1Ymchwel Israel at yr Arglwydd dy Dduw: canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd dy hun.
2Cymmerwch gyd â chwi y geiriau a dychwelwch ac yr Arglwydd, a dywedwch wrtho, maddeu di ein holl anwiredd, cymmer yn ddaionus, a thalwn Heb.13.15.loi ein gwefusau.
3Nid Assur a’n hachub ni, ni farchogwn mwy ar feirch, ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, ô ein duwiau, o herwydd ynot ti y caiff yr ymddifad drugaredd.
4Meddiginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn ewyllyscar, canys trôdd fy nig oddi wrtho.
5Byddaf fel gwlith i Israel, efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus.
6Ei geingciau a gerddant, bydd ei degwch fel yr oliwydden, ai arogl fel Libanus.
7Y rhai a arhosant dann ei gyscod ef a ddychwelant, ac a dyfant ŷd, blodeuant hefyd fel y win-wŷdden, bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus.
8Ephraim beth i mi mwyach ag eulynnod? gwrandewais, ac edrychais arno: myfi fel ffynnid-wydden ir, o honofi y ceir dy ffrwyth di.
9Yr hwn ddoeth a ddeall hyn, a’r deallgar ai cydnebydd: iniawn yw ffyrdd yr Arglwydd, y rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond yr annuwolion a dramgwyddant ynddynt.
Terfyn llyfr Osea.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
