Marc 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Crist yn marchogaeth i Ierusalem. 14 yn melldithio y ffigus-bren 15 yn bwrw y pryn-wyr a’r gwerthwyr o’r deml, 22 yn annog i gredu a maddeu 27 Ac yn gofyn o ba le yr oedd bedydd Ioan.

1Ac Math.21.1. Luc.19.29.wedi eu dyfod yn agos i Ierusalem i Bhethphage a Bethania hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfones ddau o’i ddiscyblion,

2Ac a ddywedodd wrthynt, ewch ymmaith i’r dref yr hon sydd gyferbyn â chwi: ac er cynted y deloch yno, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, (ar yr hwn nid eisteddodd neb) gollyngwch a dygwch ef.

3Ac os dywed neb wrthych, pa ham y gwnewch hynny? dywedwch, am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef: ac heb oludd efe a’i denfyn ymma.

4Ac hwy a aethant ymmaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croes-ffordd, ac a’i gollyngasant ef.

5A rhai o’r rhai oeddynt yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, beth a wnewch chwi yn gollwng yr ebol yn rhydd?

6Hwythau a ddywedasant fel y gorchymynnase yr Iesu iddynt, ac yna y gollyngasant hwynt ymmaith.

7 Iohn.12.14 Ac hwy a ddaethant â’r ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno, ac efe a eisteddodd arno.

8A llawer a danasant eu dillad ar hŷd y ffordd, eraill a dorrasant gangeu o’r prenni, ac a’u tanâsant ar y ffordd.

9A’r rhai oeddent yn myned o’r blaen a’r rhai oeddent yn dyfod a’r ôl a lefâsant gan ddywedyd: Psal.118.26. Hosanna, bendigedîg’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd,

10Bendigaid teyrnas ein tâd Dafydd, yr hon a ddaw yn enw’r Arglwydd, Hosanna yn y goruchelder.

11A’r Iesu a aeth i mewn i Ierusalem, ac i’r Deml, ac wedi iddo edrych ar bôb peth o’i amgylch (a hi yr awran yn hŵyr) efe a aeth allan i Bethania gyd â’r deuddec.

12A Math.21.17. thrannoeth wedi iddynt ddyfod allan o Bethania yr oedd arno chwant bwyd:

13Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigusbrē, ac arno ddail, efe a aeth a gaffe ddim arno: a phan ddaeth atto, ni chafodd efe ddim ond dail, am nad oedd amser ffigus.

14Yna’r Iesu gan atteb ac a ddywedodd wrth y ffigusbren: o hyn allan na fwyttaed neb o honot ffrwyth yn dragywydd, a’i ddiscyblion ef a glywsant.

15A Math.21.12. Luc.19.45.hwynt a ddaethant i Ierusalem: ac Iesu wedi myned i’r Deml, a ddechreuodd daflu allan y rhai a werthent, ac a brynent yn y Deml, ac a ymchwelodd drestelau’r arianwŷr, a chadeiriau’r gwerthwŷr colomennod.

16Ac ni adawe efe i neb ddwyn llestr drwy’r Deml.

17Ac efe a’u dyscodd gan ddywedyd wrthynt: onid yw yn scrifennedic, y Esa 56.7.|ISA 56:7. Ierem.7.11gelwir fy nhŷ maufi, yn dŷ gweddi i bôb cenhedlaeth? a chwi a’i gwnaethoch ef yn ogof lladron.

18A’r scrifennyddion a’r arch-offeiriaid a glywsant hyn, ac a geissiasant fodd iw ddifetha ef: canys oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl dyrfa yn rhyfeddu o blegit ei athrawiaeth ef.

19A phan aeth hi yn hŵyr, efe a aeth allan o’r ddinas.

20A’r Math.21.20boreu wrth fyned heibio, gwelsant y ffigusbren wedi crîno o’r gwraidd.

21Yna argofiodd Petr, a efe a ddywedodd wrtho, Athro, wele’r ffigusbren a felltithiaist wedi crîno.

22A’r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt: bydded gennych ffydd ar Dduw.

23Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn: tynner di ymmaith, a bwrier di i’r môr: ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe, beth bynnag a archo a fydd iddo.

24Am hynny meddaf i chwi, Math.7.1. Luc.11.9Beth bynnag oll a geisiwch wrth weddio, credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.

25A phan safoch ar weddio, Math.6.14.maddeuwch o bydd gennych ddim yn erbyn neb, fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau.

26Ac oni faddeuwch chwi: eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddeu i chwithau eich camweddau.

27Yna y daethant trachefn i Ierusalem, Math.21.23. Luc.20.2ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y Deml, yr arch-offeiriaid a’r scrifennyddion a’r henuriaid a ddaethant atto,

28Ac a ddywedasant wrtho: trwy ba awdurdod yr rdwyt yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?

29Yr Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt: minef a ofynnaf i chwithau vn gair: ac attebwch fi, a dywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

30Bedydd Ioan ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? attebwch fi.

31Ac ymresymmu a wnaethant ynddynt eu hunain gan ddywedyd. Os dywedwn o’r nef, efe a ddywed, pa ham gan hynny na chredech iddo?

32Eithr os dywedwn, o ddynion, y mae arnom ofn y bobl: canys pawb oll a gymmerent Ioan yn wir brophwyd.

33Yna yr attebasant gan ddywedyd wrth yr Iesu, ni wyddom ni, a’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt hwythau, ni ddywedaf fine i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help