1A brenin Num 33.40.Arad y Cananead presswylydd y dehau a glybu fod Israel yn dyfod ffordd yr spiwyr, ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a gaeth-gludodd gaeth-glud oddi arno.
2Yna yr addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd: os gan roi y rhoddi y bobl ymma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.
3A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel, ac a roddodd y Cananeaid ef, ac efe ai difrododd hwynt, ai dinasoedd, ac a alwodd henw y lle Horma.
4A chychwnnasant o fynydd Hor, ffordd y môr coch, i amgylchu tîr Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, o herwydd y ffordd.
5Yna y llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses pa ham y dugasoch ni o’r Aipht i feirw yn yr anialwch? canys nid na bara na dwfr? Num.11.6.a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael
6Yna Doeth 16.1.|WIS 16:1. 1.cor.10.9.yr anfonodd yr Arglwydd ym mysc y bobl seirph tanllyd, a hwynt a frathasant y bobl, a bu feirw o Israel bobl lawer.
7A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, pechasom, canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithe, gweddia ar yr Arglwydd ar yrru o honaw ef y seirph oddi wrthym: a gweddiodd Moses tros y bobl.
8A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, gwna it danllyd a gosot ar bawl: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno fydd byw.
9Felly y 4 Bren.18.4.|2KI 18:4. ioan.3.14.gwnaeth Moses sarph brês, ac ai gosododd hi ar hawl: yna os brathe sarph ŵr ac edrych o honow ef ar y sarph brês, byw fydde.
10A meibion Israel Num.33.43.a gychwnnasant ac a werssyllasant yn Oboth.
11A chychwnnasant o Oboth, a gwerssyllasant yng-harneddau Abarim, yn yr anialwch yr hwn ar gyfer Moab o codiad haul.
12Cychwnnasant oddi yno, a gwerssyllasant wrth afon Zared.
13Cychwnnasant oddi yno, a gwerssyllasant wrth ryd Arnon, yr hon yn yr anialwch yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Arnon derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid.
14Am hynny y dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon.
15Ac raiader yr afonydd, hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwyssa at derfyn Moab.
16Ac oddi yno i Beer, honno’r ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cascl y bobl yng-hyd fel y rhoddwyf iddynt ddwfr.
17Yna y cânodd Israel y gân hon: cyfot ffynnon, cenwch iddi.
18Ffynnon a gloddiodd tywysogion a gloddiodd pennaethiaid y bobl yng-hyd a’r deddfwr ai ffynn: ac o’r anialwch i Mathana.
19Ac o Mathana i Nahaliel, ac o Nahaliel i Bamoth,
20Ac o Bamoth y dyffryn, yr hwn yng-wlad Moab, i ben y bryn, yr hwn sydd yn edrych tua yr diffaethwch.
21 Baru.11.19.(sic.) Yna yr anfonodd Israel gennadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd:
22Gâd ti i mi fyned trwy dy dir ni throiwn i faes, na gwinllan, nid yfwn ddwfr ffynnon, ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom trwy dy fro.
23Ac ni rodd Deut.29.7. iosua.12.2.Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad, onid casclodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel tua’r anialwch: ac efe a ddaeth i Iaza, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.
24A Psal.135.11. amos.2.9.tharawodd Israel ef a mîn y cleddyf, ac a orescynnodd ei dîr ef, o Arnon hyd Iabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn terfyn meibion Ammon.
25A chymmerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny, a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hespon, ac yn ei holl bentrefydd.
26Canys dinas Sehon brenhin yr Amoriaid ydoedd Hespon, ac yntef a ryfelase yn erbyn brenin Moab yr hwn a fuase o’r blaen, ac a ddug ei dîr ef oddi arno hyd Arnon.
27Am hynny y diarheb-wyr a ddywedant, deuwch i Hespon, adailader, a chadarnhaer dinas Sehon.
28Canys tân aeth allan o Hespon fflam o dref Sehon: bwyttaodd Ar Moab, pherchennogion Bamoth Arnon.
29Gwae di Moab, darfu am danat pobl Cemos, rhodd ei feibion diangol, ai ferched mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid.
30Pan saethasom hwynt darfu am Hespon hyd Dibon, ac anrhaithiasom hyd Nopha yr hon hyd Mediba.
31A thrigodd Israel yn nhîr yr Amoriaid.
32Yna yr anfonodd Moses i chwilio Iazer, 65 a gorchfygasant ei phen-trefydd hi, ac a orescynnasant yr Amoraid y rhai yno.
33 Deut.3.1. deut.29.7. Troesant hefyd ac aethant i fynu hyd ffordd Basan, ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel hyd Edrai, efe ai holl bobl.
34A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, nac ofna ef, canys yn dy law di y rhoddaf ef, ai holl bobl, ai dîr, a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amorriaid, yr hwn yn trigo yn Hespon.
35Am hynny y tarawsant ef, ai feibion, ai holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill, a gorescynnasant ei dîr ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.