1 Deuthum i’m gardd fy chwaer dyweddi, cesclais fy Myrh gyd a’m pêr arogl, bwytteais fy nil gyd a’m mêl, yfais fyng-wîn gyda’m llaeth: bwytewch gyfeillion, yfwch, a gwnewch yn llawen rhai annwyl.
2 Myfi yn cyscu, a’m calon yn neffro lais fy annwylyd yn curo: fy chwaer, fyng-hyfeilles, fyng-holomen, fy mherffaith, agor i mi, canys llawnwyd fy mhen â gwlith, a’m gwallt â defnynnau’r nôs.
3Dioscais fy mhais, pa fodd y gwiscaf hi? golchais fy nhraed pa fodd yr halogaf hwynt?
4Fy annwylyd a estynnodd ei law drwy’r twll, a’m calon a gyffrôdd ynof.
5Mi a gyfodais i agoru i’m annwylyd, yna fy nwylo a ddiferasant Myrh, a’m byssedd Fyrh diferol ar hyd hespennau y clô.
6Agorais i’m annwylyd, yna fy annwylyd, a droase, ac a aethe heibio, llewygais pan lefarodd, ceisiais, ac ni’s cefais, gelwais ef, ond ni’m hattebodd.
7Y gwil-wŷr y rhai a aent o amgylch y ddinas a’m cawsant, a’m tarawsant, a’m harchollasant: gwil-wyr y caerau a ddugasant fy moled oddi am danaf.
8Merched Ierusalem gorchymynnais i chwi, os caech fy annwylyd fynegu iddo ef, mai claf ydwyf o gariad.
9Beth dy anwylyd rhagor anwylyd y deccaf o’r gwragedd? beth dy anwylyd rhagor anwylyd pan orchymynnaist i ni felly?
10Fy anwylyd wynn a gwridoc, yn rhagori ar ddeng-mil,
11Ei benn darn o aur coeth, ei wallt yn grych-ddu fel brân.
12Ei lygaid fel colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth wedi eu gosod fel gemau mewn aur.
13Ei ruddiau fel gardd-wely arogl-ber, o flodau pêr aroglau, ei wefusau lili yn diferu Myrh diferol:
14Ei ddwylo modrwyau aur, yn llawn o Tharsys, ei fol discleirdeb Ifori llawn o Saphyr.
15Ei forddwydydd fel colofnau Marmor wedi eu seilio ar wadnau o aur coeth, ei brŷd fel Libanus, mor ddewisol a Chedr-wydd.
16Meluster ei enau, ac efe oll yn hawddgar, dymma fy anwylyd, dymma fyng-hyfaill maufi, (ô ferched Ierusalem. )
17I ba le’r aeth dy anwylyd ti y deccaf o wragedd? i ba le y troawdd dy anwylyd ti, ac ni ai ceisiwn ef gyd â thi?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
