r ai caethiwodd hwynt ai daliâsant, ac a wrthodâsant eu gollwng hwynt ymmaith.
34Eu rhyddhau-wr gryf, Arglwydd y lluoedd ei enw, efe a ddyru farn ar eu ymryson hwynt i beri llonydd i’r wlâd, a dychryn i bresswyl-wŷr Babilon.
35Cleddyf ar y Caldeaid, medd yr Arglwydd, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion.
36Cleddyf ar y dewiniaid fel yr ynfydant: a’r cleddyf ar ei chedyrn fel y dychrynant.
37Cleddyf ar ei meirch, ac ar ei cherbydau, ac ar yr holl weryn y rhai ydynt yn ei chanol, fel y byddant fel y gwragedd, cleddyf ar ei thryssorau, a hwynt a yspeilir.
38Sychder a ddaw ar ei dyfroedd hi fel y sychant: o herwydd gwlâd delwau hi, ac mewn eulynnod y maent yn ymlawenychu.
39Am hynny Esa.3.20.anifeiliaid gwylltion, a chathod a arhosant, a chywion yr estrys a drigant ynddi, at ni phresswylir hi mwyach byth, ac ni’s cyfanneddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth.
40Fel yr ymchwelodd Duw Sodoma, Gen.19.24.|GEN 19:24. Esa.3.19.a Gomorra ai chymydogesau medd yr Arglwydd, ni presswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi.
41Wele bobl yn dyfod o’r gogledd, a chenhedlaeth fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaiar.
42Bŵa a tharian a ddaliant, creulon ydynt ac ni thosturiant, eu llef fel môr a rûa, ac ar feirch y marchogant yn daclus i’th erbyn di merch Babilon fel rhyfel-wŷr.
43Brenin Babilon a glywodd sôn am danynt, ai ddwylo ef a lescauâsant: gwascfa ai daliodd ef, gwewyr fel gwraig wrth escor.
44 Iere.49.19. Wele fel llew y daw i fynu oddi wrth dderchafiad yr Iorddonen i’r drigfa gadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymmwth oddi wrthi hi, a’r neb a ddewiswyd a osodafi arni hi: canys pwy fel mau fi? a phwy a esid i mi amser? a phwy y bugail hwnnw a saif o’m blaen i?
45Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr Arglwydd yr hwn a ymgynghorodd efe yn erbyn Babilon, ai fwriadau y rhai a fwriadodd efe yn erbyn gwlâd y Caldeaid onid y rhai lleiaf o’r praidd ai lluscant hwynt, oni wna efe yn anghyfannedd eu trigleoedd gyd â hwynt.
46Gan drwst gorescynniad Babilon y cryn y ddaiar, ac y clywir gwaedd ym mysc y cenhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.