Deuteronomium 29 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIX.Moses trwy amryw resymmau sydd yn annog y bobl i gadw gorchymyn Duw, ai gyfammod.

1Dymma eiriau y cyfammod yr hwn a orchymynnodd’r Arglwydd wrth Moses ei wneuthur a meibion Israel o fewn tir Moab: heb law y cyfammod yr hwn a ammododd efe a hwynt yn Horeb.

2Yna y galwodd Moses am holl Israel, ac y dywedodd wrthynt: chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhîr yr Aipht i Pharao, ac iw holl weision, ac i’w holl dir.

3[Sef] y profedigaethau mawrion y rhai a welodd eich llygaid, yr arwyddion, a’r rhyfeddodau mawrion hynny.

4Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed hyd y dydd hwn.

5Arweinais chwi yn yr anialwch ddeugain mlhynedd hefyd: ni heneiddiodd eich dillad am danoch, ac ni heneiddiodd dy escid am dy droed.

6Bara ni fwyttasoch, a gwîn neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwyddech mai myfi yr Arglwydd eich Duw chwi.

7A daethoch hyd y lle hwn: yna y daeth allan Sebon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan i’n cyfarfod mewn rhyfel, ac ni ai lladdasom hwynt:

8Ac a ddugasom eu tîr bwynt, ac ai rhoesom yn etifeddiaeth i’r Rubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasses.

9 Deut.4.6. Cedwch gan hynny eiriau y cyfammod hwn, a gwnewch hwynt, fel y dealloch yr hyn oll a ddylech ei wneuthur.

10Yr ydych chwi oll yn sefyll heddyw ger bron yr Arglwydd eich Duw: eich pennaethiaid, eich llwythiau, eich henuriaid, a’ch swyddogion phôb gŵr o Israel:

11Eich plant, eich gwragedd, a’th ddieithr yr hwn o fewn dy werssyll, o gymynudd dy goed, hyd wahennudd dy ddwfr.

12I fyned o honot dann gyfammod yr Arglwydd dy Duw, a thān ei gyngrair ef, yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur a thi heddyw.

13I’th siccrhau heddyw yn bobl iddo ei hun, ac i fod o honaw yntef yn Dduw i ti, megis y llefarodd wrthit, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Iacob.

14Ac nid a chwi yn vnic yr ydwyfi yn gwneuthur y cyfammod hwn, a’r cyngrair ymma:

15Ond a’r hwn sydd ymma gyd a ni yn sefyll heddyw ger bron yr Arglwydd ein Duw, ac a’r hwn nid ymma gyd a ni heddyw.

16Canys chwi a ŵyddoch y modd y trigasom ni yn nhîr yr Aipht, a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt.

17A chwi a welsoch eu ffiaidd-dra hwynt, ai heulun dduwiau, (o bren, a maen, arian, ac aur,) y rhai gyd a hwynt.

18Rhac bod yn eich mysc ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y trŷ ei galon heddyw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fynedi wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn: rhac bod yn eich mysc wreiddin yn ffrwytho gwenwyn, ac wermod,

19A bod pan glywo efe eiriau y cyngrair hwn ymfendithio o honaw yn ei galon ei hun, gan ddywedyd: heddwch fydd i mi pan rodiwyf yng-hyndynrwydd fyng-halon i chwanegu y feddw at y sychedic.

20Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo, canys yna y myga digllonedd yr Arglwydd, ai eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a’r holl felldith yr hon syff scrifennedic yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r Arglwydd a ddelea ei enw ef oddi tann y nefoedd.

21A’r Arglwydd ai nailltua ef oddi wrth holl lwythau Israel i drygioni, yn ôl holl felldithion y cyfammod yr hwn a scrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.

22A dywed y genhedlaeth yr hon a ddaw ar ôl, eich plant chwi y rhai a godant ar eich ôl chwi, a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlâd bell pan welant blauau y wlâd hon, ai chlwyfau’r hai y llescaodd yr Arglwydd hi:

23(Ei thîr wedi ei losci oll frwmstan, a halen, ni heuir, ac ni flaen-dardda, ac ni ddaw i fynu vn llyssieun ynddo: fel dinistr Genes.19.25.Sodoma, a Gomorra, Adama, a Zeboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei ddigllonedd, ai ddigofaint. )

24A’r boll genhedloedd a ddywedant, 1.Bren.9.8. Ierem.22.8.pa ham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tîr hwn? pa digter yw y digllonedd mawr hyn?

25Yna y dywedir, am wrthod o honynt gyfammod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a ammododd efe a hwynt, pan ddûg efe hwynt allan o dîr yr Aipht.

26Canys aethant, a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymmasant iddynt dduwiau y rhai nis adwaenent hwy, ac ni roddasent iddynt

27Am hynny’r enynnodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlâd hon, i ddwyn arni bob melldith a’r y sydd scrifennedic yn y llyfr hwn.

28A’r Arglwydd ai dinistriodd hwynt oi tîr mewn diglloned, ac mewn digter, ac mewn llîd mawr: ac ai gyrrodd hwynt i wlâd arall megis heddyw.

29Y dirgeledigaethau eiddo’r Arglwydd ein Duw, a’r amlwg bechau ini, ac i’n meibion hyd byth, i wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help