1 Hefyd frodyr ni fynnwn na’s gwyddech Exod.13.21. Num.9.19.fod ein tadau tann y cwmwl Exod.14.22.a’u myned oll trwy y môr,
2A’u bedyddio hwy oll i Moses yn y cwmwl a’r môr:
3A bwyta o bawb yr vn bwyd ysprydol,
4 Exod.17.6. Num.20.10. Ac yfed o bawb yr vn ddiod ysprydol (canys hwy a yfasant o’r graig ysprydol a oedd yn canlyn a’r graig oedd Crist)
5Eithr ni bu fodlon gan Dduw y rhan fwyaf o honynt: Num.26.65.canys cwympwyd hwynt yn y diffaethwch.
6A hyn a wnaed yn siampl i ni, fel na Num.11.5. Psal.106.14.chwennychem ddrygioni, fel y chwennychasant hwy.
7Na fyddwch chwithau addol-wŷr eulynnod, fel rhai o honynt hwy, megis y mae yn scrifennedic: Exod.32.6.eisteddodd y bobl i fwyta, ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu.
8Ac na odinebwn ni, Num.25.9.fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd yn vn dydd dair mîl ar hugain.
9 Num.21.6. Psal.106.14. Ac na themtiwn Grist megis y temtiodd rhai o honynt hwy, ac eu destruwiwyd gan seirph
10Ac na rwgnechwch megis y grwgnachodd rhai o honynt hwy, Num.24.37.(sic.)ac e’u destruwiwyd gā y dinistrydd.
11A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siampl iddynt hwy, ac a scrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar ba rai y daeth terfynau yr oesoedd.
12Am hynny yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.
13Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, onid vn dynol, eithr ffyddlon yw Duw yr hwn ni âd eich temtio vwch-law yr hyn a alloch, eithr gyd â’r temptasiwn y gwna efe ddiangfa fel y galloch ei ddwyn.
14Am hynny fy annwylyd gochelwch addoliad eulynod.
15Dywedyd yr wyf fel wrth rai pwyllog: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd.
16Phiol y fendith yr hon a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist yw? y bara yr hwn a dorrwn, onid cymmu corph Crist yw?
17O blegit nyni yn llawer ydym vn baravn corph, canys yr ydym ni oll yn gyfrannogion o’r vn bara.
18Edrychwch ar Israel yr hwn sydd o herwydd y cnawd, onid yw y rhai sy yn bwyta yr ebyrth yn gyfrannogion o’r allor?
19Beth yr ydwyf yn ei ddywedyd wrth hynny? ai bod yr eulyn yn ddim, neu ’r peth a aberthwyd i’r eusyn yn ddim?
20Ond y pethau y mae y cenhedloedd yn eu haberthu i’r cythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw: ni fynnwn i chwi fod yn gyfrannogion o’r cythreuliaid.
21Ni ellwch yfed o phiol yr Arglwydd, a phiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfrannogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid.
22A ydym ni yn annog yr Arglwydd i ddig? a ydym ni yn gadarnach nag ef?
23 Eccles.37.27. Pôb peth sydd gyfreithlawn i mi eithr nid yw pôb peth yn gwneuthur llesâd: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.
24Na cheisied neb ei fudd ei hun: ond pawb yr eiddo arall.
25Beth bynnag a werthir yn y gigfâ bwytewch heb ofyn dim er mwyn cydwybod.
26 Psal.24.1. Canys yr Arglwydd piau y ddaiar a’i chyflawnder oll.
27Os bydd i neb o’r anffyddlonion eich gwahodd, a chwi yn myned, bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er cydwybod.
28Eithr os dywed neb wrthych: peth wedi ei offrymmu i eulyn yw hwn, na fwyta er mwyn y neb a ddangosodd, ac er mwyn cydwybod: canys yr Arglwydd piau y ddaiar a’i chyflawnder.
29Cydwybod meddaf nid yr eiddo ti, ond arall: canys pa ham y bernir fy rhydd-did i gan gydwybod arall?
30Ac os myfi trwy ddiolch a gymmeraf gyfran, pa ham i’m ceblir am y peth yr wyf yn ddiolchgar.
31 Coloss.3.17. Am hynny pa vn bynnag a wneloch ai bwyta, ai yfed, ai peth arall, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.
32Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon, ac i’r cenhedloedd, ac i eglwys Dduw:
33Megis yr wyfi yn rhyngu bodd i bawb ym mhôb pêth, heb geisio fy llesad fy hunan, ond llesâd llaweroedd, fel y byddant gadwedig.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.