Psalmau 135 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxxxv.Molwch yr Arglwydd.

1Molwch enw’r Arglwydd gweision yr Arglwydd molwch

2Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ’r Arglwydd yng-hynteddoedd tŷ ein Duw ni.

3Molwch yr Arglwydd canys da’r Arglwydd: cenwch iw enw canys hyfryd yw.

4O blegit yr Arglwydd a ddetholodd Iacob, Israel yn bobl vnic iddo ef.

5Canys mi a wn mai mawr yw’r Arglwydd, a ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

6Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynne yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, yn y môr, ac yn yr holl ddyfndêrau.

7Y mae yn codi mwgdarth o eithafoedd y ddaiar, mellt a wnaeth efe yng-hyd a’r glaw: gan ddwyn y gwynt allan oi dryssorau.

8Yr hwn a darawodd gyntaf-anedic yr Aipht, yn ddŷn ac yn anifail.

9Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di’r Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl weision.

10Yr hwn a darawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion:

11Sehon brenin yr Amoriaid: ac Og brenin Basan: a holl frenhiniaethau Canaan.

12Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13Dy enw ô Arglwydd yn dragywydd: dy goffadwriaeth ô Arglwydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

14Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a dosturia wrth ei weision.

15Delwau y cenhedloedd arian ac aur, gwaith dwylo dŷn.

16Genau iddynt, ond ni lefarant: llygaid ganddynt, ac ni welant.

17[Y mae] clustiau iddynt, ac ni chlywant: nid oes ychwaith anadl yn eu genau.

18Fel hwynt y mae y rhai ai gwnelont, a phob vn a ymddyriedo ynddynt.

19Tŷ Israel bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd tŷ Aaron.

20Tŷ Lefi bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd.

21Bendithier yr Arglwydd o Sion, yr hwn sydd yn trigo yn Ierusalem. Molwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help