1.Samuel 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.Dafydd yn cael gan Ahimelec yr offeiriad y bara gosod iw fwytta, a chleddyf Goliath iw wisco.

1Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelec yr offeiriad, ac Ahimelec a ddychrynnodd wrth gyfarfod a Dafydd, ac a ddywedodd wrtho ef: paham yr ydwyt ti yn vnic, ac heb nêb gyd a thi?

2Yna y dywedodd Dafydd wrth Ahimelec yr offeiriad, y brenin a orchymynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthif, na chaed neb ŵybod ddim o’r peth yr hwn i’th anfonais, ac yr hwn y gorchymynnais i ti: a’r llangciau a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle.

3Ac yn awr beth sydd dann dy law? dodi mi bump torth: neu a geffir.

4A’r offeiriad a attêbodd Ddafydd, ac a ddywedodd, Exod.25.30. Lefit.24.5. Matth.12.3.4.nid fara cyffredin tann fy llaw i: eithr y mae bara cyssegredic os y llangciau a ymgadwasant yn enwedig oddi wrth wragedd.

5Yna’r attebodd Dafydd yr offeiriad ac a ddywedodd wrtho, diau attal gwragedd oddi wrthym ni erys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i, llestri y llangciau hefyd ydynt yn sanctaidd, er y ffordd honno yn halogedic, etto diau y sancteiddir heddyw yn y llestr?

6Felly yr offeiriad a roddes iddo ef sanctaidd, canys nid oedd yno fara, onid bara gosod yr hwn a dynnasid ymmaith oddi ger bron yr Arglwydd i osod bara poeth yn y dydd y tynnid ef ymmaith.

7Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw vn o weision Saul yn aros ger bron yr Arglwydd ai enw Doeg yr Edomiad, y pennaf o’r bugeiliaid y rhai gan Saul.

8A dywedodd Dafydd wrth Ahimelec onid oes ymma tann dy law di waiw-ffon, neu gleddyf? canys ni chymmerais fyng-hleddyf, na’m harfau ychwaith i’m llaw, o herwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrŵst.

9Yna y dywedodd yr offeiriad, cleddyf Goliath y Philistiad yr hwn a leddaist di yn nyffryn Pen.17.2.Elah, wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ôl i’r Ephod: o chymmeri hwnnw i ti cymmer: canys nid ymma arall onid hwnnw: a Dafydd, a dywedodd nid o fath hwnnw, dyro ef i mi.

10Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffôdd y dydd hwnnw o ŵydd Saul: ac a ddaeth at Achis brenin Gath.

11Yna gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, onid hwn yw Dafydd Pen.17.9.|1SA 17:9 & 18.7.|1SA 18:7 & 29.5.|1SA 29:5. Ecclus.47.6.brenin y wlâd? onid i hwn y canâsant yn y dawnsiau gan ddywedyd: Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?

12A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon: ac a ofnodd yn ddirfawr rhac Achis brenin Gath.

13Ac efe a newidiodd ei ymadrodd yn ei gŵydd hwynt, ac a gymmerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a scribliodd ar ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.

14Yna y dywedodd Achis wrth ei weision: wele gwelwch y gŵr yn gwallgofi, pa ham y dugasoch ef attafi?

15[Ai] eisieu ynfydion sydd arnafi, pan ddugasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m tŷ i?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help