1.Petr 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.2 Dangos y mae efe mai trwy aml drugaredd Duw i’n detholwyd, ac i’n adgenhedlwyd i obaith bywiol, 7 a’r modd y treir ffydd, 10 nad yw’r iechydwriaeth yng-Hrist beth newydd, eithr peth wedi ei brophwydo gynt, 13 y mae efe yn eu hannog hwy i ymwreddiad duwiol, yn gymmeint a’u geni hwy yn awr o newydd gan air Duw.

1Petr Apostol Iesu Grist, at dieithriaid y rhai sy ar wascar rhyd Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithinia,

2Y rhai a ddetholwyd trwy ragwybodaeth Duw y Tâd i sancteiddrwydd yr Yspryd, trwy vfydd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist, grâs i chwi a heddwch a amlhauer.

3Bendigedic fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn o’i fawr drugaredd a’n ad-enillodd ni i obaith bywiol, trwy ail-gyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,

4I gael etifeddiaeth ddiddiwedd, a dilwgr, a diddiflannedig, yr hon a rodded i gadw yn y nef i chwi,

5Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i gael y diogelwch a ddarparwyd, iw arddangos yn yr amser diweddaf:

6Yn yr hwn beth yr ydych yn llawenhau, cyd byddech ennyd bach (o bae raid) mewn tristwch, herwydd amryw brofedigaethau,

7Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach nâ’r aur colladwy (cyd profer ef trwy dân) er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant i chwi pan ymddangoso Iesu Grist:

8Yr hwn heb ei weled yr ydych yn ei garu, yn yr hwn, er nas gwelwch ef yr awr hon, yr ydych er hynny yn credu, ac yn llawenhau â llawenydd anhraethadwy, a gogoneddus:

9Gan dderbyn terfyn eich ffydd iechydwriaeth yr eneidiau.

10Am yr hon iechydwriaeth yr ymofynnodd, ac y chwiliodd y prophwydi, y rhai a brophwydasant am y grâs yr hwn ichwi,

11Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser y bydde i Yspryd Crist yr hwn oedd ynddynt hwy yn testiolaethu yn y blaen, yspysu y dioddefaint Crist, a’r gogoniant au cyd ganlyne hwynt.

12I’r rhai y dangoswyd nad iddynt hwy, eithr i nyni y gwasanaethe y pethau a fynegwyd i chwi, trwy y rhai a bregethasant i chwi yr Efengyl trwy’r Yspryd glân, yr hwn a ddanfoned o’r nefoedd, ac ar y rhai y mae yr angelion yn chwennych cael edrych.

13O blegit hyn gwregyswch lwynau-eich meddwl: byddwch sobr: a gobeithiwch yn berffaith ar y grâs a dducpwyd attoch, trwy ymddangosiad Iesu Grist,

14Megis plāt vfydd, y rhai ni chyd-ymgyffelybwch eich hunain â hên drachwantau eich anwybodaeth.

15Eithr megis y mae y neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, Luc.1.75.byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhôb ymwreddiad,

16Am hynny yr scrifennir, Lefit.11.44.byddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyfi.

17Ac os gelwch ef yn Dâd, yr hwn Deut 10.17.|DEU 10:17. rhuf.2.11.|ROM 2:11. gal 2.6heb dderbyn ŵyneb neb a farna ar ôl gweithred pawb, ymddygwch tros amser eich preswylfod mewn ofn,

18Gan ŵybod nad â phethau llygredig arian neu aur i’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymwreddiad, yr hon a gawsoch o draddodiadau y tadau:

19Eithr â 1.Cor.6.20. & 7.23. heb 9.14.|HEB 9:14. 1.ioa.1.7.|1JN 1:7. gwele.1.5.gwerthfawr waed Crist, megis oen difrycheulyd, dihalogedig.

20Yr Rhuf.16.25. ephe.3.9.|EPH 3:9. col.2.26.(sic.)|COL 1:26. 2 tim.1.19.|2TI 1:10. tit.2.2,hwn a ddarparwyd yn y blaen cyn gosod sylfaenau’r bŷd, eithr a yspyswyd yn yr amser diweddaf er eich mwyn chwi,

21Y rhai ydych trwyddo ef yn credu i Dduw, yr hwn ai cyfodes ef oddi wrth y meirw, ac a roddes iddo ef ogoniant, fel y bydde eich ffydd chwi a’ch gobaith ar Dduw.

22A chwi wedi puro eich eneidiau gan vfyddhau i’r gwirionedd trwy’r Yspryd, Rom.12.10.|ROM 12:10. ephes.4.3.mewn cariad brawdol diledrith, cerwch bawb ei gilydd â chalon bûr yn rymmus,

23Chwi a aned o newydd, nid o had marwol, eithr anfarwol trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw, ac yn parhau yn dragywydd.

24 Esdr.40.6.(sic.)|ISA 40:6. eccles.14.18.|SIR 14:18. iac.1.10. Canys pob cnawd fel y glas-welltyn yw, a phob rhyfyg dyn fel blodeun y glas-wellt: gwywo a wna’r glas-wellt, a’r blodeun a syrth i lawr.

25Eithr gair yr Arglwydd a erys yn dragywydd, a hwn ydyw y gair a bregethwyd i chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help