1Pan ddaeth Dafydd ai wŷr i Siclag y trydydd dydd: yna yr Amaleciaid a ruthrasent, ar du yr dehau, ac ar Siclag, ac a darawsent Siclag, ac ai lloscasent hi a thân.
2Caeth-gludasent hefyd y gwragedd y rhai ynddi, o fychan hyd fawr, ni laddasent hwy nêb, eithr dugasent ymmaith, ac aethent iw ffordd.
3Felly y daeth Dafydd ai wŷr i’r ddinas, ac wele hi wedi ei llosci a thân: eu gwragedd hwynt hefyd, ai meibion, ai merched a gaeth-gludasid ymmaith.
4Yna y derchafodd Dafydd, a’r bobl y rhai gyd ag ef eu llef, ac a ŵylasant hyd nad egni ynddynt i ŵylo.
5Dwy wragedd Dafydd hefyd a gaethgludasid: Ahinoam yr Iezrehelies, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.
6A bu yn gyfyng iawn ar Ddafydd, canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef, o herwydd chwerwase enaid yr holl bobl, pôb vn am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgyssurodd yn yr Arglwydd ei Dduw.
7A Dafydd a dywedodd wrth Abiathar yr offeiriad mab Ahimelec, dŵg i mi attolwg yr Ephod: ac Abiathar a ddug yr Ephod at Ddafydd.
8Yna Dafydd a ymgynghorodd a’r Arglwydd, gan ddywedyd, erlidia fi ar ôl y dorf hon? a oddiweddafi hi? ac efe a ddywedodd wrtho ef, erlid, canys gan oddiweddid y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.
9Felly Dafydd a aeth, efe a’r chwe chanŵr y rhai gyd ag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, a’r rhan arall a arhosasant
10A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr: (canys dau can-wr a safasant yn ôl y rhai a flinasent fel na allent fyned tros afon Besor. )
11A hwy a gawsant Aipht-ddyn yn y maes, ac ai dugasant ef at Ddafydd: rhoddasant hefyd iddo ef fara, ac efe a fwyttâdd, a hwy ai diodasant ef a dwfr.
12A hwy a roddasant iddo ef ddarn o ffigus, a dau o ressyng, ac efe a fwyttâdd, ai yspryd a ddychwelodd atto ef, canys ni fwyttase fara, ac ni yfase ddwfr dridiau, a thair nos.
13A Dafydd a ddywedodd wrtho ef,i bwy ti, ac o ba le y ti? ac efe a ddywedodd, llangc o’r Aipht fi, gwâs i ŵr o Amalec, a’m meistr a’m gadawodd, o blegit i mi glefychu er ys tridiau bellach.
14Nyni a anrhaithiasom du yr dehau i Cereth, a’r hyn eiddo Iuda, a thu yr dehau i Caleb: Siclag hefyd a loscasom ni a thân.
15A Dafydd a ddywedodd wrtho, a ei di a mi i wared at y dorf hon? yntef a ddywedodd rwng wrthifi i Dduw, na leddech fi, ac na roddech fi yn llaw fy meistr, ac mi a âf a thi i wared at y dorf hon.
16Ac efe ai dûg ef i wared, ac wele hwynt wedi ymwascaru ar hyd wyneb yr holl dîr: yn bwytta, ac yn yfed, ac yn llemmen, o herwydd yr holl yspail fawr yr hon a ddygasent hwy o wlâd y Philistiaid, ac a wlâd Iuda.
17A Dafydd ai tarawodd hwynt o’r cyfnos hyd bryd nawn drannoeth: ac ni ddiangodd vn o honynt, eithr pedwar cant o wŷr ieuaingc, y rhai a farchogasant ar gamêlod, ac a ffoasant.
18A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddugase yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wragedd.
19Ac nid oedd yn eisieu iddynt, na bychan na mawr, na mab, na merch, na o’r anrhaith, hyd ynoed yr hyn oll a ddugasent hwy ganddynt: hynny oll, a ddûg Dafydd adref.
20Dûg Dafydd hefyd yr holl defaid, a’r gwartheg: gyrrasant o flaen ei yrr ef, a hwy a ddywedasant, dymma anrhaith Dafydd.
21A Dafydd a ddaeth at y dau can-wr y rhai a flinasent fel nad allent fyned ar ôl Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor, a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod a’r bobl y rhai gyd ag ef: a phan nessaodd Dafydd at y bobl, efe ai cyfarchodd hwynt.
22Yna’r attebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo’r fall o’r gwyr yr rhai a aethent gyd a Dafydd, ac a ddywedasant, o herwydd nad aethant hwy gyd a ni, ni roddwn ni iddynt hwy o’r anrhaith yr hon a achubasom ni: eithr i bob vn ei wraig, ai feibion: am hynny dygant ymmaith, ac ymadawant.
23Yna y dywedodd Dafydd, ni wnewch chwi felly fy mrodyr: am yr hyn a roddes yr Arglwydd i ni, yr hwn a’n cadwodd ni, ac a roddes y dorf yr hon a ddaethe i’n herbyn ni yn ein llaw ni.
24Pwy gan hynny a wrendu arnoch chwi yn y peth hyn? canys vn fath rhann yr hwn a elo i wared i ryfel, a rhann yr hwn a arhoso gyd a’r dodrefn, hwy a gyd rannant.
25Ac o’r dydd hwnnw allan efe a osododd hynn yn gyfraith, ac yn farnedigaeth yn Israel hyd y dydd hwn.
26Pan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o’r anrhaith, i henuriaid Iuda, iw gyfeillion gan ddywedyd: wele i chwi anrheg o anrhaith gelynnion yr Arglwydd.
27[Sef] i’r rhai yn Bethel, ac i’r rhai yn Ramoth tu a’r dehau, ac i’r rhai yn Iather.
28Hefyd i’r rhai yn Aroer, ac i’r rhai yn Siphmoth, ac i’r rhai yn Estemoa.
29Ac i’r rhai yn Rachal, ac i’r rhai yn ninasoedd y Ierahmeeliaid, ac i’r rhai yn ninasoedd y Ceneaid.
30Ac i’r rhai yn Horma, ac i’r rhai yng-Horasan, ac i’r rhai yn Athach.
31Ac i’r rhai yn Hebron, ac i’r holl leoedd y rhai y rhodiase Dafydd efe ai wyr ynddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.