Esther 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Esther yn hydêru myned at y brenin, ac yn ei wahodd ef, ac Haman i wledd. 14 Haman yn peri gwneuthur croc-pren i Mordocêus.

1Ar y trydydd dydd Esther a ymwiscodd brenhinawl ac a safodd yng-hyntedd tŷ’r brenin o’r tu fewn, ar gyfer tŷ’r brenin: a’r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrn-gader yn y brenhin-dŷ gyferbyn a drws y tŷ.

2A phan welodd y brenin Esther y frenhines yn sefyll yn y cyntedd, hi a gafodd ffafor yn ei olwg ef: am hynny y brenin a estynnodd Esth.4.11.y deyrn-wialen aur, yr hon yn ei law ef tu ag at Esther, ac Esther a nessaodd, ac a gyffyrddodd a phenn y deyrn-wialen.

3Yna y brenin a ddywedodd wrthi, beth gennit ti y frenhines Esther? apha beth dy ddeisyfiad? Marc.6.23.hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe ai rhoddir it.

4A dywedodd Esther, o rhynga bodd i’r brenin: deled y brenin, a Haman heddyw i’r wledd yr hon a wneuthum iddo ef.

5A’r brenin a ddywedodd, perwch i Haman fryssio i wneuthur yn ôl gair Esther: felly y daeth y brenin a Haman i’r wledd yr hon a wnaethe Esther.

6Yna y brenin a ddywedodd wrth Esther yng-hyfeddach y gwîn, beth yr wyt ti yn ei ofyn, ac fe a roddir i ti? a pheth yr wyt ti yn ei geisio? hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe ai cwpleuir.

7Ac Esther a attebodd, ac a ddywedodd: fy nymuniad, a’m deisyfiad

8O chefais ffafor yng-olwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad: deled y brenin a Haman i’r wledd yr hon a arlwywyf iddynt, ac y foru y gwnaf yn ôl gair y brenin.

9Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordocêus ym mhorth y brenin, ac na chyfodase efe, ac na syflase erddo ef, yna Haman a gyflawnwyd o ddigllonedd yn erbyn Mordocêus.

10Er hynny Haman a ymataliodd, ac a ddaeth iw dŷ ei hun: yna efe a anfonodd, ac a wahoddodd ei garedigion, a Zeres ei wraig.

11A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth ef, ac amldra ei feibion: a’r hyn oll y mawrhause ef, ac fel y derchafase ef goruwch y tywysogion, a gweision y brenin.

12A dywedodd Haman hefyd, ni wahoddodd Esther y frenhines gyd a’r brenin i’r wledd yr hon a wnaethe hi onid myfi: ac y foru hefyd i’m gwahoddwyd atti hi gyd a’r brenin.

13Ond nid yw hyn oll yn llessau i mi: bob amser a’r yr ydwyfi yn gweled Mordocêus’r Iddew yn eistedd ym-mhorth y brenin.

14Yna y dywedodd Zeres ei wraig, ai holl garedigion wrtho ef, paratoer prenn yn ddec cufydd a deugain o vchter, a’r boreu dywet wrth y brenin am iddynt grogi Mordocêus arno ef, yna dos gyd a’r brenin i’r wledd yn llawen: a dâ oedd y peth ger bron Haman, am hynny efe a baratôdd y croc-prenn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help